Mae’r cwrs hwn yn addas ar gyfer staff unrhyw ganolfan cydnabyddedig Agored Cymru sydd yn newydd i sicrhau ansawdd mewnol unedau/cymwysterau Agored Cymru neu fel cwrs gloywi ar gyfer swyddogion Sicrhau Ansawdd Mewnol Agored Cymru nad ydynt wedi cynnal gweithgareddau sicrhau ansawdd mewnol yn ddiweddar.
Mae gan ganolfannau sydd newydd eu cydnabod yr hawl i 4 lle hyfforddi am ddim y gellir eu defnyddio ar gyfer y sesiynau Cyflwyniad i Asesu a Chyflwyniad i Sicrhau Ansawdd Mewnol, i’w defnyddio yn y 12 mis cyntaf ar ôl dod yn ganolfan gydnabyddedig.
Mae modd archebu lleoedd ychwanegol cyn belled ag y bo rhai ar gael am gost o £50 y person.
Nid oes angen i swyddogion sicrhau ansawdd mewnol feddu ar gymhwyster sicrhau ansawdd mewnol ffurfiol i sicrhau ansawdd unedau a/neu gymwysterau Agored Cymru yn fewnol ar hyn o bryd, oni bai y nodir yng nghanllaw’r cymhwyster neu fanyleb yr uned. Fodd bynnag, mae Agored Cymru yn argymell yn gryf bod swyddogion sicrhau ansawdd mewnol yn gweithio tuag at achrediad ffurfiol (e.e. Dyfarniad Lefel 4 mewn Deall y Gwaith o Sicrhau Ansawdd Prosesau ac Arferion Asesu yn Fewnol)