Mae Agored Cymru yn datblygu Diploma Mynediad i AU newydd i gydymffurfio â disgrifydd pwnc QAA mewn Proffesiynau Nyrsio ac Iechyd. Er mwyn sicrhau bod y Diploma yn darparu paratoad cynhwysfawr ar gyfer datblygu i raglenni addysg uwch cysylltiedig, yn adlewyrchu anghenion dysgwyr a chanolfannau ac yn cydymffurfio’n llawn â Chynllun Cydnabod Mynediad i AU QAA, mae’n hanfodol ein bod yn derbyn mewnbwn gan ymarferwyr Mynediad i AU profiadol â’r arbenigedd pwnc priodol.
Gwahoddir ymarferwyr i ymuno â’r grwp llywio hwn i adolygu cynnwys a strwythur arfaethedig y Diploma. Bydd hyn yn llywio cwblhau dogfennaeth y Diploma a fydd yn cael ei chyflwyno i banel dilysu ym mis Mehefin a fydd yn cynnwys ymarferwyr MAU, cymedrolwyr allanol a chynrychiolwyr addysg uwch.
I ymuno â’r grŵp llywio, archebwch le a byddwch yn derbyn gwybodaeth bellach cyn y cyfarfod cyntaf.