Mae sicrhau ansawdd mewnol yn elfen hollbwysig o system sicrhau ansawdd canolfan.

Mae sicrhau ansawdd mewnol yn elfen hollbwysig o system sicrhau ansawdd mewnol canolfan. Mae system sicrhau ansawdd mewnol effeithiol a chadarn yn sicrhau bod pob dysgwr yn cael ei asesu yn deg ac yn gyson i’r safon a bennwyd. 

Mae sicrhau ansawdd mewnol yn cadarnhau bod y broses asesu (h.y. o'r gwaith cynllunio cyn y cwrs i argymell dyfarnu credyd) yn addas i'r diben ac yn cael ei rhoi ar waith yn gywir, yn deg ac yn gyson. 


I’r Broses

Disgwylir i Swyddogion Sicrhau Ansawdd Mewnol gadw cofnodion ysgrifenedig manwl o ganlyniadau Camau 1 i 5:

1.  Adolygiad cyn y cwrs o'r ddarpariaeth o ran cymwysterau a/neu unedau

Mae’r swyddog sicrhau ansawdd mewnol yn cadarnhau dilysrwydd ac addasrwydd yr unedau a/neu'r cymwysterau y mae’r aseswyr wedi'u dewis.

Os nad yw’r unedau bellach yn addas (oherwydd anghenion y garfan dysgwyr neu oherwydd bod yr unedau wedi dod i ben ayyb), ceisir dod o hyd i ddewisiadau eraill o lyfrgell unedau a/neu gymwysterau cymeradwy Agored Cymru.

2 Sicrhau ansawdd darpariaeth yn fewnol cyn y cwrs

Mae’r sicrhau ansawdd mewnol yn adolygu’r holl ddulliau, tasgau a deunyddiau asesu i sicrhau eu bod yn ateb y gofyn.

3. Sicrhau ansawdd sampl yn fewnol 

Mae sicrhau ansawdd mewnol yn llunio cynllun samplu, sydd â chyswllt â rhan o Gam1 y broses asesu.

Mae sicrhau ansawdd mewnol yn dethol sampl o waith dysgwyr sydd wedi cael ei asesu er mwyn cadarnhau bod yr aseswyr yn asesu gwaith y dysgwyr yn gywir, yn deg ac yn gyson. 

 Mae sicrhau ansawdd mewnol hefyd yn cadarnhau bod y penderfyniadau asesu sy'n cael eu gwneud yn gyson ar draws unedau a/neu gymwysterau.

4. Sicrhau ansawdd penderfyniadau asesu yn fewnol 

Mae sicrhau ansawdd mewnol yn adolygu dyfarniadau asesu aseswyr yn rheolaidd.

Mae ymarferiad sicrhau ansawdd mewnol hanner ffordd drwy’r cwrs yn amlygu unrhyw faterion sydd angen rhoi sylw iddynt, gan roi cyfle i gymryd camau yn eu cylch cyn bod y broses dyfarnu credyd yn cael ei pheryglu.

Mae yn adolygu dyfarniadau asesu aseswyr yn unol ag egwyddorion asesu

5. Sicrhau ansawdd gweithgareddau ymarferol yn fewnol

Mae sicrhau ansawdd mewnol yn arsylwi asesiadau ymarferol lle bo hynny’n briodol (h.y. lle nad yw’r dysgwr wedi cynhyrchu unrhyw dystiolaeth ysgrifenedig neu bendant) er mwyn arsylwi, monitro ac asesu ymateb dysgwyr.  


Dogfennau defnyddiol

I gael rhagor o wybodaeth ac arweiniad ar ddilysu mewnol effeithiol, darllenwch ein Canllawiau ar gyfer Sicrhau Ansawdd Mewnol

Rhestr 1: Staff sy'n ymwneud ag asesu a Sicrhau Ansawdd Mewnol

Rhestr Atgoffa 1: Gwybodaeth am gyrsiau a sicrwydd ansawdd

Rhestr Atgoffa 2: Adolygiad cyn-gwrs o unedau

IQA1: Sicrhau ansawdd mewnol ar gyfer ymarfer neu dasg newydd

IQA2: Cynllun samplo seiliedig ar risg ar gyfer sicrhau ansawdd mewnol

IQA3: Sicrhau ansawdd mewnol ar gyfer penderfyniadau asesu

IQA4: Arsylwi asesiad ar gyfer sicrhau ansawdd mewnol