Fel sefydliad dyfarnu, mae Agored Cymru yn atebol am hygrededd, dilysrwydd a safonau ein cymwysterau, os ydym wedi dirprwyo unrhyw agweddau i’r ganolfan ai peidio.
Lle bo asesiadau’n cael eu cyflawni a dyfarniadau’n cael eu gwneud gan Ganolfan, mae’n bwysig i ni allu bod yn sicr bod y safonau sy’n cael eu defnyddio yn rhai sydd mor gywir a chyson â phosibl. Rhaid i’r cyhoedd fod â hyder yng nghanlyniad dysgwr, lle bynnag neu bryd bynnag y cynhelir yr asesiad. Mae hefyd yn bwysig i’r cymwysterau allu cael eu cyflwyno mewn modd sy’n rhwydd i ganolfannau.
Mae’r cwrs hwn yn edrych ar y dulliau o lunio tasgau asesu sy’n darparu canlyniadau ystyrlon yn gyson; yn galluogi’r asesydd i wahaniaethu’n gywir ac yn gyson rhwng y lefelau cyrhaeddiad a ddangosir gan ddysgwyr; yn ymarferol i ganolfannau eu cyflwyno ac yn cymell dysgwyr i wneud eu gorau.
Mae hwn yn gwrs lle bydd galw ar gyfranogwyr i chwarae rhan sylweddol, ac mae’n addas ar gyfer staff canolfannau sy’n cyflwyno, asesu neu’n sicrhau ansawdd yn fewnol o ran cymwysterau neu unedau Agored Cymru.