Methu â dod o hyd i'r math priodol o ddigwyddiad neu hyfforddiant? Cysylltwch â ni gyda maes datblygu sy'n bwysig i chi a byddwn yn ymchwilio iddo.

Hyfforddiant a DPP

Cyflwyniad i Asesu

Dyddiad:
Dydd Iau 29/07/2021
Amser:
10:00 - 12:30
Lleoliad(au):
Ar-Lein
Cyfyngiadau:
Dim
Pris:
£50
Lleoedd ar gael:
0

Manylion

Bydd hwn yn sesiwn dwy awr a hanner rhyng-weithiol yn cynnig cyflwyniad i egwyddorion ac arferion asesu o ansawdd uchel.  Bydd yn ofynnol cwblhau gweithgaredd byr cyn y cwrs fydd yn gymorth i chi baratoi ar gyfer y sesiwn.

Erbyn diwedd y cwrs, bydd y cyfranogion yn:

  • deall egwyddorion sylfaenol asesu;
  • deall beth yw asesu, lefelau asesu a'r mathau o ddulliau asesu sy'n cael eu defnyddio; ac yn
  • meddu ar y sgiliau sydd eu hangen i asesu unedau a chymwysterau Agored Cymru yn effeithiol.

Sylwch os gwelwch yn dda: Mae'n rhaid i chi ddilyn y cwrs hwn cyn mynychu'r cwrs Cyflwyniad i Sicrhau Ansawdd Mewnol.

Cyfranogwyr

Mae'r cwrs hwn yn addas ar gyfer unrhyw staff canolfannau y mae Asesu yn newydd iddynt.

Mae gan ganolfannau cydnabyddedig newydd yr hawl i gael 4 le am ddim mewn hyfforddiant, i’w defnyddio yn ystod y 12 mis cyntaf ar ôl ennill statws canolfan gydnabyddedig.

Mae modd archebu lleoedd ychwanegol cyn belled ag y bo rhai ar gael am gost o £50 y person.

Cefndir yr Arweinydd Digwyddiad

Wynne Roberts

...
Darllen mwy

Telerau ac Amodau