Mae'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch yn gymhwyster cenedlaethol.

Mae'n ddewis arall yn lle Safon Uwch ac yn cael ei gydnabod gan yr holl brifysgolion a darparwyr addysg uwch yng Nghymru a Lloegr.

Nod y cymhwyster yw helpu pobl sy'n awyddus i fynd i addysg uwch ond heb gymwysterau digonol i wneud hynny.

Mae'n helpu dysgwyr i ddatblygu'r sgiliau a'r cymwysterau perthnasol y maent eu hangen er mwyn dilyn cwrs gradd neu gymhwyster proffesiynol.

Mae mwyafrif y dysgwyr sy'n dilyn y cymhwyster Mynediad i Addysg Uwch yn symud ymlaen i brifysgol. Bydd eraill yn defnyddio'r wybodaeth, y profiad a'r sgiliau newydd y byddant wedi'u hennill i gael swydd.

Mae pob coleg addysg bellach yng Nghymru yn cynnig cyrsiau Diploma Mynediad i Addysg Uwch.


Diploma Mynediad i Addysg Uwch gan Agored Cymru

Chwiliwch yma i weld y rhestr lawn o gyrsiau Diploma.


Astudiaethau Achos

Darllenwch ein hastudiaethau achos diweddaraf.


Rhagor o wybodaeth

Ewch i www.accesstohe.ac.uk neu cysylltwch â Victor Morgan, Rheolwr Mynediad i Addysg Uwch Agored Cymru.