Methu â dod o hyd i'r math priodol o ddigwyddiad neu hyfforddiant? Cysylltwch â ni gyda maes datblygu sy'n bwysig i chi a byddwn yn ymchwilio iddo.
Denver Davies
Denver Davies yw’r Uwch Reolwr Ansawdd a Safonau ar gyfer Agored Cymru. Ymunodd Denver ag Agored Cymru ym mis Medi 2010.
Mae gan Denver ystod eang o gyfrifoldebau o ran sicrhau ansawdd ar draws y sefydliad. Mae hyn yn golygu datblygu, gweithredu a monitro swyddogaethau a phrosesau sicrhau ansawdd allanol. Mae hefyd yn sicrhau bod prosesau sicrhau ansawdd allanol yn canolbwyntio ar y cwsmer ac yn cydymffurfio â gofynion rheoleiddio.
Ar ben hynny, Denver yw Rheolwr Llinell y tîm o Reolwyr Ansawdd ac mae'n rheoli'r gwaith o sicrhau ansawdd canolfannau'n allanol i sicrhau bod dyfarniadau Agored Cymru yn ddilys a bod safonau'n cael eu cynnal.
Cyn ymuno ag Agored Cymru, Denver oedd Rheolwr Monitro Cymwysterau ACCAC ac wedyn Is-adran Rheoleiddio Cymwysterau Llywodraeth Cymru, lle'r oedd yn gyfrifol am reoleiddio cyrff dyfarnu a monitro safonau cymwysterau yng Nghymru.
Mae gan Denver Radd Baglor yn y Celfyddydau mewn Hanes ac mae'n siarad Cymraeg yn rhugl.
Cysylltwch â Denver Davies.