Methu â dod o hyd i'r math priodol o ddigwyddiad neu hyfforddiant? Cysylltwch â ni gyda maes datblygu sy'n bwysig i chi a byddwn yn ymchwilio iddo.

Jo Creeden

Jo Creeden yw Dirprwy Brif Weithredwr a Swyddog Cyfrifol Agored Cymru. Ymunodd ag Agored Cymru ym mis Medi 2015.

Mae Jo yn gyfrifol am gydymffurfiaeth reoleiddiol Agored Cymru, ac arwain y tîm rheoli o fewn y Gyfarwyddiaeth Datblygu Cwricwlwm / Ansawdd a Rheoleiddio.

Caiff Jo ei chefnogi gan Dîm Cwricwlwm a Chydymffurfiaeth i fonitro a chefnogi canolfannau ac i sicrhau fod datblygiad, cyflwyniad a dyfarniad cymwysterau ac unedau Agored Cymru yn gadarn ac yn cydymffurfio.

Mae llywodraethu yn rhan hanfodol o gydymffurfiaeth Agored Cymru â’r gofynion rheoleiddio. Mae’r Pwyllgor Ansawdd, Safonau a Rheoleiddio yn allweddol i hyn a Jo yw’r prif Swyddog ar gyfer y panel.

Mae Jo yn weithiwr proffesiynol addysg fedrus gyda dros 30 mlynedd o yrfa ym maes asesu a sicrhau ansawdd a chydymffurfiaeth. Yn ystod ei gyrfa, mae Jo wedi dal amryw o wahanol swyddi, gan gynnwys Cyfarwyddwr Ansawdd, Safonau a Rheoleiddio,  Rheolwr Rheoleiddio a Chymwysterau, Rheolwr Sicrhau Ansawdd, Rheolwr Achredu, Rheolwr Datblygu Staff, Cydlynydd Dysgu Oedolion yn y Gymuned, Pennaeth Hyfforddiant a Chyflawni, Arweinydd Sicrhau Ansawdd Mewnol ac Asesydd.

Maes arbenigedd penodol Jo yw cydymffurfiaeth Corff Dyfarnu, datblygu polisi a sicrhau ansawdd.