Prif ddiben y broses adolygu cymwysterau hon yw sicrhau bod Agored Cymru yn gallu asesu'r angen am gymwysterau o ansawdd uchel sy'n berthnasol ac yn parhau i ymateb i'r agenda addysg yng Nghymru, ynghyd ag adolygu a chynnal cymeradwyaeth ar gyfer y cymwysterau hynny.

Y Broses

Mae tri cham i'r broses adolygu cymwysterau:

Cam ymgynghori: gall canolfannau anfon eu hadborth a’u sylwadau atom ni drwy e-bostio productdevelopment@agored.cymru.

Cam Gwerthuso: rydyn ni'n casglu ac yn dadansoddi'r adborth ac yn gwneud penderfyniad terfynol.

Cyhoeddi'r Canlyniadau: Rydyn ni'n cyhoeddi'r canlyniadau ar ein gwefan ac yn rhoi gwybod i ganolfannau am y penderfyniadau terfynol.

Mae'r adolygiad yn broses gydweithredol sy'n cynnwys Agored Cymru, cynrychiolwyr o ganolfannau sydd wedi cynnig y cymwysterau, a chyflogwyr a sefydliadau sy'n ymwneud â datblygu’r cymhwyster. Gall yr adolygiad argymell un o’r deilliannau a ganlyn:

  • Ymestyn / Newid
  • Terfynu
  • Tynnu'n ôl (heb unrhyw beth yn ei le)
  • Tynnu'n ôl (gyda rhywbeth yn ei le)