Bwriadwyd y gweithgaredd safoni hwn ar gyfer canolfannau sy'n cynnig neu'n bwriadu cynnig cymhwyster Dysgu yn yr Awyr Agored Lefel 3 ar hyn o bryd.
Mae digwyddiadau safoni wedi’u cynllunio ar gyfer y canlynol:
• Aseswyr
• Staff Sicrhau Ansawdd Mewnol (IQA)
Bydd y safoni yn adolygu tystiolaeth a gyflwynwyd gan ganolfannau. Y nod yw cytuno ar ddilysrwydd methodoleg asesu a phenderfyniadau graddio. Bydd hefyd cyfle i rannu arfer da a meysydd ar gyfer datblygu a nodwyd yn ystod gweithgaredd EQA'r flwyddyn flaenorol.
Rhaid i’r rhai sy’n mynychu fod yn aseswyr/staff Sicrhau Ansawdd Mewnol gweithredol, cymwys a phrofiadol, neu fod wedi mynychu cwrs ‘Asesiad’ neu ‘Sicrhau Ansawdd Mewnol’ Agored Cymru. Rhaid iddynt hefyd allu rhannu gwybodaeth a rhoi ymarfer da ar waith yn eu sefydliad eu hunain.
Bydd angen i'r rhai sy'n mynychu cael dyfais bersonol addas (er enghraifft gliniadur) er mwyn gallu cymryd rhan yn y sesiwn.
Er mwyn mynd i’r afael â’r angen am gynrychiolaeth o amrywiaeth o ganolfannau, rydym yn cadw’r hawl i gyfyngu ar nifer y lleoedd sydd ar gael i bob canolfan i 2.