Methu â dod o hyd i'r math priodol o ddigwyddiad neu hyfforddiant? Cysylltwch â ni gyda maes datblygu sy'n bwysig i chi a byddwn yn ymchwilio iddo.
Dyfarniad Lefel 3 mewn Deall Egwyddorion ac Ymarfer Asesu
Dim digwyddiadau
Manylion
Bydd y 4 sesiwn yn cael ei chynnal ar-lein ar Microdoft Teams, dan arweiniad eich Aseswr
Sesiwn 1 - Dydd Llun 28ain o Ebrill, 13:00-16:00
Sesiwn 2 - DyddMawrth 29ain o Ebrill, 13:00-16:00
Sesiwn 3 - Dydd Llun 12fed o Fai, 13:00-16:00
Sesiwn 4 - Dydd Mawrth 13eg o Fai, 13:00-16:00
1 Yna bydd aseiniad sy'n cynnwys 8 tasg yn cael ei osod
Dyfarniad gwybodaeth yn unig yw hwn ar gyfer y rhai sydd yn newydd i asesu, sy’n gweithio tuag at ddod yn aseswr cymwysedig neu’n asesu dysgwyr fel rhan o’ch cyfrifoldebau addysgu neu hyfforddi. Bydd y cymhwyster hwn yn eich paratoi gyda’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen.
Bydd disgwyl i chi ymgymryd â hunan-astudio a chyflwyno 1 aseiniad (sy'n cynnwys 8 tasg) i gefnogi'r asesiad o'r cymhwyster hwn.
Drwy gwblhau’r cwrs hwn, byddwch yn dod i ddeall yn glir:
• Rôl aseswr a chyfrifoldebau eraill sy’n ymwneud â’r broses asesu
• Technegau cynllunio asesu effeithiol
• Dulliau asesu amrywiol a sut i wneud penderfyniadau asesu cadarn
• Strategaethau ar gyfer cynnwys dysgwyr yn y broses asesu
Gofynion
• Rhaid i chi fod yn 18+ oed ar ddechrau’r cwrs.
• Argymhellir y dylech fod wedi mynychu hyfforddiant Cyflwyniad i Asesu Agored Cymru.
Strwythur a Chynnwys y Cymhwyster
Er mwyn cyflawni’r cymhwyster hwn bydd dysgwyr yn cyflawni'r uned:
Deall Egwyddorion ac Arferion Asesu (Cod Uned: GB83CY109)
Bydd eich aseswr yn darparu gwybodaeth am sut y caiff y cymhwyster ei asesu, yn rhoi dyddiadau cau ar gyfer cyflwyno ac yn rhoi adborth ar eich asesiad.
Bydd gennych hawl i uchafswm o 2 awr o Gymorth Tiwtorial un i un os oes angen, gan eich aseswr.
Codir ffi ymlaen llaw o £60 yr awr ar gyfer unrhyw amser ychwanegol sydd ei angen arnoch chi (y dysgwr) ar gyfer hyn.
Amserlen Cyflwyno Aseiniad
Cyflwyniad Cyntaf: Bydd angen cyflwyno eich cyflwyniad cyntaf o fewn 6 wythnos i’ch sesiwn Microsoft Teams ar-lein ddiwethaf.
Cyflwyniad Terfynol: Ar ôl ei anfon i’ch Aseswr am adborth ac arweiniad, bydd gennych 4/6 wythnos arall i gwblhau a chyflwyno'ch ail asesiad a’r olaf.
Ar ôl i chi gyflwyno’ch asesiad terfynol, bydd yn mynd trwy brosesau Sicrhau Ansawdd Mewnol a Sicrhau Ansawdd Allanol cyn i’ch dyfarniad gael ei gyhoeddi.
Byddwch yn cael yr union ddyddiadau cyflwyno ar ddechrau’r cwrs.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â: events@agored.cymru