Mae Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol yn set o ymddygiadau cymdeithasol a sgiliau y gellir eu hennill ac yr ystyrir eu bod yn berthnasol i berfformio ym mhob rôl gyflogaeth. Mae'r sgiliau hyn yn helpu gweithwyr ryngweithio a gweithio gydag eraill mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd ac maent yn drosglwyddadwy, nid yn unig rhwng gwahanol rolau mewn sefydliad, ond ar draws gwahanol sectorau cyflogaeth. Nid yw sgiliau cyflogadwyedd yn cynnwys sgiliau technegol na chymwysterau gofynnol i ymgymryd â rolau a
Mae'r cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cyflogadwyedd Mynediad 3 i Lefel 3 yn cynnwys pedwar prif faes pwnc:
- Cynllunio a Threfnu
- Creadigrwydd ac Arloesi
- Meddwl Beirniadol a Datrys Problemau
- Effeithiolrwydd Personol
Er mwyn ennill y cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cyflogadwyedd, rhaid i ddysgwyr ddangos eu sgiliau mewn tasg dan reolaeth a thrafodaeth strwythuredig.
Mae'r tasgau dan reolaeth yn cael eu gosod ymlaen llaw ac ar gael mewn amrywiaeth o gyd-destunau. Mae cyfle i ganolfannau greu eu tasgau dan reolaeth eu hunain, yn enwedig ar gyfer dysgwyr sy'n gweithio mewn diwydiant neu sector penodol. Os hoffech chi ragor o wybodaeth am greu tasgau dan reolaeth ar gyfer eich sector/canolfan, cysylltwch â Judith Archer os gwelwch yn dda.
Rhoddir amser cyfyngedig i ymgeiswyr gwblhau'r tasgau a'r prawf cadarnhau, yn ôl y lefel:
Lefel |
Tasg dan Reolaeth |
Trafodaeth Strwythuredig |
---|---|---|
Mynediad 3 |
6 awr |
0.5 awr |
1 |
4 awr |
0.5 awr |
2 |
5 awr |
0.5 awr |
3 |
8 awr |
0.5 awr |
Mae Llawlyfr Cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru yn rhoi manylion ynglŷn â sut bydd y tasgau a’r profion yn cael eu gweinyddu.
Enghreifftiau o'r tasgau dan reolaeth ar gael yma.
Lluniwyd y deunyddiau asesu enghreifftiol hyn ar y cyd gan y pedwar corff dyfarnu Sgiliau Hanfodol Cymru (Agored Cymru, City & Guilds, Pearson a CBAC).
I gael rhagor o fanylion ac i ychwanegu’r cymwysterau at eich fframwaith cliciwch isod.