Cynhadledd Mynediad i AU 2026
Dyddiad: 5 Mehefin 2026
Lleoliad: Canolfan Adnoddau’r Cyfryngau (MRC), Llandrindod
Amser: 10:00am – 4:00pm
Cost Am ddim i’r holl fynychwyr
Dyddiad cau archebu lle: 22 Mai 2026
Gwybodaeth am y Gynhadledd
Mae Cynhadledd Mynediad i AU 2026 Agored Cymru yn ddigwyddiad undydd am ddim, sydd yn cael ei gynnal ar 5 Mehefin 2026 yng Nghanolfan Adnoddau’r Cyfryngau (MRC), Llandrindod.
Bydd cynhadledd eleni yn canolbwyntio ar dair thema allweddol sydd yn siapio datblygiad a dyfodol y Diploma Mynediad i Addysg Uwch yng Nghymru a thu hwnt.
- Defnyddio Deallusrwydd Artiffisial (AI) mewn asesiadau Mynediad i AU
- Defnyddio data i ddeall effaith y Diploma Mynediad i AU yng Nghymru
- Cyfleoedd a heriau yng nghyd-destun diwygio'r sector
Bydd y diwrnod yn cynnwys cyflwyniadau ar ymchwil diweddar a gynhaliwyd mewn perthynas â Mynediad i AU, gyda chyfleoedd i ymgysylltu gyda’r darganfyddiadau, cyfrannu at drafodaethau a chysylltu gyda chydweithwyr ledled Cymru.
Sut i archebu lle
Er mwyn cadw eich lle, cwblhewch archeb.
Rhaid derbyn archebion erbyn dim hwyrach na 22 Mai 2026.
Cysylltwch â ni
Am ragor o wybodaeth am y gynhadledd, cysylltwch â:
Victor Morgan Rheolwr Mynediad i AU, Agored Cymru E-bost: [victor.morgan@agored.cymru]