Methu â dod o hyd i'r math priodol o ddigwyddiad neu hyfforddiant? Cysylltwch â ni gyda maes datblygu sy'n bwysig i chi a byddwn yn ymchwilio iddo.

Hyfforddiant a DPP

Cyflwyniad i Asesu

Dyddiad:
Dydd Iau 17/07/2025
Amser:
13:30 - 16:00
Lleoliad(au):
Ar-Lein
Cyfyngiadau:
Dim
Pris:
£50
Lleoedd ar gael:
14

Manylion

Bydd hwn yn sesiwn dwy awr a hanner rhyng-weithiol yn cynnig cyflwyniad i egwyddorion ac arferion asesu o ansawdd uchel.  Bydd yn ofynnol cwblhau gweithgaredd byr cyn y cwrs fydd yn gymorth i chi baratoi ar gyfer y sesiwn.

Erbyn diwedd y cwrs, bydd y cyfranogion yn:

  • deall egwyddorion sylfaenol asesu;
  • deall beth yw asesu, lefelau asesu a'r mathau o ddulliau asesu sy'n cael eu defnyddio; ac yn
  • meddu ar y sgiliau sydd eu hangen i asesu unedau a chymwysterau Agored Cymru yn effeithiol. (Cyfeiriwch at y canllaw cymhwyster perthnasol i wirio gofynion penodol ar gyfer aseswyr)

Sylwch os gwelwch yn dda: Mae'n rhaid i chi ddilyn y cwrs hwn cyn mynychu'r cwrs Cyflwyniad i Sicrhau Ansawdd Mewnol.

Mae hwn yn gwrs heb ei achredu ond byddwch yn derbyn tystysgrif presenoldeb.

Nid oes angen i aseswyr feddu ar gymhwyster asesu ffurfiol i asesu unedau a/neu gymwysterau Agored Cymru ar hyn o bryd, oni bai y nodir yng nghanllaw’r cymhwyster neu fanyleb yr uned. Fodd bynnag, mae Agored Cymru yn argymell yn gryf bod aseswyr yn gweithio tuag at achrediad ffurfiol (e.e. Dyfarniad Lefel 3 mewn Deall Egwyddorion ac Arferion Asesu).

Cyfranogwyr

Mae’r cwrs hwn yn addas ar gyfer staff unrhyw ganolfan cydnabyddedig Agored Cymru sydd yn newydd i asesu unedau/cymwysterau Agored Cymru neu fel cwrs gloywi ar gyfer aseswyr Agored Cymru nad ydynt wedi cyflwyno cyrsiau’n ddiweddar. 

Mae gan ganolfannau sydd newydd eu cydnabod yr hawl i 4 lle hyfforddi am ddim y gellir eu defnyddio ar gyfer y sesiynau Cyflwyniad i Asesu a Chyflwyniad i Sicrhau Ansawdd Mewnol, i’w defnyddio yn y 12 mis cyntaf ar ôl dod yn ganolfan gydnabyddedig. 

Mae modd archebu lleoedd ychwanegol cyn belled ag y bo rhai ar gael am gost o £50 y person.

Nid oes angen i aseswyr feddu ar gymhwyster asesu ffurfiol i asesu unedau a/neu gymwysterau Agored Cymru ar hyn o bryd, oni bai y nodir yng nghanllaw’r cymhwyster neu fanyleb yr uned.Fodd bynnag, mae Agored Cymru yn argymell yn gryf bod aseswyr yn gweithio tuag at achrediad ffurfiol(e.e. Dyfarniad Lefel 3 mewn Deall Egwyddorion ac Arferion Asesu)

 

Cefndir yr Arweinydd Digwyddiad

Nicol Rippon

...
Darllen mwy

Telerau ac Amodau Bwcio