Cynulleidfa: Cydlynwyr/rheolwyr Mynediad i AU sy’n gyfrifol am gynllunio’r cwricwlwm ac am ddyrannu adnoddau ar gyfer darpariaeth Mynediad i AU
Trosolwg
Yn gynyddol, mae canolfannau Mynediad i AU Agored Cymru yn darparu cyfleoedd i ddysgwyr gymryd rhan mewn e-ddysgu trwy ddulliau cyflwyno ac asesu cyfunol neu gwbl ar-lein. Rydym yn canfod bod yr opsiynau hyn yn diwallu anghenion y dysgwyr hynny sydd eisiau astudio ar adeg ac mewn lle sy’n addas ar gyfer eu hamgylchiadau bywyd a gwaith.
Bydd y gymhorthfa hon yn rhoi cyflwyniad i ganolfannau Mynediad i AU i blatfform ar-lein sefydledig sydd wedi’i gynllunio yn benodol ar gyfer y Diploma Mynediad i Addysg Uwch a gallai Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch Agored Cymru fod ar gael drwy’r platfform o bosibl.
Bydd aelodau o dîm Pearl yn ymuno â ni yn y gymhorthfa ac yn rhoi cyflwyniad i’r platfform ac yn ateb cwestiynau.
Mae’r gymhorthfa wedi’i hanelu at Reolwyr a Chydlynwyr Mynediad i AU sy’n gyfrifol am gynllunio’r cwricwlwm ac am ddyrannu adnoddau ar gyfer darpariaeth Mynediad i AU.