Dyddiad gweithredu: 1af Awst 2018
Ffioedd Canolfan ar gyfer Aelodau | Ffi | Nodiadau |
---|---|---|
Cydnabod canolfan - canolfannau newydd | 800.00 | Codir ffi safonol na ellir ei hawlio’n ôl ar gyfer y broses cydnabod canolfan a byddwn yn eich anfonebu amdani ar ddechrau’r cais. Mae’n bosib y codir ffioedd ychwanegol os bydd angen cefnogaeth bellach gan Agored Cymru i sicrhau cydymffurfiad. Codir y ffi hon yn lle’r ffi flynyddol ar gyfer canolfannau cydnabyddedig yn y flwyddyn gyntaf maent yn cydweithio â ni. |
Ffi flynyddol ar gyfer canolfannau cydnabyddedig | 530.00 | Mae’r ffi flynyddol i’w thalu gan bob canolfan gydnabyddedig. Mae hyn yn golygu bod canolfannau yn gallu:
|
Canolfannau arweiniol mewn partneriaethau | Ad-daliad o 10% fesul partner ar y ffi adolygu canolfan hyd uchafswm o 100%. |
Ffioedd perthnasol i ddysgwyr | Ffi | Nodiadau | |
---|---|---|---|
Ffi am gredyd | 3.12 | Bydd pob credyd a enillir yn cael ei anfonebu. Cysylltwch â’ch rheolwr dynodedig i gael manylion am becynnau hyblyg y gallwn ni eu cynnig i’ch canolfan chi. | |
Ffi gweithgarwch sylfaenol ar gyfer pob canolfan | 560.00 | Mae hyn yn cyfateb i oddeutu 180 credyd. Yn daladwy ymlaen llaw (Awst 2018). | |
Cymwysterau llawn | Ffioedd cymwysterau unigol ar gael ar gais. | ||
Diploma Mynediad i Addysg Uwch | £130.00 y cofrestriad. | Gweler y canllawiau yn y llythyr ffioedd. | |
Cyflwyno dyfarniadau’n hwyr | £10.00 bob tro mae cwrs yn cael ei gynnal. | Ystyrir bod dyfarniad yn hwyr os derbynnir yr hawliad fwy na 6 mis (182 diwrnod) ar ôl dyddiad gorffen cwrs. | |
Cynnal cyrsiau | Os oes angen mewnbwn gan dîm Agored Cymru i gynnal cwrs. | 2.00 | Ffi bob tro mae’r cwrs yn cael ei gynnal. |
Tystysgrif newydd | 25.00 |
Hyfforddiant | Ffi | Nodiadau | |
---|---|---|---|
Cyrsiau hyfforddiant wedi’u trefnu | Canolfannau sydd newydd gael eu cydnabod | Mae 4 lle ar y cyrsiau canlynol ar gael am ddim, yn y 12 mis cyntaf ar ôl dod yn ganolfan gydnabyddedig:
|
Cyhoeddir y rhaglen ar wahân. |
Canolfannau Cydnabyddedig | Mae’r gefnogaeth ganlynol ar gael yn rhad ac am ddim i unrhyw ganolfan gydnabyddedig:
|
Bydd yn rhaid talu pob ffi hyfforddi ymlaen llaw er mwyn osgoi unrhyw anghydfod ynghylch canslo neu gyfnewid digwyddiadau. | |
Ffi canslo | Codir ffi sylfaenol o £50 am bob cynrychiolydd sydd ddim yn mynychu unrhyw ddigwyddiad am ddim. Ni fydd unrhyw ad-daliad lle codir ffi o £50 y person am gwrs. |
Ar adegau, bydd amgylchiadau’n codi sy’n golygu bod angen canslo, aildrefnu neu ohirio digwyddiad, oherwydd rhywbeth na ellid ei ragweld. Mae Agored Cymru yn cadw’r hawl i ganslo cyrsiau pan fo unrhyw amgylchiadau annisgwyl yn codi. |
|
Pob cwrs arall Bydd mynychwyr yn cael ad-daliad o 50% os byddant yn canslo rhwng 10 a 5 diwrnod gwaith cyn dechrau’r cwrs. Pan fydd rhywun yn canslo llai na 5 diwrnod gwaith cyn digwyddiad, ni fydd gan fynychwyr hawl i gael ad-daliad. Caiff canolfannau anfon rhywun arall i fynychu’r digwyddiad lle bo hynny’n berthnasol. Pob cwrs – ni roddir ad-daliad am beidio â mynychu. | |||
Cyrsiau hyfforddiant ar gais | Os hoffech i ni ddarparu hyfforddiant i chi yn eich lleoliad, cysylltwch â ni i drafod hyn: digwyddiadau@agored.cymru. |
Ffioedd eraill a godir ar ganolfannau | Ffi | Nodiadau | |
---|---|---|---|
Cymeradwyo unedau newydd | Pris fesul uned | Cysylltwch â’ch rheolwr dynodedig i gael pris. | |
Sicrwydd ansawdd allanol ychwanegol | Fesul hanner diwrnod | 200.00 ynghyd â theithio a chynhaliaeth. | Ar gyfer darparu cefnogaeth ychwanegol er mwyn cynnal statws canolfan gydnabyddedig. |
Gwaith prosiect/ymgynghori | Ffi i’w thrafod. | ||
Marc Ansawdd | Dyfynbrisiau unigol ar gael. |