Methu â dod o hyd i'r math priodol o ddigwyddiad neu hyfforddiant? Cysylltwch â ni gyda maes datblygu sy'n bwysig i chi a byddwn yn ymchwilio iddo.

Gweithdai Safoni ac Aseswr

Safoni - Cyffredinol (Pob Lefel)

Dyddiad:
Dydd Mercher 19/10/2022
Amser:
09:00 - 12:00
Lleoliad(au):
Ar-Lein
Cyfyngiadau:
Pris:
Di-dâl
Lleoedd ar gael:
7

Manylion

Safoni – Cyffredinol (Pob Lefel)

Mae’n ofyniad gorfodol bod cynrychiolydd priodol o ganolfan yn mynychu digwyddiad safoni Agored Cymru bob 2 flynedd.

Mae digwyddiadau safoni wedi’u cynllunio ar gyfer y canlynol:

  • Rheolwyr Ansawdd
  • Staff Sicrhau Ansawdd Mewnol (IQA)
  • Staff â chyfrifoldebau allweddol ym maes polisi ac ymarfer sicrhau ansawdd canolfan

Mae’r digwyddiadau’n canolbwyntio ar arferion gorau o ran prosesau sicrhau ansawdd.  Eu nod yw hyrwyddo cysondeb yn y ffordd y mae cymwysterau Agored Cymru yn cael eu hasesu ac y sicrheir eu hansawdd yn fewnol.

Rhaid i’r rhai sy’n mynychu fod yn staff Sicrhau Ansawdd Mewnol gweithredol, cymwys a phrofiadol, neu fod wedi mynychu cwrs ‘Sicrhau Ansawdd Mewnol’ Agored Cymru. Rhaid iddynt hefyd allu rhannu gwybodaeth a rhoi ymarfer da ar waith yn eu sefydliad eu hunain.

Tasg cyn y cwrs: Cyn y digwyddiad, dylai’r rheini a fydd yn bresennol bwyso a mesur strategaeth sicrhau ansawdd mewnol eu canolfan eu hunain a nodi beth yw'r pwyntiau allweddol yn y strategaeth honno. Dylech ystyried yr hyn a ddisgwylir gan eich sefydliad o ran gweithredu proses safoni fewnol mewn canolfan. Bydd angen i’r rheini a fydd yn bresennol ddod â strategaeth sicrhau ansawdd mewnol bresennol eu canolfan gyda nhw a bod yn barod i'w thrafod yn ystod y sesiwn.

Bydd angen i’r rheini a fydd yn bresennol gael gafael ar ddogfennau allweddol o wefan Agored Cymru i baratoi ar gyfer y digwyddiad, a’u hargraffu (neu eu llwytho i lawr ar ddyfais bersonol). Gall y dogfennau gynnwys:

  • Samplau o asesiadau dysgwyr
  • Templed Sicrhau Ansawdd Mewnol
  • Ffurflen adborth safoni

Nid yw digwyddiadau safoni yn canolbwyntio ar arferion asesu, yn hytrach maent yn targedu arferion Sicrhau Ansawdd Mewnol yn benodol.

Er mwyn mynd i’r afael â’r angen am gynrychiolaeth o amrywiaeth o ganolfannau a sicrhau bod gan ganolfannau sy’n gorfod mynychu digwyddiad safoni gynrychiolaeth, mewn achosion lle mae galw mawr, rydym yn cadw’r hawl i gyfyngu ar nifer y lleoedd sydd ar gael i bob canolfan i 2.

 

Telerau ac Amodau