Methu â dod o hyd i'r math priodol o ddigwyddiad neu hyfforddiant? Cysylltwch â ni gyda maes datblygu sy'n bwysig i chi a byddwn yn ymchwilio iddo.
Anna Brees
Nod Anna Brees, cyn newyddiadurwr gyda’r BBC ac ITV, yw grymuso unigolion, cymunedau a busnesau i greu eu cynnwys eu hunain a dweud eu storïau nhw. Mae ei chwmni, Brees Media, yn canolbwyntio ar eich helpu chi i greu cynnwys fideo rhagorol i’ch neges. Ymysg enghreifftiau o lwyddiannau rhai o fyfyrwyr Anna mae QR Info Pods, a welodd gynnydd o 500% yn eu gwerthiant a gorfod cyflogi aelod staff newydd yn dilyn un ymgyrch fideo, a Phennaeth Cyfathrebu Trenau Arriva Cymru yn osgoi asiantaethau cysylltiadau cyhoeddus i roi fideo yr oedd ef wedi’i gynhyrchu yn syth ar WalesOnline. Enghreifftiau eraill yw cwmnïau Marchnata Technegol a Chysylltiadau Cyhoeddus yn creu’u cynnwys fideo eu hunain yn llwyddiannus ar gyfer cyfryngau cymdeithasol erbyn hyn yn hytrach na thalu eraill, ac ymgynghorwyr marchnata llawrydd fel Jules Appleby a Carmen Gray yn creu cynnwys fideo proffesiynol i’w cleientiaid.