Biowyddoniaeth

 

Cynnwys

Mae Diploma Mynediad i Addysg Uwch Agored Cymru (Biowyddoniaeth) yn cefnogi dilyniant i raglenni gradd yn y gwyddorau a’r gwyddorau biofeddygol ac yn cyflwyno meysydd pwnc perthnasol i’r dysgwyr, gan gynnwys:

  • Bioleg
  • Cemeg
  • Ffiseg

 

Asesiad

Mae’r Diploma Mynediad i Addysg Uwch yn gymhwyster unedol ac mae’n cael ei asesu drwy asesiad parhaus. Mae’r dulliau asesu yn amrywiol ac yn adlewyrchu’r rhai y bydd dysgwyr yn dod ar eu traws mewn addysg uwch. Mae dulliau asesu yn cynnwys y canlynol

  • Traethodau
  • Cyflwyniadau llafar
  • Asesiadau/ arholiadau sydd â chyfyngiad amser
  • Trafodaethau academaidd
  • Adroddiadau ysgrifenedig 
  • Asesiadau ymarferol mewn labordy 

 

Ymhle rydw i'n gallu astudio?

Cynigir Diploma Mynediad i Addysg Uwch Agored Cymru (Biowyddoniaeth) yn y canolfannau canlynol:

  • Coleg Caerdydd a’r Fro
  • Coleg Gwent
  • Coleg y Cymoedd
  • Grŵp Llandrillo Menai
  • Coleg Sir Benfro

 

Llwybrau cynnydd posibl

Gall dysgwyr sy’n llwyddo i gwblhau’r Diploma Mynediad i Addysg Uwch (Biowyddoniaeth) gael eu hystyried i ymuno â’r rhaglenni gradd canlynol gydag amryw o ddarparwyr addysg uwch (nid yw’r rhestr hon yn holl gynhwysfawr):

  • Biowyddorau
  • Gwyddor Fforensig
  • Gwyddor Amgylcheddol
  • Bioleg
  • Bioleg Bywyd Gwyllt Ryngwladol
  • Hanes Naturiol
  • Gwyddorau Biofeddygol
  • Technoleg Bwyd a Gwyddoniaeth
  • Gwyddor Gofal Iechyd
  • Technoleg Ddeintyddol
  • Nyrsio
  • Ymarfer Adran Lawdriniaethau
  • Ffisiotherapi
  • Bydwreigiaeth
  • Iechyd Galwedigaethol
  • Deieteg
  • Radiograffeg
  • Fferylliaeth
  • Gwyddorau Dynol
  • Cemeg.

Diploma Mynediad i Addysg Uwch (Biowyddoniaeth) 40014575 C00/4856/9