Cyflwyno
Rhaid i ganolfannau sicrhau bod cymwysterau'n cael eu cyflwyno mewn modd effeithlon ac effeithiol. Nodwedd hanfodol o ran cyflwyno'n effeithiol yw cynllunio cyrsiau yn drylwyr ac yn fanwl. Mae'n rhaid i ganolfannau allu dangos bod ganddyn nhw broses fewnol gadarn ar gyfer dylunio, datblygu a chyflwyno cyrsiau cydlynol.
Un o nodweddion allweddol nifer o'n cymwysterau yw'r hyblygrwydd maen nhw'n ei gynnig i ganolfannau eu rhoi yn eu cyd-destun i fodloni anghenion penodol eu dysgwyr. Mae'r hyblygrwydd hwn yn hyrwyddo ymgysylltiad cadarn â dysgwyr, a phrofiadau dysgu ystyrlon.
Dylai canolfannau sicrhau bod cynlluniau gwaith a chynlluniau gwersi manwl ar waith sy'n ystyried pob agwedd ar fanyleb y cymhwyster. Dylai'r rhain gynnwys manylion y strategaethau a'r adnoddau sy'n angenrheidiol ar gyfer addysgu, ac asesiadau sy'n bodloni anghenion dysgwyr.
Mae'n rhaid i ddulliau addysgu a dysgu fod yn gyson â chyd-destun, lefel ac amodau'r cymhwyster, ac mae'n rhaid iddyn nhw gael eu dylunio i gynnwys, ysgogi a chymell dysgwyr.
Asesu
Mae'n rhaid i asesiadau sydd wedi cael eu creu gan ganolfannau fodloni manyleb y cymhwyster. Mae'n rhaid i asesiadau alluogi'r asesydd i wahaniaethu'n gywir ac yn gyson rhwng y lefelau cyrhaeddiad mae'r dysgwyr wedi'u dangos. Dim ond deunydd sydd wedi dod o'r wybodaeth, y sgiliau a'r ddealltwriaeth yn y fanyleb sydd i'w gynnwys yn yr asesiad, ac mae'n rhaid i lefel y galw fod yn gyson.
Mae'n rhaid i asesiad wneud y canlynol:
- sicrhau ei fod yn bosib i ddysgwyr ddangos i ba raddau mae ganddyn nhw'r wybodaeth, y sgiliau a'r ddealltwriaeth sy'n angenrheidiol ar gyfer y cymhwyster
- galluogi i ddysgwr sy'n meddu ar yr wybodaeth, y sgiliau a'r ddealltwriaeth angenrheidiol gyrraedd y lefel cyrhaeddiad sydd wedi'i nodi
- bod yn addas i'r diben, yn ddilys ac yn briodol i'r wybodaeth, y sgiliau a'r ddealltwriaeth sy'n cael eu mesur
- gwahaniaethu'n effeithiol rhwng dysgwyr (ar sail yr wybodaeth, y sgiliau a'r ddealltwriaeth sy'n cael eu hasesu)
- mesur yr wybodaeth, y sgiliau a'r ddealltwriaeth y maent i fod i'w mesur yn gywir
Mae'n ofynnol i ganolfannau sicrhau bod yr asesiadau sydd wedi cael eu creu gan ganolfannau yn cael eu hadolygu, a'u diwygio os oes angen, i sicrhau eu bod yn parhau i fod yn addas i'r diben, er enghraifft, drwy adlewyrchu gofynion, arfer da neu ddeddfwriaeth newydd.
Bydd rhai cymwysterau a'u hunedau yn rhagnodi'r dulliau asesu sydd i'w defnyddio. Bydd y dulliau hyn wedi'u nodi mewn unedau unigol
Lle nad yw'r dulliau wedi cael eu rhagnodi, dylai canolfannau ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau asesu i asesu dysgwyr gan y bydd hyn yn galluogi dysgwyr i ddangos eu gwybodaeth a/neu eu cymhwysedd. Y peth pwysicaf yw bod y dulliau asesu yn briodol ar gyfer y canlyniad a fwriedir.
Mae'n rhaid i ganolfannau gadw at ofynion asesu Agored Cymru wrth ddarparu cymwysterau, uned neu unedau.
I gael arweiniad ar asesu, cyfeiriwch at Canllawiau ar Asesu Agored Cymru.
Mae’n rhaid i aseswyr:
- fod â phrofiad cyfredol a/neu berthnasol ym maes asesu;
- fod wedi ymgymryd â hyfforddiant perthnasol os yn newydd i asesu (gweler y wefan ar gyfer cyrsiau Cyflwyniad i Asesu Agored Cymru);
- fod â gwybodaeth dda am ofynion asesu Agored Cymru a dealltwriaeth dda ohonynt;
- fod yn gyfarwydd â lefel y cymhwyster a'i uned(au);
- fod â gwybodaeth dda am y pwnc a dealltwriaeth a/neu brofiad o'r uned(au)/cymhwyster neu gymwysterau sy'n cael eu hasesu.
Oni nodir hynny yng nghanllawiau’r cymhwyster neu ym manyleb yr uned, ar hyn o bryd nid oes yn rhaid i aseswyr gael cymhwyster asesu ffurfiol* i asesu unedau a / neu gymwysterau Agored Cymru. Er hynny, mae Agored Cymru yn argymell yn gryf bod aseswyr yn gweithio tuag at ennill achrediad ffurfiol (e.e. Tystysgrif Lefel 3 mewn Asesu Cyrhaeddiad Galwedigaethol). Hefyd, mae Agored Cymru yn argymell yn gryf bod aseswyr yn mynychu hyfforddiant Cyflwyniad i Asesu Agored Cymru.
Gofynion Penodol o ran Aseswyr
Gofynion Penodol o ran Aseswyr
Bydd angen i Aseswyr:
1. Fod wedi gweithio gyda phlant a phobl ifanc fel gweithiwr chwarae ar lefel y cymhwyster hwn neu uwch mewn lleoliadau sy’n gyson ag Egwyddorion Gwaith Chwarae ac ethos gwaith chwarae.
2. Dangos y profiad, yr wybodaeth a’r sgiliau gwaith chwarae ymarferol sydd eu hangen i wneud penderfyniadau cywir am gymhwysedd pobl eraill. Rhaid i hyn fod ar ffurf adroddiad ysgrifenedig sy’n rhoi manylion:-
a. Eu profiad o waith chwarae – ble, beth a phryd
b. Eu gwybodaeth ymarferol am yr Egwyddorion Gwaith Chwarae a theori gwaith chwarae (gan gynnwys y cylch chwarae, mathau o chwarae, dulliau ymyrryd, asesu risg:budd ac ymarfer myfyriol)
c. Eu dealltwriaeth o rôl y gweithiwr chwarae (yn hytrach nag addysgwr blynyddoedd cynnar neu weithiwr ieuenctid) a pha sgiliau sydd eu hangen ar gyfer y rôl hon o ran
i) meithrin perthynas â phlant,
ii) creu mannau chwarae a
iii) cefnogi chwarae.
3. Fod wedi cymryd rhan weithredol a chyson mewn proses o ddatblygiad proffesiynol parhaus cyfredol a pherthnasol er mwyn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am arferion gorau ym maes gwaith chwarae. Rhaid dangos tystiolaeth o hyn mewn adroddiad myfyriol neu mewn cofnodion myfyriol a ddefnyddir i ddangos tystiolaeth o DPP (dylai hyn gynnwys gwaith chwarae wyneb yn wyneb, mynychu diwrnodau hyfforddi’r sector, seminarau a chynadleddau, hyfforddiant a darllen).
4. Fod wedi gweithio fel asesydd gwaith chwarae a/neu hyfforddwr gwaith chwarae neu’n hyfforddi yn y maes ar hyn o bryd, gan roi manylion pryd a ble a disgrifio beth yw’r sgiliau penodol sydd eu hangen ar gyfer y rolau hyn a pham.
5. Fod wedi ennill cymhwyster hyfforddi a/neu asesu cydnabyddedig
Dymunol
6. Fod yn gweithio tuag at, neu wedi ennill, cymhwyster gwaith chwarae cydnabyddedig ar fframwaith cymwysterau cyfredol neu hanesyddol yn y DU.