Mae Agored Cymru yn defnyddio nifer o dermau i ddisgrifio gwahanol elfennau'r broses achredu. Mae gan rai sefydliadau'n ystyron gwahanol i'r termau hyn, ac weithiau rydym ni'n eu defnyddio i ddisgrifio pethau sy'n anghyfarwydd mewn sefydliadau eraill.

Y Term Diffiniad
Achredu Y broses a ddefnyddir gan yr awdurdodau rheoleiddio cymwysterau i gadarnhau bod cymhwyster yn cydymffurfio â gofynion trefniadau rheoleiddio’r FfCCh.
Achredu Dysgu Blaenorol (APL) Cydnabod gwybodaeth a sgiliau a enillwyd o’r blaen, fel arfer ar ffurf cymwysterau neu gredydau, y gellir eu defnyddio i esgusodi’r dysgwr rhag gorfod cyflawni rhywfaint o gynnwys cwrs newydd. (Gweler RPL)
Achredu Profiad a Dysgu Blaenorol (APEL) Cydnabod profiad a enillwyd yn flaenorol, y gellir ei gadarnhau a’i ddilysu, a’i gymharu â gofynion cwrs newydd gyda’r bwriad o drefnu bod y myfyriwr yn gallu cael ei eithrio o rannau o gynnwys y cwrs. (gweler RPL)
AdAS Mae’r Adran Addysg a Sgiliau yn gyfrifol am addysg a sgiliau yng Nghymru. Nod AdAS yw codi safonau addysg a darpariaeth hyfforddiant, cyrhaeddiad ac isadeiledd ledled Cymru er mwyn i bawb allu cyflawni eu potensial; darparu gweithlu sy’n meddu ar y sgiliau addas gyda chyfleoedd o ansawdd uchel i bob dysgwr; cynorthwyo unigolion, teuluoedd, cymunedau a busnesau i wella lles economaidd a chymdeithasol a lleihau anghydraddoldeb drwy addysg a hyfforddiant.
Addasiadau Rhesymol Camau rhesymol a gymeradwyir cyn asesu er mwyn sicrhau nad yw ymgeiswyr ag anabledd neu anhawster dysgu parhaol hir dymor, neu anabledd, salwch neu anhwyldeb dros dro, dan anfantais o gymharu â rhywun heb anabledd neu anhawster o’r fath.
Adroddiad hunanwerthuso blynyddol (AHB) ADA (i) yn galluogi QAA i sicrhau ei hun fod yr ADA yn bodloni telerau ei drwydded ADA
(ii) yn darparu’r brif sylfaen dystiolaeth ysgrifenedig ar gyfer proses ail-drwyddedu’r ADA, ac fel cyfrwng i gyfleu ymateb yr ADA i’r camau gweithredu a argymhellwyd (a’r camau gweithredu ar gyfer ADA sy’n cael dyfarniad risg isel) yn sgil adolygiadau ail-drwyddedu
(iii) yn rhoi trosolwg o ganlyniadau o brosesau hunanwerthuso’r ADA a’r cynnydd a wnaed yn ystod y flwyddyn ar gyfer rhanddeiliaid yr ADA.
Amodau Cydnabod Cyffredinol (ACC) Mae pob sefydliad dyfarnu yn rhwym wrth amodau cydnabod. Rhain yw’r gofynion y mae’n rhaid i’r corff eu bodloni’n barhaus. Mae’r awdurdodau rheoleiddio cymwysterau (Llywodraeth Cymru yng Nghymru) yn cymhwyso amodau cydnabod cyffredinol at bob sefydliad dyfarnu. Yn ogystal gallant bennu amodau cydnabod ar gyfer rhai cymwysterau penodol neu ddisgrifiadau o gymwysterau ac ar gyfer rhai disgrifiadau o sefydliadau dyfarnu. Mae ganddynt hefyd y pwer i osod amodau penodol ar unrhyw sefydliad dyfarnu unigol.
Ardystio Y drefn y mae Agored Cymru yn ei defnyddio i gydnabod credydau a ddyfarnwyd i ddysgwyr ac i gyhoeddi tystysgrifau.
Asesiad Y broses o wneud penderfyniadau ynghylch i ba raddau y mae gwaith dysgwr yn bodloni’r meini prawf asesu ar gyfer uned neu ran o uned. Mae asesu ffurfiannol yn darparu adborth parhaus i ddysgwyr sy’n gallu bod yn fuddiol iddynt o ran gwella eu perfformiad / cyflawniad yn ystod y cyfnod o’r cwrs sy’n weddill. Cynhelir y broses asesu cyfunol ar ddiwedd cyfnod penodedig o ddysgu.
Asesiad Allanol Math o asesiad annibynnol lle gosodir y tasgau asesu yn allanol i’r ganolfan, ac asesir gwaith y dysgwr gan y corff dyfarnu.
Asesiad Meincnod Cyfres o dasgau y dylid eu defnyddio i asesu'r uned. Gall y Ganolfan gynllunio tasgau unigol, ond rhaid i'r rhain ddefnyddio'r asesiadau meincnod fel canllaw, a rhaid iddynt gwmpasu'r holl feini prawf asesu.
Asesiad Mewnol Asesiad lle gosodir y tasgau asesu ac asesir gwaith y dysgwr yn fewnol yn y ganolfan, yn amodol ar ddilysu allanol.
Asesiad yn erbyn Maen Prawf Gosod asesiad lle mesurir cyrhaeddiad yn erbyn meini prawf asesu cymeradwy
Asesydd Y sawl sy’n asesu gwaith dysgwr.
Asiantaeth Sicrhau Ansawdd Addysg Uwch (QAA) Awdurdod annibynnol a gyllidir gan brifysgolion a cholegau addysg uwch a chyrff cyllido addysg uwch y DU. Nod QAA yw diogelu safonau a gwella ansawdd addysg uwch yn y DU. QAA sy’n trwyddedu Asiantaethau Dilysu Awdurdodedig (ADA) i ddyfarnu’r Ddiploma MAU.
Awdurdodau Dilysu Awdurdodedig Asiantaethau yn cynnwys Agored Cymru sydd wedi'u trwyddedu gan QAA i gydnabod cyrsiau Mynediad i Addysg Uwch ac i gyflwyno tystysgrifau i ddysgwyr llwyddiannus
Camweinyddu Rheolaeth aneffeithiol, diffyg gofal, penderfyniadau gwael, anonestrwydd, esgeulustod, diffyg sylw a/neu anghymhwysedd. Efallai nad yw’r ymddygiad yn fwriadol, ond mae’n cael effaith andwyol ar hygrededd cymhwyster neu ddyfarniad credyd ac yn arwain at ddiffyg cydymffurfiad â gofynion rheoleiddio o ran cyflwyno’r cymwysterau.
Camymddygiad Ymddygiad proffesiynol ar ran sefydliad sy’n fwriadol lwgr, anghyfreithlon neu anfoesegol neu esgeuluso dyletswyddau proffesiynol sy’n cael effaith andwyol ar hygrededd cymhwyster ac sy’n arwain at beidio â chydymffurfio â gofynion rheoleiddio wrth gyflwyno’r cymwysterau.
Canlyniad Dysgu Datganiad sy'n nodi'n glir yr hyn y bydd y dysgwr yn ei wybod, yn ei ddeall, neu'n gallu ei wneud ar ddiwedd y broses ddysgu.
Canolfan Sefydliad sy’n cyflenwi asesiadau (a gweithgareddau eraill o bosib) i Ddysgwyr ar ran sefydliad dyfarnu. Fel arfer, sefydliadau addysgol, darparwyr hyfforddiant, neu gyflogwyr yw’r canolfannau hyn.
CATS System Crynhoi a Throsglwyddo Credydau (Credit Accumulation and Transfer System)
Cefnogi Dysgu Y cyfleusterau a gynigir gan sefydliad sy'n darparu'r gefnogaeth angenrheidiol i ddysgwr gyflawni canlyniadau rhaglen.
Cofnod cyrhaeddiad dysgwr Cofnod awdurdodol o’r holl gredydau a chymwysterau a gyflawnwyd gan ddysgwr unigol o fewn y FfCCh.
Cofnod Dysgu Cymru Ymhen amser, bydd yr ULN yn golygu y bydd modd creu cofnod gydol oes o gyflawniad ar ffurf Cofnod Dysgu Cymru. Bydd dysgwr yn gallu gweld ei gofnod ar lein a rhannu gwybodaeth â darparwyr dysgu a darparwyr cyngor ac arweiniad proffesiynol.
Cofnod Personol Dysgwr Mae’r Cofnod Dysgu Personol (CDP) yn cofnodi cofnodion cyflawniad a chyfranogiad dysgwyr unigol sydd wedi’u dilysu o’u cyfnod yn yr ysgol, mewn coleg neu gyda darparwr hyfforddiant addysg bellach cydnabyddedig o 14 oed ymlaen. Gweler Cofnod Dysgwr Cymru
Corff Cydnabyddedig Cyrff sydd wedi cael eu cydnabod i gyflwyno unedau i golofn Dysgu Gydol Oes gyda Sicrwydd Ansawdd (QALL) y Fframwaith Cymwysterau a Chredydau Cymru (FfCChC).
Corff/Sefydliad Dyfarnu Corff sy’n cael ei gydnabod gan y rheoleiddwyr cymwysterau yn erbyn y gofynion sydd wedi eu nodi yn y trefniadau rheoleiddio yma i ddyfarnu credydau a chymwysterau.
Credyd Dyfernir credyd i ddysgwyr fel cydnabyddiaeth am gyflawni deilliannau dysgu dynodedig ar lefel credyd penodedig.
Crynhoi Credydau Y broses o grynhoi credydau tuag at darged penodol.
Cwrs Cyfle dysgu wedi’i drefnu’n rhesymegol lle y gall dysgwyr ennill dyfarniadau credyd.
Cydnabod Canolfan Proses lle mae canolfan sy’n dymuno cynnig achrediad yn cael ei chadarnhau fel canolfan sy’n abl i gynnal ansawdd a chysondeb asesu a chydymffurfio â disgwyliadau eraill y Sefydliad Dyfarnu.
Cydnabod Dysgu Blaenorol (RPL) Dull asesu sy’n ystyried a all dysgwyr ddangos eu bod yn gallu bodloni’r meini prawf asesu uned trwy wybodaeth, dealltwriaeth neu sgiliau sydd ganddynt yn barod, a heb angen eu datblygu drwy ddilyn cwrs dysgu.
Cymhwyster Dyfarniad a gyflwynir i ddysgwr am gyflawni cyfuniad penodol o gredydau, neu gredydau ac eithriadau sy’n ofynnol ar gyfer y dyfarniad hwnnw.
Cynghorau Sgiliau Sector (SSCs) Sefydliadau annibynnol dan arweiniad cyflogwyr sy’n bodoli ar draws y DU yw’r Cynghorau Sgiliau Sector. Mae’r SSCs a Chomisiwn y DU dros Gyflogaeth a Sgiliau wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth ym mhob un o’r pedair gwlad i greu’r amodau a fydd yn hwyluso mwy o fuddsoddi ar ran cyflogwyr yn y sgiliau a fydd yn ysgogi menter ac yn creu swyddi a thwf economaidd cynaliadwy.

Mae 18 Cyngor Sgiliau Sector a 5 Corff Sgiliau Sector sy’n gweithio gyda dros 550,000 o gyflogwyr i ddiffinio anghenion sgiliau a safonau sgiliau yn eu diwydiant.
Cyrff Rheoleiddio (ar gyfer cymwysterau) Sefydliadau statudol a bennwyd gan y llywodraeth i sefydlu safonau cenedlaethol ar gyfer cymwysterau a sicrhau y cydymffurfir â hwy. Yr awdurdodau rheoleiddio ar gyfer Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon yw Llywodraeth Cymru, Ofqual a CCEA yn y drefn honno.
Cywerthedd Cyfateb lefelau dyfarniadau gyda'i gilydd fel y gellir gwneud cymariaethau realistig yn genedlaethol ynghylch lefelau astudio.
Datganiad cydymffurfio blynyddol Mae’r rheoleiddiwr cymwysterau (Llywodraeth Cymru) yn gofyn i gorff llywodraethu pob sefydliad dyfarnu i ddarparu datganiad blynyddol yn cadarnhau eu bod yn cydymffurfio, neu ddim yn cydymffurfio, gyda’r gofynion rheoleiddio. Mewn achos lle bydd diffyg cydymffurfio, mae’n rhaid i’r datganiad ddisgrifio pob enghraifft o ddiffyg cydymffurfio, a sut bydd y sefydliad dyfarnu yn mynd ati i roi camau cywiro ar waith ac erbyn pryd.
Datganiad Dilysrwydd Datganiad yn cadarnhau mai'r dysgwr sy'n cyflwyno'r gwaith i'w asesu sydd wedi gwneud y gwaith hwnnw. Os cafodd y gwaith ei gynhyrchu fel rhan o gywaith, mae datganiad dilysrwydd hefyd yn cadarnhau cyfraniad y dysgwr i'r gwaith.
Dibynadwyedd asesiad Y graddau i’r hyn y mae canlyniadau asesiad yn fesur cywir o gyraeddiadau dysgwr yn erbyn gofynion yr uned - mae asesiad dibynadwy yn arwain at yr un canlyniad dro ar ôl tro, heb dueddiad neu amrywiad i’r offeryn asesu.
Dilysrwydd asesiad Mesur o ba mor addas i'r pwrpas yw offeryn neu gynllun asesu - mae asesiad dilys yn rhoi mesur cywir o'r hyn y mae wedi'i fwriadu i'w fesur.
Dilyswyr Mewnol Cymeradwy (DMC) (note - amend from Statws Dilysydd Mewnol Cymeradwy (AIVS) Dilysydd mewnol cymeradwy yw unigolyn a enwyd sydd wedi cael ei gymeradwyo gan Agored Cymru i awdurdodi’r broses o ddyfarnu credydau yn ei ch/ganolfan cydnabyddedig. Dalier sylw, ni all Dilysydd Mewnol Cymeradwy awdurdodi’r broses o ddyfarnu Diploma MAU.
Dilysydd Allanol (DA) Person a benodir gan Agored Cymru i adolygu maes, sector neu bwnc penodol o ddarpariaeth a gyflwynir gan Ganolfan, yn rhan o systemau sicrhau ansawdd allanol Agored Cymru.
Dilysydd Mewnol (DM) Unigolyn a benodir gan y Ganolfan i sicrhau safon sicrwydd ansawdd y Ganolfan ac yn enwedig sicrhau safonau asesu cywir a chyson rhwng aseswyr sy'n gweithredu yn y ganolfan.
Diploma (1) Cymhwyster yn y FfCCh sydd â gwerth credyd o 37 neu fwy.
Diploma (2) Gweler Diploma Mynediad i Addysg Uwch (MAU).
Diploma Mynediad i Addysg Uwch (MAU) Cymhwyster sy’n cael ei gydnabod yn genedlaethol sy’n seiliedig ar gredydau ac yn cael ei raddio yn unol â thelerau’r Diploma MAU a manylion credydau a’r cynllun graddio safonol. Mae gan bob Diploma MAU ei set ei hun o unedau asesu a gymeradwywyd, sy’n cael eu llywodraethu gan reolau cyfuno.

Cymhwyster lefel 3 sy’n paratoi myfyrwyr ar gyfer astudio ar lefel gradd yw’r Ddiploma MAU. Mae’r Ddiploma MAU yn cael ei chydnabod yn eang gan brifysgolion y DU, ac mae llawer ohonynt yn annog ceisiadau gan fyfyrwyr MAU yn frwd.
Disgrifiadau graddau (MAU) Datganiadau ynglyn â beth y mae disgwyl i ddysgwr ei wybod, ei ddeall a/neu ei ddangos er mwyn cyflawni gradd benodol ar gyfer uned astudio.
Disgrifydd lefel Disgrifiad neu ddiffiniad o lefel.
Dyddiad terfyn uned Y dyddiad y bydd uned yn peidio â bod yn rhan o'r banc unedau. Ar ôl y dyddiad hwn caiff yr uned ei archifo ac ni fydd modd cofrestru dysgwyr ar ôl hynny.
Dyfarniad Cymhwyster yn y FfCCh sydd â gwerth credyd rhwng 1 a 12.
Dyfarniad Credyd Tystysgrif (electronig neu ar bapur) a gyflwynir i unigolyn i gydnabod ei gyrhaeddiad.
Dyfarnu Y broses lle bydd canlyniadau dysgwyr yn cael eu pennu ar sail y dystiolaeth a gynhyrchwyd drwy eu hasesiad.
Dysgu Gydol Oes gyda Sicrwydd Ansawdd (QALL) Dull o fewn y FfCChC i gydnabod y wybodaeth neu’r sgiliau a enillwyd, mesur y dysgu sydd wedi digwydd, sicrhau ei ansawdd a dyfarnu credyd amdano.
Dysgwr Rhywun sydd wedi cofrestru i ddilyn cymhwyster ac i gael ei asesu fel rhan o’r cymhwyster hwnnw.
e asesiad Y prosesau asesu pen i ben ble defnyddir TGCh ar gyfer cyflwyno gweithgareddau asesu a chofnodi ymatebion. Mae hyn yn cynnwys y broses asesu pen i ben o safbwynt dysgwyr, tiwtoriaid, sefydliadau dysgu, sefydliadau dyfarnu, awdurdodau rheoleiddio a’r cyhoedd.
e bortffolio Storfa electronig at gyfer ffeilio a rheoli gwybodaeth wedi’i fodelu ar y dull a ddefnyddir ar gyfer portffolios papur, ond sy’n manteisio ar yr hyn sydd gan TGCh i’w gynnig. Mae’r dysgwr yn adeiladu a chynnal ystorfa ddigidol o arteffactau y gallant ei ddefnyddio i ddangos cymhwysedd a/neu adlewyrchu ar eu dysgu.
Effaith andwyol Ystyrir bod gweithred, esgeulustod, digwyddiad neu amgylchiad wedi cael effaith andwyol os yw un o’r isod yn berthnasol -
(A) mae wedi peri anfantais i Ddysgwyr neu i ddarpar Ddysgwyr, neu
(B) mae’n cael effaith andwyol ar yr isod -
(i) gallu’r sefydliad dyfarnu i ddatblygu, cyflwyno neu ddyfarnu cymwysterau yn unol â’i Amodau Cydnabod,
(ii) safon y cymwysterau y mae sefydliad dyfarnu yn eu cynnig neu y mae’r sefydliad yn bwriadu eu cynnig, neu
(iii) hyder y cyhoedd yn y cymwysterau.
Eithriad Y cyfleuster sy'n galluogi dysgwr i hawlio eithriad rhag rhai o ofynion cyrhaeddiad cymhwyster QCF, gan ddefnyddio tystiolaeth o gyrhaeddiad ardystiedig, y tu allan i QCF y bernitr ei fod o'r un gwerth.
FfCChC (CQFW) Mae Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru yn galluogi cydnabod a chymharu cyflawniad o bob math o weithgareddau addysg a hyfforddiant. Mae’r fframwaith yn cydnabod cymwysterau sydd wedi’u cwblhau yn llawn ac yn rhannol a’r amrywiaeth eang o weithgareddau addysg a hyfforddiant o fewn ac oddi allan i’r trefniadau cyllido a rheoleiddio.
Gr?p Targed Anghenion y dysgwyr hynny y bwriadwyd y cwrs ar eu cyfer.
Gradd Pwynt ar raddfa perfformiad a ddefnyddir i wahaniaethu rhwng cyrhaeddiad o fewn cymhwyster.
Graddio (MAU) Cadarnhau’n systematig a yw myfyrwyr wedi bodloni canlyniadau dysgu uned, ac os felly, a ydynt wedi gwneud hynny ar lefel 3 (wedi pasio), neu i safon sy’n ddigonol ar gyfer teilyngdod neu ragoriaeth, yn dilyn proses a rheoliadau cynllun marcio MAU.
Gwerth Credyd Nifer y credydau y gellir eu dyfarnu i ddysgwr am gyflawni canlyniadau dysgu uned yn llwyddiannus.
Lefel Arwydd o’r hyn sy’n ofynnol, cymhlethdod a / neu ddyfnder cyrhaeddiad, a / neu ymreolaeth y dysgwr wrth arddangos y cyflawniad hwnnw.
Lefel Credyd Mae lefel credyd yn ddangosydd o’r galw cymharol, cymhlethdod, dyfnder dysgu ac ymreolaeth dysgwr o’r disgrifyddion lefel cyffredinol y cytunwyd arnynt.
Llên-ladrad Defnyddio neu gopïo gwaith rhywun arall (boed hynny yn ysgrifenedig, wedi’i argraffu neu ar unrhyw ffurf arall) heb gydnabod hynny yn briodol mewn unrhyw ddarn o waith cwrs.
Manyleb Cymhhwyster Datganiad manwl yn diffinio pwrpas, cynnwys, strwythur a threfniadau asesu ar gyfer Cymhwyster.
Manylebau Asesu Disgrifiad o’r gofynion y mae disgwyl i ddysgwr eu bodloni i ddangos eu bod wedi cyflawni canlyniad dysgu.
Mapio Y berthynas rhwng un darn o ddysgu a’r llall, sy’n amlygu cywerthedd rhyngddynt a/neu gyfleoedd i arddangos sgiliau ychwanegol megis Sgiliau Sylfaenol, Sgiliau Allweddol neu Addysg Bersonol, Gymdeithasol ac Iechyd (ABGI).
Meini Prawf Asesu Datganiadau sy’n golygu bod modd dod i benderfyniad ynghylch a yw dysgwr wedi cyflawni’r canlyniadau dysgu penodol ar gyfer lefel penodol.
Ofqual (Office of Qualifications and Examinations Regulator) Y corff sy’n rheoleiddio Cymwysterau, Arholiadau a Phrofion yn Lloegr.
Oriau Dysgu dan Arweiniad Nifer yr oriau astudio dan oruchwyliaeth tiwtor neu oriau astudio dan gyfarwyddyd sydd eu hangen i gyflwyno uned neu gymhwyster.
Panel Dilysu (MAU) Tîm o arbenigwyr a benodir gan ADA i graffu ar gynigion ar gyfer Diplomâu MAU presennol neu newydd.
Rheolau Cyfuno Rheol sy’n nodi’r unedau y gellir eu cyfuno i ffurfio cymhwyster penodol, unrhyw unedau y mae’n rhaid eu cymryd ac unrhyw ofynion cysylltiedig.
Rheolyddion Cymwysterau Sefydliadau statudol a bennir gan y Llywodraeth i sefydlu safonau cenedlaethol ar gyfer cymwysterau a sicrhau cydymffurfiad â’r safonau hynny. Yr awdurdodau rheoleiddio ar gyfer Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon yw Llywodraeth Cymru, Ofqual a CCEA yn y drefn honno.
Rhif Unigryw Dysgwr (ULN) Cyfeirnod 10-digid a ddefnyddir i gael mynediad ac ochr yn ochr â Chofnod Dysgu Personol unrhyw un dros 14 oed sy’n ymwneud ag addysg neu hyfforddiant yn y DU.
Rhwydwaith Coleg Agored Cenedlaethol (NOCN) Corff Dyfarnu sydd wedi’i gydnabod gan yr Awdurdod Cymwysterau a Chwricwlwm (QCA). Cynigir llawer o gymwysterau NOCN yng Nghymru drwy gytundeb trydydd parti ag Agored Cymru.
Safonau academaidd (MAU) Y safonau a osodir ac a gynhelir gan ADAau yn eu cyrsiau ac a ddisgwylir yn eu dyfarniadau.
Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol (NOS) Datganiadau o'r sgiliau, gwybodaeth a'r dealltwriaeth angenrheidiol mewn cyflogaeth sy'n ddiffiniad clir o ganlyniadau perfformiad cymwys. Caiff Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol eu datblygu a'u cydnabod gan Gynghorau Sgiliau Sector neu sefydliadau cydnabyddedig.
Safoni asesiad Proses i sicrhau bod meini prawf asesu ar gyfer cymhwyster, uned neu ran o uned yn cael eu cymhwyso yn gyson gan aseswyr a dilyswyr. Gellir ymgymryd â gwaith safoni o fewn Canolfannau yn ogystal ag ar draws Canolfannau.
Sector Crëwyd sectorau i gategoreiddio cymwysterau i’w defnyddio ar draws cyrff ac asiantaethau addysg perthnasol yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Mae’r Sectorau wedi’u dynodi yn y System Ddosbarthu Meysydd Pwnc Sector (SSACS) ac mae copïau ar gael drwy wefan Ofqual.
Sicrwydd Ansawdd Ymrwymiad gan ddarparwr ynglyn ag ansawdd pob agwedd o eu darpariaeth gan gynnwys paratoi, cyflwyno, asesu, dogfennu ac ardystio.
Statws Hawlio Uniongyrchol Mae hyn yn rhoi’r gallu i Ganolfan Gydnabyddedig hawlio ardystiad uniongyrchol gan Agored Cymru. Dim ond Canolfannau Cydnabyddedig sydd â Dilyswyr Mewnol Cymeradwy (DMC) a systemau sicrhau ansawdd mewnol cadarn a roddir y statws hwn.
Swyddog Cyfrifol Y swyddog cyfrifol yw’r pwynt cyswllt awdurdodol ar gyfer Llywodraeth Cymru fel awdurdod rheoleiddio cymwysterau Cymru yng nghyswllt holl weithgareddau’r sefydliad dyfarnu. Mae’r Prif Swyddog Gweithredol yn gweithredu fel y swyddog cyfrifol.
Tiwtor Hyfforddwr, darlithydd neu hwylusydd cwrs.
Trosglwyddo credyd Y broses o ddefnyddio credyd a ddyfarnwyd yng nghyd-destun un cymhwyster neu gwrs tuag at gyflawni gofynion cymhwyster neu gwrs arall.
Tystiolaeth Prawf bod dysgwr wedi cyflawni, neu’n gweithio tuag at gyflawni meini prawf asesu. Mae tystiolaeth foddhaol ar gyfer pob maen prawf asesu yn galluogi’r dilysydd mewnol i gadarnhau dyfarniad credyd.
Tystysgrif (1) ar gyfer uned neu gymhwyster Cofnod o gyrhaeddiad credyd neu gymhwyster a gyhoeddir gan gorff dyfarnu.
Tystysgrif (2) Cymhwyster yn y FfCCh sydd â gwerth credyd rhwng 13 a 36.
Uned Uned yw’r rhan leiaf o ddysgu y gellir ei achredu yn ei rinwedd ei hun. Mae gan uned gyfres benodol o ganlyniadau cydlynol sy’n disgrifio’r hyn y bydd dysgwr yn gallu ei wneud, ynghyd â meini prawf asesu priodol, gwerth credyd, lefel a theitl a chod adnabod unigryw. Gellir cynllunio unedau fel rhan o gymhwyster neu gallant fod yn annibynnol. Nid oes yn rhaid dysgu neu gyflwyno unedau fel endidau ar wahân.
Unedau Gorfodol Unedau y mae'n rhaid eu cyflawni er mwyn ateb gofynion Cymhwyster, a bennir yn y rheolau cyfuno cymhwyster.
Y Fframwaith Cymwysterau Ewropeaidd ar gyfer Dysgu Gydol Oes (EQF) Fframwaith Ewropeaidd yw EQF yn cynnwys wyth lefel cyfeirnod o ddysgu, at yr hyn y dylid cyfeirio Fframweithiau Cymwysterau’r aelodau sy’n perthyn. Y bwriad yw iddo weithredu fel dull o gymharu lefelau cymwysterau gwahanol wledydd a systemau hyfforddiant ac addysg gwahanol.
Ystyriaeth Arbennig Trefn sy’n cael ei rhoi ar waith adeg asesu fel bod modd i ddysgwyr sydd wedi dioddef anhwyldeb, anaf neu salwch ar adeg yr asesiad allu dangos eu cyrhaeddiad.