Methu â dod o hyd i'r math priodol o ddigwyddiad neu hyfforddiant? Cysylltwch â ni gyda maes datblygu sy'n bwysig i chi a byddwn yn ymchwilio iddo.

Cyfarfodydd Rhwydwaith

Fforwm Iechyd Mynediad i Addysg Uwch - Fforwm Iechyd Mynediad i AU

Dyddiad:
Dydd Llun 22/04/2024
Amser:
10:00 - 12:00
Lleoliad(au):
Ar-Lein
Cyfyngiadau:
Pris:
Di-dâl
Lleoedd ar gael:
16

Manylion

Mae’r Fforwm Iechyd yn rhoi cyfle i ganolfannau Mynediad i AU a grŵp derbyniadau addysg uwch Cymru Gyfan ar gyfer iechyd gyfarfod a rhannu gwybodaeth.

Bydd themâu allweddol y cyfarfod hwn yn cynnwys ffyrdd y gall darparwyr Mynediad weithio gyda phartneriaid addysg uwch i hyrwyddo’r cyfleoedd y mae’r Diploma Mynediad i AU yn eu darparu ar gyfer symud ymlaen i raglenni prifysgol mewn nyrsio a chymwysterau eraill sy’n gysylltiedig ag iechyd.

Bydd y cyfarfod hefyd yn adeiladu ar drafodaethau cyfredol sy’n ymwneud â chyflwyno disgrifydd pwnc QAA mewn Proffesiynau Nyrsio ac Iechyd. 

Cefndir yr Arweinydd Digwyddiad

Victor Morgan

Victor yw’r Rheolwr Mynediad i Addysg Uwch ac mae’n arwain ar yr holl agweddau sy’n ymwneud â Diploma Mynediad i Addysg Uwch Agored Cymru.
Darllen mwy

Telerau ac Amodau