Methu â dod o hyd i'r math priodol o ddigwyddiad neu hyfforddiant? Cysylltwch â ni gyda maes datblygu sy'n bwysig i chi a byddwn yn ymchwilio iddo.
Matt Stanley
Matt Stanley yw Cyfarwyddwr TGCh, Systemau Gwybodaeth Rheoli a Gweithrediadau Agored Cymru.
Ymunodd Matt ag Agored Cymru ym Mehefin 2003.
Matt sydd â'r cyfrifoldeb strategol allweddol am systemau gweithredol Agored Cymru a’i TGCh, MIS, a'r systemau cefnogi data a busnes. Mae'n arwain y tîm TGCh a Gweithrediadau ac yn datblygu ac yn monitro meysydd polisi perthnasol, gan gynnwys asesu a rheoli risg, gwasanaeth a phrofiad cwsmeriaid, a'r cyfryngau adrodd yn ôl a thrin data.
Mae Matt yn gyfrifol am ddatblygu gwefan Agored Cymru ac am gasglu, dehongli a chyfathrebu data i gefnogi blaenoriaethau busnes. Mae Matt hefyd yn sefydlu mesurau i gefnogi cyflawni blaenoriaethau busnes ehangach ar gyfer addysg yng Nghymru, ac mae'n creu partneriaethau allanol ar gyfer rhwydwaith Agored Cymru.
Mae Matt yn aelod o Grwp Ymgynghorol Data y Gwasanaeth Cofrestru Dysgwyr a grwp TGCh a Gweithrediadau Ffederasiwn y Cyrff Dyfarnu.
Mae gan Matt Ddiploma Addysg Uwch mewn Ffiseg. Mae Matt yn dysgu Cymraeg ar Lefel 2.
Cysylltwch â Matt Stanley.