Methu â dod o hyd i'r math priodol o ddigwyddiad neu hyfforddiant? Cysylltwch â ni gyda maes datblygu sy'n bwysig i chi a byddwn yn ymchwilio iddo.
Defnyddio offer digidol i asesu ar gyfer dysgu
Dim digwyddiadau
Manylion
Crynodeb
Bydd y gweithdy hwn yn eich cyflwyno i amrywiaeth o offer y gallwch eu defnyddio mewn sefyllfaoedd grŵp i weithio gyda dysgwyr ac i asesu'r hyn mae dysgwyr wedi'i ddysgu, yn ogystal â’ch helpu i wybod ble i fynd nesaf yn y sesiwn.
Mae heriau gwahanol yn codi wrth Asesu Dysgu mewn sefyllfa grŵp o’i gymharu â'r heriau sy’n codi wrth asesu 1-1. Gan ganolbwyntio ar wahaniaethu, byddwn yn trin a thrafod offer sy'n gallu eich helpu i fonitro cynnydd eich dysgwyr, gan ddefnyddio dulliau digidol.
Canlyniadau Dysgu:
Erbyn diwedd y gweithdy, bydd cynrychiolwyr wedi cael cyfle i:
- Arbrofi ag offer digidol sydd ar gael am ddim ac sy’n ennyn diddordeb dysgwyr yn y broses asesu, gan gynnwys mapio meddwl, cydweithio, cwisiau a chynnal pleidlais.
- Creu adnoddau dysgu rhyngweithiol at ddibenion asesu ffurfiannol.
Beth i ddod gyda chi i'r gweithdy
Dyfais Ddigidol – ffôn symudol, tabled neu liniadur
Cyfranogwyr
Aseswyr, tiwtoriaid a hyfforddwyr sy’n cyflwyno dysgu mewn sefyllfaoedd grŵp/gweithdy/sesiynau.