Bydd hwn yn sesiwn dwy awr a hanner rhyng-weithiol yn cynnig cyflwyniad i egwyddorion ac arferion asesu o ansawdd uchel. Bydd yn ofynnol cwblhau gweithgaredd byr cyn y cwrs fydd yn gymorth i chi baratoi ar gyfer y sesiwn.
Erbyn diwedd y cwrs, bydd y cyfranogion yn:
- deall egwyddorion sylfaenol asesu;
- deall beth yw asesu, lefelau asesu a'r mathau o ddulliau asesu sy'n cael eu defnyddio; ac yn
- meddu ar y sgiliau sydd eu hangen i asesu unedau a chymwysterau Agored Cymru yn effeithiol. (Cyfeiriwch at y canllaw cymhwyster perthnasol i wirio gofynion penodol ar gyfer aseswyr)
Sylwch os gwelwch yn dda: Mae'n rhaid i chi ddilyn y cwrs hwn cyn mynychu'r cwrs Cyflwyniad i Sicrhau Ansawdd Mewnol.
Mae hwn yn gwrs heb ei achredu ond byddwch yn derbyn tystysgrif presenoldeb.
Nid oes angen i aseswyr feddu ar gymhwyster asesu ffurfiol i asesu unedau a/neu gymwysterau Agored Cymru ar hyn o bryd, oni bai y nodir yng nghanllaw’r cymhwyster neu fanyleb yr uned. Fodd bynnag, mae Agored Cymru yn argymell yn gryf bod aseswyr yn gweithio tuag at achrediad ffurfiol (e.e. Dyfarniad Lefel 3 mewn Deall Egwyddorion ac Arferion Asesu).