Mae Llythrennedd Digidol Hanfodol yn golygu gwybodaeth, sgiliau, agweddau ac ymddygiad o ran defnyddio dyfeisiadau digidol.

Mae Llythrennedd Digidol Hanfodol yn cynnwys chwech o elfennau o Fynediad 1 - Lefel 3

  • Cyfrifoldeb Digidol - gwybod sut i gadw'n ddiogel a gweithredu'n briodol ar-lein
  • Cynhyrchiant Digidol - gwybod pa dechnolegau, arfau a dulliau i'w defnyddio a sut i drefnu, rhannu ac amddiffyn gwybodaeth ddigidol
  • Llythrennedd ym maes Gwybodaeth Ddigidol - gallu canfod, gwerthuso'n feirniadol a defnyddio gwybodaeth ddigidol yn ddiogel
  • Cydweithredu Digidol - rhannu gwybodaeth a chydweithredu ag eraill i gwblhau tasgau a datrys problemau
  • Creadigrwydd digidol - gallu defnyddio cyfryngau digidol i gwblhau tasgau, cynhyrchu cynnwys a datblygu cyfleoedd
  • Dysgu Digidol - deall suit y gall technoleg ymestyn cyfleoedd dysgu

Er mwyn ennill y cymhwyster Sgiliau Hanfodol Llythrennedd Digidol, rhaid i ddysgwyr ddangos eu sgiliau mewn tasg dan reolaeth sy'n cynnwys trafodaeth strwythuredig.

Mae'r tasgau dan reolaeth yn cael eu gosod ymlaen llaw ac ar gael mewn amrywiaeth o gyd-destunau.  Mae cyfle i ganolfannau greu eu tasgau dan reolaeth eu hunain, yn enwedig ar gyfer dysgwyr sy'n gweithio mewn diwydiant neu sector penodol. Os hoffech chi ragor o wybodaeth am greu tasgau dan reolaeth ar gyfer eich sector/canolfan, cysylltwch â Judith Archer os gwelwch yn dda.

Rhoddir amser cyfyngedig i ymgeiswyr gwblhau'r tasgau a'r prawf cadarnhau, yn ôl y lefel:

Lefel

Tasg dan Reolaeth

Mynediad 1-3

6 awr

1

4 awr

2

5 awr

3

8 awr

Mae Llawlyfr Cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru yn rhoi manylion ynglŷn â sut bydd y tasgau a’r profion yn cael eu gweinyddu.

Enghreifftiau o'r tasgau dan reolaeth ar gael yma.

Lluniwyd y deunyddiau asesu enghreifftiol hyn ar y cyd gan y pedwar corff dyfarnu Sgiliau Hanfodol (Agored Cymru, City & Guilds, Pearson a CBAC).

I gael rhagor o fanylion ac i ychwanegu’r cymwysterau at eich fframwaith cliciwch isod.

Agored Cymru Lefel 1 Sgiliau Hanfodol Llythrennedd Digidol C00/0746/2
Agored Cymru Lefel 2 Sgiliau Hanfodol Llythrennedd Digidol C00/0746/3
Agored Cymru Lefel 3 Sgiliau Hanfodol Llythrennedd Digidol C00/0746/4
Agored Cymru Lefel Mynediad Sgiliau Hanfodol Llythrennedd Digidol (Mynediad 1) C00/0746/8
Agored Cymru Lefel Mynediad Sgiliau Hanfodol Llythrennedd Digidol (Mynediad 2) C00/0746/9
Agored Cymru Lefel Mynediad Sgiliau Hanfodol Llythrennedd Digidol (Mynediad 3) C00/0747/0