Methu â dod o hyd i'r math priodol o ddigwyddiad neu hyfforddiant? Cysylltwch â ni gyda maes datblygu sy'n bwysig i chi a byddwn yn ymchwilio iddo.

Cynhadledd Mynediad i Addysg Uwch

Dim digwyddiadau

Manylion

Cynhadledd Mynediad i AU 2026

Dyddiad: 5 Mehefin 2026

Lleoliad: Canolfan Adnoddau’r Cyfryngau (MRC), Llandrindod

Amser: 10:00am – 4:00pm

Cost Am ddim i’r holl fynychwyr

Dyddiad cau archebu lle: 3 Fehefin 2026

 

Gwybodaeth am y Gynhadledd

Mae Cynhadledd Mynediad i AU 2026 Agored Cymru yn ddigwyddiad undydd am ddim, sydd yn cael ei gynnal ar 5 Mehefin 2026 yng Nghanolfan Adnoddau’r Cyfryngau (MRC), Llandrindod.

Bydd cynhadledd eleni yn canolbwyntio ar dair thema allweddol sydd yn siapio datblygiad a dyfodol y Diploma Mynediad i Addysg Uwch yng Nghymru a thu hwnt.

  • Defnyddio Deallusrwydd Artiffisial (AI) mewn asesiadau Mynediad i AU
  • Defnyddio data i ddeall effaith y Diploma Mynediad i AU yng Nghymru
  • Cyfleoedd a heriau yng nghyd-destun diwygio'r sector

Bydd y diwrnod yn cynnwys cyflwyniadau ar ymchwil diweddar a gynhaliwyd mewn perthynas â Mynediad i AU, gyda chyfleoedd i ymgysylltu gyda’r darganfyddiadau, cyfrannu at drafodaethau a chysylltu gyda chydweithwyr ledled Cymru.

 

Sut i archebu lle

Er mwyn cadw eich lle, cwblhewch archeb.

Rhaid derbyn archebion erbyn dim hwyrach na 3 Fehefin 2026.

Os nad oes gennych gyfrif gwe Agored Cymru, cysylltwch â digwyddiadau@agored.cymru i ofyn iddynt wneud archeb ar eich rhan

Er mwyn iddynt allu gwneud hyn, bydd angen y canlynol arnom:

  • Enw'r cynrychiolydd
  • Cyfeiriad E-bost
  • Sefydliad
  • Teitl Rôl

Byddwch wedyn yn derbyn cadarnhad o’ch archeb trwy e-bost.

 

Cysylltwch â ni

Am ragor o wybodaeth am y gynhadledd, cysylltwch â:

Victor Morgan Rheolwr Mynediad i AU, Agored Cymru

E-bost: [victor.morgan@agored.cymru]

Cyfyngiadau

Dim