Bydd hwn yn sesiwn dwy awr a hanner rhyng-weithiol yn cynnig cyflwyniad i egwyddorion ac arferion sicrhau ansawdd mewnol. Bydd yn ofynnol cwblhau gweithgaredd byr cyn y cwrs fydd yn gymorth i chi baratoi ar gyfer yr hyfforddiant.
Erbyn diwedd y cwrs hwn, bydd cyfranogion yn:
- deall egwyddorion sylfaenol sicrhau ansawdd mewnol;
- deall rôl y swyddogion sicrhau ansawdd menwol;
- dysgu sut i gofnodi canlyniadau sicrhau ansawdd mewnol; ac yn
- meddu ar y sgiliau sydd eu hangen i ddilysu unedau a chymwysterau Agored Cymru yn fewnol yn effeithiol.
Sylwch: i fod yn gymwys i fynychu'r cwrs hwn, mae'n rhaid i chi fod naill ai:
a) â phrofiad o asesu; neu fod
b) wedi mynychu cwrs Cyflwyniad i Asesu Agored Cymru.