Ymunwch â ni am gyfarfod ar-lein ar gyfer canolfannau Mynediad i HE Agored Cymru ddydd Mawrth 28 Hydref 2025, rhwng 15:30–16:30. Bydd y sesiwn hon yn adolygu canlyniadau'r flwyddyn academaidd ddiwethaf, gan gynnwys adolygiad o gyfraddau llwyddiant dysgwyr, cymeradwyo dau Ddiploma AHE newydd a chanlyniadau gweithgareddau cymedroli allanol. Rhennir gweithgareddau datblygu a gynhelir ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod a byddwn hefyd yn darparu diweddariad ar gofrestriadau dysgwyr ar gyfer y flwyddyn gyfredol, yn tynnu sylw at gyfleoedd i gydnabod rhagoriaeth trwy Wobrau Dysgwr y Flwyddyn ac yn nodi rhai diweddariadau rheoleiddiol allweddol sy'n effeithio ar Ddiploma AHE. Yn ogystal, bydd y cyfarfod yn cefnogi canolfannau wrth gynllunio ar gyfer gweithgareddau sicrwydd ansawdd allanol ac yn darparu diweddariad ehangach ar ddatblygiadau yn Agored Cymru. Mae hon yn gyfle gwerthfawr i gwrdd â chyfoedion, myfyrio, a edrych ymlaen at y flwyddyn academaidd sydd i ddod.