Dyma ychydig yn unig o fanteision dewis ein hunedau a’n cymwysterau:

  • Mae gennym dros 30 o flynyddoedd o brofiad ac arbenigedd digymar mewn datblygu unedau a chymwysterau, addysgu a chefnogi dysgu, ac asesu
  • Rydym yn gweithio gyda chyflogwyr i ganfod y sgiliau a’r profiad i’w cynnwys yn ein hunedau a’n cymwysterau fel y gallwch fod yn sicr eu bod yn cwrdd ag union anghenion y gweithle
  • Rydym yn cynnig cyfleoedd dysgu hyblyg sy’n addas i’ch anghenion – os ydych mewn cyflogaeth, yn yr ysgol, mewn coleg neu addysg gymunedol neu’n ceisio troi eich hobi’n yrfa
  • Mae ein Mynediad I Addysg Uwch yn cael eu cydnabod gan brifysgolion fel llwybr i Addysg Uwch
  • Mae ein holl unedau a chymwysterau ar gael i chi drwy gyfrwng y Gymraeg
  • Os ydych chi’n dychwelyd i ddysgu ar ôl egwyl, gall ein hunedau ‘cryno’ roi i chi’r hyder sydd ei angen arnoch i symud ymlaen.

Astudiaethau Achos

Darllenwch ein hastudiaethau achos diweddaraf.