Methu â dod o hyd i'r math priodol o ddigwyddiad neu hyfforddiant? Cysylltwch â ni gyda maes datblygu sy'n bwysig i chi a byddwn yn ymchwilio iddo.

Hyfforddiant a DPP

Cyflwyniad i Ddilysu Mewnol

Dyddiad:
Dydd Iau 07/09/2017
Amser:
10:00 - 13:30
Lleoliad(au):
Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru
Cyfyngiadau:
OES - Gweler manylion isod
Pris:
£50
Lleoedd ar gael:
13

Manylion

Lluinwyd y cwrs tair awr hwn ar gyfer staff canolfannau y mae Dilysu Mewnol yn newydd iddynt.

Erbyn diwedd y cwrs hwn, bydd cyfranogion yn:

  • deall egwyddorion sylfaenol Dilysu Mewnol;
  • deall rôl y dilysydd mewnol;
  • dysgu sut i gofnodi canlyniadau dilysu mewnol; ac yn
  • meddu ar y sgiliau sydd eu hangen i ddilysu unedau a chymwysterau Agored Cymru yn fewnol yn effeithiol.

Sylwch: i fod yn gymwys i fynychu'r cwrs hwn, mae'n rhaid i chi fod naill ai:
       a) â phrofiad o asesu; neu fod
       b) wedi mynychu cwrs Cyflwyniad i Asesu Agored Cymru.

Tystebau

"Roedd y cwrs yn ddefnyddiol iawn gan fy mod i'n newydd i'r rôl dilysu mewnol a rhoddodd lawer o wybodaeth am y broses." Julie Lewis, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

"Trosolwg defnyddiol iawn o'r broses dilysu mewnol a fydd yn ein helpu ni i ddatblygu llyfr gwaith ein huned.  Cwrs gwych.  Diolch yn fawr." Ceri Bevan, Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

"Addysgiadol iawn. Rwy'n teimlo'n fwy hyderus o lawer ynghylch y broses dilysu mewnol." Gill Norris, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Cyfranogwyr

Mae'r cwrs hwn yn addas ar gyfer unrhyw staff canolfannau y mae  Dilysu Mewnol yn newydd iddynt.

Mae gan ganolfannau cydnabyddedig newydd yr hawl i gael 4 le am ddim mewn hyfforddiant, i’w defnyddio yn ystod y 12 mis cyntaf ar ôl ennill statws canolfan gydnabyddedig.

Mae modd archebu lleoedd ychwanegol cyn belled ag y bo rhai ar gael am gost o £50 y person.

Cefndir yr Arweinydd Digwyddiad

Jayne Regan

...
Darllen mwy

Telerau ac Amodau