Pa ddata personol mae Agored Cymru yn ei gasglu amdanoch chi?

Dyma'r data sylfaenol mae arnom angen ei gasglu i allu prosesu eich cyflawniadau a chreu eich tystysgrifau:

Rydym yn casglu’r data ychwanegol canlynol hefyd, pan fo hwnnw ar gael:

  • Rhywedd
  • Statws o ran gallu
  • Ethnigrwydd
  • Cyfeiriad e-bost

Beth mae Agored Cymru yn ei wneud â’ch data personol?

Mae’r data sylfaenol yn cael ei ddefnyddio i’ch adnabod chi yn ein systemau mewnol. Bydd hyn yn sicrhau bod yr holl unedau a’r cymwysterau rydych chi wedi’u cyflawni drwy Agored Cymru yn cael eu dyfarnu’n gywir i chi a’ch bod yn cael tystysgrifau dilys ac unigryw.

Os bydd ULN yn cael ei ddarparu, bydd yn cael ei ddilysu drwy ei anfon, ynghyd â’ch enw a’ch dyddiad geni, at y Gwasanaeth Cofnodion Dysgu Os ydych chi’n cyflawni unedau neu gymwysterau sy’n cael eu rheoleiddio gan Cymwysterau Cymru neu Ofqual, bydd yr un data’n cael ei ddefnyddio i roi gwybod i'r Gwasanaeth Cofnodion Dysgu am y cyflawniad hwnnw, a fydd yn cyfrannu at eich Cofnod Dysgu Personol (PLR)

Mae’r data sylfaenol, ynghyd â rhywedd a statws o ran gallu yn cael eu cynnwys mewn datganiadau i Lywodraeth Cymru ac i Adran Addysg y DU yng nghyswllt yr holl ddysgwyr sydd wedi cofrestru ar gyfer cymhwyster a reoleiddir gan Cymwysterau Cymru neu Ofqual, neu sydd wedi ennill cymhwyster o’r fath.

Os ydych chi wedi cofrestru ar gyfer Diploma Mynediad i Addysg Uwch , bydd eich enw, eich dyddiad geni a’ch rhywedd yn cael eu cynnwys yn yr wybodaeth a ddarperir i UCAS er mwyn i chi allu defnyddio’r gwasanaeth hwnnw. Ar ben hynny, defnyddir cod post, dyddiad geni, rhywedd, statws o ran gallu ac ethnigrwydd i ddarparu data (na ellir ei ddefnyddio i'ch adnabod) i’r rheoleiddiwr, sef yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd ar gyfer Addysg Uwch (ASA) .

Bydd y cyfeiriad e-bost hwn yn cael ei ddefnyddio er mwyn i chi allu defnyddio ein gwasanaeth e-dystysgrifau yn unig.

Bydd data’n cael ei gadw am gyfnod amhenodol er mwyn i ni allu cyflawni ein dyletswyddau cyfreithlon fel corff dyfarnu, fel dilysu cyflawniadau.