Gwaith Ieuenctid
Mae gwaith ieuenctid yn helpu pobl ifanc i ddysgu amdanynt eu hunain, pobl eraill a chymdeithas, drwy weithgareddau addysgol anffurfiol sy’n cyfuno mwynhad, her a dysgu. Mae gweithwyr ieuenctid yn gweithio fel arfer gyda phobl ifanc rhwng 11 a 25 oed. Nod eu gwaith yw hyrwyddo datblygiad personol a chymdeithasol pobl ifanc a’u galluogi i gael llais, dylanwad a lle yn eu cymunedau a chymdeithas yn gyffredinol.
Agored Cymru Dyfarniad Lefel 2 mewn Egwyddorion Gwaith Ieuenctid (Cymru)
TQT= 110
GLH= 73
Mae Dyfarniad Lefel 2 mewn Egwyddorion Gwaith Ieuenctid (Cymru) yn paratoi dysgwyr i ddechrau gweithio gyda phobl ifanc mewn amrywiaeth o leoliadau gwaith ieuenctid.
Mae Dyfarniad Lefel 2 mewn Egwyddorion Gwaith Ieuenctid (Cymru) yn addas os yw dysgwyr yn newydd i waith ieuenctid a bod angen cyflwyniad arnynt i egwyddorion a dibenion gwaith ieuenctid a’r themâu allweddol ar gyfer gweithio yn y sector. Nid yw’r cymhwyster hwn yn cymhwyso’r dysgwr i ymgymryd â rolau cymwysedig JNC fel Cynorthwyydd Gweithiwr Cymorth Ieuenctid neu Weithiwr Cymorth Ieuenctid.
Agored Cymru Tystysgrif Lefel 2 mewn Ymarfer Gwaith Ieuenctid (Cymru)
TQT= 260
GLH= 138
Mae Tystysgrif Lefel 2 mewn Ymarfer Gwaith Ieuenctid (Cymru) yn paratoi dysgwyr i gynorthwyo wrth weithio gyda phobl ifanc mewn amrywiaeth o leoliadau gwaith ieuenctid. Fodd bynnag, nid yw bellach yn caniatáu i ddysgwyr gofrestru gyda'r JNC fel Gweithiwr Cymorth Ieuenctid. Bellach mae angen i ddysgwyr sydd wedi cwblhau Lefel 2 gwblhau Lefel 3 i gofrestru fel Gweithiwr Cymorth Ieuenctid.
Mae’r cymhwyster hwn ar gyfer unigolion sy’n helpu i gyflawni gwaith ieuenctid gweithredol ac sy’n ymgymryd â dyletswyddau dan gyfarwyddyd, lle nad oes llawer iawn o weithio ar liwt eu hunain a gweithredu annibynnol.
Rhaid i’r dysgwr allu cael lleoliad seiliedig ar waith a gallu cwblhau o leiaf 40 awr mewn lleoliad ymarfer.
Dyma enghreifftiau o’r prif ddyletswyddau:
- Gweithio’n uniongyrchol â phobl ifanc i ddatblygu eu haddysg gymdeithasol drwy ddarparu rhaglenni gweithgareddau, gwasanaethau a chyfleusterau;
- Sefydlu cysylltiad â phobl ifanc fel rhan o raglenni lleol, ac arwain y bobl ifanc;
- Cynorthwyo i ddarparu cyngor a chefnogaeth i grwpiau ac asiantaethau cymunedol lleol;
- Cynorthwyo i gymell, cadw, datblygu a chefnogi staff a gwirfoddolwyr;
- Cynorthwyo i ddatblygu gwasanaethau drwy gyfrannu at y broses o gynllunio, darparu a monitro darpariaethau lleol;
- Gweinyddu o ddydd i ddydd er mwyn sicrhau bod gwasanaethau’n cael eu rhedeg yn ddidrafferth;
- Gweithredu polisïau cydraddoldeb ac amrywiaeth.
Agored Cymru Tystysgrif Lefel 3 mewn Ymarfer Gwaith Ieuenctid (Cymru)
TQT= 270
GLH= 142
Mae Tystysgrif Lefel 3 mewn Ymarfer Gwaith Ieuenctid (Cymru) yn paratoi dysgwyr i arwain wrth weithio gyda phobl ifanc mewn amrywiaeth o leoliadau gwaith ieuenctid.
Dyma’r cymhwyster sylfaenol sy’n ofynnol ar gyfer y rheini sy’n dymuno gweithio fel Gweithiwr Cymorth Ieuenctid cymwysedig gyda JNC. Mae’r cymhwyster yn cael ei gymeradwyo gan Bwyllgor ETS Cymru ac ETS Lloegr ar ran JNC. Cymhwyster trwydded i ymarfer yw hwn ac mae’n cael ei gydnabod gan Gyngor y Gweithlu Addysg (EWC).
Rhaid i’r dysgwr allu cael lleoliad seiliedig ar waith a gallu cwblhau o leiaf 60 awr mewn lleoliad ymarfer.
Mae’r cymhwyster hwn ar gyfer unigolion sy’n cyflawni gwaith ieuenctid gweithredol ac sy’n ymgymryd â dyletswyddau ar eu liwt eu hunain neu sy’n ysgwyddo cyfrifoldeb goruchwylio dros brosiectau bach, fel clybiau un noson yr wythnos. Bydd gweithwyr sydd â’r cyfrifoldebau hyn yn cael cyfarwyddyd ar arwain a gweithredu gan weithwyr ieuenctid cymwysedig proffesiynol.
Dyma enghreifftiau o’r prif ddyletswyddau:
- Gweithio’n uniongyrchol â phobl ifanc i ddatblygu eu haddysg gymdeithasol drwy ddarparu rhaglenni gweithgareddau, gwasanaethau a chyfleusterau;
- Sefydlu cysylltiad â phobl ifanc fel rhan o raglenni lleol, ac arwain y bobl ifanc;
- Darparu cyngor a chefnogaeth i grwpiau ac asiantaethau cymunedol lleol;
- Cynorthwyo i gymell, cadw, datblygu a chefnogi staff a gwirfoddolwyr;
- Cyfrannu at ddatblygu gwasanaethau drwy gynllunio, darparu a monitro darpariaethau lleol;
- Gweithredu polisïau cydraddoldeb ac amrywiaeth.
- Meithrin a chynnal perthynas gyda phobl ifanc a grwpiau cymunedol;
- Cynnal ansawdd y gwasanaeth a ddarperir gan gynnwys rhoi cyfarwyddiadau i weithwyr eraill;
- Cyfrifoldeb rheolaeth linell gyntaf dros weithwyr a gwirfoddolwyr, gan gynnwys recriwtio, datblygu a chychwyn disgyblu staff;
- Cychwyn a monitro datblygiadau gwasanaethau, yn enwedig gydag asiantaethau eraill;
- Cyflawni dyletswyddau gweinyddol a sicrhau eu bod yn cael eu cyflawni (gan gynnwys rheoli cyllideb, cadw cofnodion ac iechyd a diogelwch).
Agored Cymru Diploma Lefel 3 mewn Ymarfer Gwaith Ieuenctid (Cymru)
TQT= 370
GLH= 197
Mae Diploma Lefel 3 mewn Ymarfer Gwaith Ieuenctid (Cymru) yn paratoi dysgwyr i arwain wrth weithio gyda phobl ifanc mewn amrywiaeth o leoliadau gwaith ieuenctid, ac arbenigo mewn meysydd sy’n berthnasol i’w hymarfer gwaith ieuenctid.
Mae’r cymhwyster yn cefnogi llwybrau cynnydd o Dystysgrif Lefel 3 mewn Ymarfer Gwaith Ieuenctid (Cymru) ac i ddysgwyr ehangu eu gwybodaeth a’u sgiliau mewn meysydd arbenigol sy’n ymwneud â’u hymarfer gwaith ieuenctid.
Rhaid i’r dysgwr allu cael lleoliad seiliedig ar waith a gallu cwblhau o leiaf 80 awr mewn lleoliad ymarfer. Os yw’r dysgwr eisoes wedi cwblhau’r 60 awr sy’n ofynnol ar gyfer y Dystysgrif Lefel 3 mewn Ymarfer Gwaith Ieuenctid (Cymru), dim ond 20 awr arall y bydd angen iddynt ei gwblhau er mwyn bodloni gofynion lleoliad y Diploma Lefel 3 mewn Ymarfer Gwaith Ieuenctid (Cymru).
Mae’r cymhwyster hwn ar gyfer unigolion sy’n cyflawni gwaith ieuenctid gweithredol ac sy’n ymgymryd â dyletswyddau ar eu liwt eu hunain neu sy’n ysgwyddo cyfrifoldeb goruchwylio dros brosiectau bach, fel clybiau un noson yr wythnos. Bydd gweithwyr sydd â’r cyfrifoldebau hyn yn cael cyfarwyddyd ar arwain a gweithredu gan weithwyr ieuenctid cymwysedig proffesiynol.
Dyma enghreifftiau o’r prif ddyletswyddau:
- Gweithio’n uniongyrchol â phobl ifanc i ddatblygu eu haddysg gymdeithasol drwy ddarparu rhaglenni gweithgareddau, gwasanaethau a chyfleusterau;
- Sefydlu cysylltiad â phobl ifanc fel rhan o raglenni lleol, ac arwain y bobl ifanc;
- Darparu cyngor a chefnogaeth i grwpiau ac asiantaethau cymunedol lleol;
- Cynorthwyo i gymell, cadw, datblygu a chefnogi staff a gwirfoddolwyr;
- Cyfrannu at ddatblygu gwasanaethau drwy gynllunio, darparu a monitro darpariaethau lleol;
- Gweithredu polisïau cydraddoldeb ac amrywiaeth;