Methu â dod o hyd i'r math priodol o ddigwyddiad neu hyfforddiant? Cysylltwch â ni gyda maes datblygu sy'n bwysig i chi a byddwn yn ymchwilio iddo.

Hyfforddiant a DPP

Dyfarniad Lefel 4 mewn Deall y gwaith o Sicrhau Ansawdd Prosesau ac Arferion Asesu yn Fewnol

Dyddiad:
Dydd Mawrth 04/03/2025 - Dydd Mawrth 25/03/2025
Amser:
10:00 - 13:00
Lleoliad(au):
Ar-Lein
Cyfyngiadau:
Pris:
£375
Lleoedd ar gael:
12

Manylion

Bydd y 4 sesiwn yn cael ei chynnal ar-lein ar Microdoft Teams

Sesiwn 1 - Dydd Llun 15fed o Fedi 2025, 13:00 - 16:00 awr

Sesiwn 2 - Dydd Mawrth 16eg o Fedi 2025, 13:00 - 16:00 awr

Sesiwn 3 - Dydd Llun 22ain o Fedi 2025, 13:00 - 16:00 awr

Sesiwn 4 - Dydd Mawrth 23ain o Fedi 2025, 13:00 - 16:00 awr

Trosolwg o’r Cwrs

Mae’r dyfarniad hwn wedi’i fwriadu ar gyfer y rhai sy’n dechrau mewn rôl swyddog sicrhau ansawdd mewnol (IQA), y rhai sydd angen ennill cymhwyster mewn sicrhau ansawdd mewnol, neu’r rhai sydd angen gwybod mwy am sicrhau ansawdd mewnol ond nad ydynt yn cynnal sicrhau ansawdd mewnol eu hunain.  

Bydd disgwyl i chi ymgymryd â hunan-astudio a chyflwyno aseiniadau i gefnogi asesiad y cymhwyster hwn.

Mae’r cwrs yn cynnwys:

4 x gweithdy hanner diwrnod a gyflwynir drwy Microsoft Teams (rhaid i chi fynychu pob un o’r 4 sesiwn) ac yna 1 aseiniad.  

Mae’r aseiniad hwn yn cynnwys chwe thasg. Ar gyfer pob tasg, rhoddir dau opsiwn gwahanol i chi.  Dim ond un opsiwn sydd angen i chi ei ddewis fesul tasg a fydd yn rhoi’r cyfle i chi ddewis yr un sydd orau i’ch sgiliau, eich diddordebau neu’ch arddull ddysgu.

Nod yr uned hon yw asesu’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth sydd eu hangen ar ymarferydd dysgu a datblygu ar gyfer sicrhau ansawdd asesu yn fewnol.

Drwy gwblhau’r cwrs hwn, byddwch yn dod i ddeall yn glir:

• Cyd-destun ac egwyddorion sicrhau ansawdd mewnol.

• Sut i gynllunio sicrhau ansawdd asesu yn fewnol. 

• Y technegau a’r meini prawf ar gyfer monitro ansawdd asesu yn fewnol.

• Sut i gynnal a gwella ansawdd asesu yn fewnol.

• Y gofynion cyfreithiol ac arfer da ar gyfer sicrhau ansawdd asesu yn fewnol.

Gofynion

Rhaid i chi fod yn 18+ oed ar ddechrau’r cwrs.

Argymhellir y dylech fod wedi mynychu hyfforddiant Cyflwyniad i Sicrhau Ansawdd Mewnol Agored Cymru.

Strwythur a Chynnwys y Cymhwyster

Er mwyn cyflawni’r dyfarniad hwn bydd dysgwyr yn cyflawni'r uned: 

Deall Egwyddorion ac Arferion Sicrhau Ansawdd Asesu yn Fewnol  (Cod Uned: GB84CY002) 

Bydd eich aseswr yn darparu gwybodaeth am sut y caiff y cymhwyster ei asesu, yn rhoi dyddiadau cau ar gyfer cyflwyno ac yn rhoi adborth ar eich asesiad.  

Bydd gennych hawl i uchafswm o 2 awr o Gymorth Tiwtorial un i un os oes angen, gan eich aseswr.  Codir ffi ymlaen llaw o £60 yr awr ar gyfer unrhyw amser ychwanegol sydd ei angen arnoch chi (y dysgwr) ar gyfer hyn.  

Amserlen Cyflwyno Aseiniad

Cyflwyniad Cyntaf: Bydd angen cyflwyno eich cyflwyniad cyntaf o fewn 6 wythnos i’ch sesiwn Microsoft Teams ar-lein ddiwethaf. 

Cyflwyniad Terfynol: Ar ôl ei anfon i’ch Aseswr am adborth ac arweiniad, bydd gennych 4/6 wythnos arall i gwblhau a chyflwyno'ch ail asesiad a’r olaf. 

Ar ôl i chi gyflwyno’ch asesiad terfynol, bydd yn mynd trwy brosesau Sicrhau Ansawdd Mewnol a Sicrhau Ansawdd Allanol cyn i’ch dyfarniad gael ei gyhoeddi. 

Byddwch yn cael yr union ddyddiadau cyflwyno ar ddechrau’r cwrs.

Os oes angen unrhyw wybodaeth bellach arnoch, cysylltwch â digwyddiadau@agored.cymru 

 

Bydd pob sesiwn yn cael ei chynnal ar-lein ar Microdoft Teams

Sesiwn 1 -  Dydd Mawrth 4ydd o Fawrth 10:00-13:00

Sesiwn 2 -  Dydd Mawrth 11eg o Fawrth 10:00-13:00

Sesiwn 3 - Dydd Mawrth 18fed o Fawrth 10:00-13:00

Sesiwn 4 - Dydd Mawrth 25ain o Fawrth 10:00-13:00

Bwriadwyd y cymhwyster ar gyfer y rheini sy’n dechrau ar eu rôl sicrhau ansawdd mewnol neu’r rheini sydd angen ennill cymhwyster mewn sicrhau ansawdd mewnol, neu’r rheini sydd angen gwybod mwy am sicrhau ansawdd mewnol ond nad ydynt yn sicrhau ansawdd eu hunain. Rhaid i chi fod yn 18 oed neu’n hŷn i ymgymryd â’r cymhwyster.

Argymhellir bod gennych gymhwyster perthnasol mewn asesu a/neu rywfaint o brofiad o asesu/sicrhau ansawdd mewnol.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am eich addasrwydd ar gyfer y cymhwyster hwn cyn archebu lle, cysylltwch â digwyddiadau@agored.cymru.

Bydd gofyn i chi fynychu pedair sesiwn hanner diwrnod lle byddwch yn datblygu'r wybodaeth a'r ddealltwriaeth sydd eu hangen i gyflawni sicrwydd ansawdd asesu mewnol. Rhaid mynychu pob sesiwn.

Cyfle Datblygu

Sylwch os gwelwch yn dda: Mae archebu lle yn yr hyfforddiant hwn yn cadarnhau eich bod wedi archebu lle ar y Lefel 4 Deall Egwyddorion ac Arferion Sicrhau Ansawdd Asesu yn Fewnol GB84CY002 YN UNIG. 

Yn dilyn cwblhau'r uned Deall egwyddorion ac arferion sicrhau ansawdd mewnol GB84CY002, byddwch yn cael cyfle i ymgymryd â'r uned Sicrhau Ansawdd Asesu yn Fewnol GB84CY003.  

Bydd cyflawni'r ddwy uned yn llwyddiannus yn rhoi i chi Lefel 4 Mewn Sicrhau Ansawdd Prosesau ac Arferion Asesu yn Fewnol Cymhwyster (agored.cymru). Bydd hyn am gost a gofynion mynediad ychwanegol.

I gael rhagor o wybodaeth anfonwch e-bost at digwyddiadau@agored.cymru

Cefndir yr Arweinydd Digwyddiad

Nicol Rippon

...
Darllen mwy

Telerau ac Amodau