Pwrpas sicrhau ansawdd allanol (EQA) yw cadarnhau bod gan ganolfannau cydnabyddiedig y prosesau, yr adnoddau a'r staff angenrheidiol yn eu lle i'w galluogi i reoli a chefnogi'r gwaith o ddyfarnu unedau a chymwysterau dilys yn effeithiol.

Mae hefyd yn fodd o gadarnhau bod dysgwyr wedi cyflwyno digon o dystiolaeth ddilys ar y lefel briodol i ennill credyd ar gyfer unedau a chymwysterau.

Mae Agored Cymru wedi ymrwymo i ddefnyddio dull cadarn, tryloyw, seiliedig ar risg o sicrhau ansawdd y gall canolfannau ymdopi ag ef ac sy'n gymesur o ran y camau a gymerir pan ddaw diffygion i'r amlwg.


Y Broses

Neilltuir Rheolwr Ansawdd i bob un o ganolfannau cydnabyddedig Agored Cymru. Rhaid cyfeirio pob ymholiad sy'n ymwneud â sicrhau ansawdd at sylw eich Rheolwr Ansawdd. Os nad ydych chi'n siŵr pwy yw eich Rheolwr Ansawdd cysylltwch ag Agored Cymru am eglurhad.

Cynhelir un gweithgaredd EQA bob blwyddyn yng nghyswllt y mwyafrif o ganolfannau ond efallai y bydd angen gweithgareddau EQA ychwanegol. 

Lle bo modd, cynhelir gweithgareddau EQA o bell wrth ddesg a gofynnir i ganolfannau anfon tystiolaeth electronig i'w hadolygu.

Mae nifer y gweithgareddau EQA a gaiff eu cynnal a pha mor aml y cynhelir nhw yn dibynnu ar y canlynol:

  • faint o unedau a chymwysterau sy'n cael eu cynnig
  • os yw'r ganolfan yn darparu unedau neu gymwysterau newydd
  • nifer y dysgwyr a faint o gredyd sy'n cael ei gynnig
  • canlyniadau adroddiadau EQA blaenorol ac ymateb y ganolfan i'r camau y mae'n ofynnol iddi eu cymryd
  • os oes gan y ganolfan ddilyswyr mewnol cymwysedig
  • gofynion rheoleiddiol.

Gall dangos gweithgareddau sicrhau ansawdd mewnol effeithiol sy'n arwain at brosesau asesu o ansawdd uchel olygu llai o graffu o'r tu allan. 


Paratoi ar gyfer Sicrhau Ansawdd Allanol

Ar ôl cytuno ar ddyddiad, bydd y Rheolwr Sicrhau Ansawdd yn cysylltu â'r ganolfan i drafod y manylion a chadarnhau manylion yr ymweliad.

Yn ystod yr ymweliad, mae'n rhaid i'r dogfennau canlynol fod ar gael:

  1. ffeil ansawdd y ganolfan (gan gynnwys gweithdrefnau a pholisïau a chymwysterau/CVs y staff)  
  2. cofnodion a dogfennau dilysu mewnol (darllenwch ein Canllawiau ar Ddilysu Mewnol)
  3. ffeiliau cyrsiau/tiwtoriaid (gan gynnwys cofrestri dosbarthiadau, taflenni tracio, manylebion unedau, canllawiau ar gymwysterau (lle bo hynny'n briodol), cynlluniau gwaith, tasgau asesu, adnoddau a deunyddiau cyrsiau, cofnodion cyfarfodydd tîm, ffurflenni argymell dyfarnu credyd)         
  4. tystiolaeth dysgwyr wedi'i hasesu (gan gynnwys unrhyw achosion o addasiadau rhesymol neu ystyriaeth arbennig)   
  5. cofnod o asesiadau cychwynnol dysgwyr 
  6. canlyniadau gwerthuso cyrsiau neu lais y dysgwr
  7. deunyddiau marchnata a chyhoeddusrwydd sy'n ymwneud ag Agored Cymru
  8. data cynnydd dysgwyr (lle bo hwnnw ar gael)
  9. manylion a thystiolaeth ategol mewn perthynas ag achosion o gamymddwyn, cwynion ac apeliadau.                                                                                                                                                     

Gall y Rheolwr Ansawdd hefyd ofyn am gael cyfarfod â'r canlynol:

  • y cyswllt Sicrhau Ansawdd / cyswllt y Ganolfan
  • y cydlynydd cyrsiau/cymwysterau
  • dilysydd mewnol       
  • tiwtoriaid 
  • dysgwyr.

Tystiolaeth Dysgwr Wedi'i Hasesu

Cyn yr ymweliad, bydd angen i ganolfannau gwblhau cynlluniau samplo sy'n cynnwys y canlynol:

  • rhestr o'r dysgwyr sydd wedi cofrestru ar gyrsiau Agored Cymru
  • manylion ynghylch pa ddysgwyr a pha unedau sydd wedi'u cynnwys yn y sampl dilysu mewnol.

Bydd y Rheolwr Ansawdd yn defnyddio'r wybodaeth hon i ganfod y sampl ar gyfer EQA.

Rhaid i dystiolaeth dysgwyr gael ei chroesgyfeirio â'r meini prawf asesu a'u gwahanu oddi wrth daflenni gwybodaeth a gwaith papur arall nad yw yn dystiolaeth e.e. nodiadau cyrsiau.

Rhaid i bob cwrs a gaiff ei gyflwyno ar gyfer EQA fod wedi'i ddilysu'n fewnol.

Os nad oes tystiolaeth o ddilysu mewnol, gall y Rheolwr Ansawdd derfynu'r EQA ac efallai y bydd yn rhaid i'r ganolfan dalu ffi.


Adrodd yn ôl a Monitro

Ar ddiwedd yr ymweliad, mae'r Rheolwr Ansawdd yn rhoi adborth ar lafar ac yn ysgrifenedig. Bydd yr adborth yn nodi pa gamau y mae angen i'r ganolfan eu cymryd ynghyd â chyngor ynghylch pa gamau i'w cymryd ac awgrymiadau ar gyfer gwella. Bydd hefyd yn nodi enghreifftiau o arferion da.

Bydd yr adroddiad terfynol yn cael ei ryddhau cyn pen 15 diwrnod gwaith ar ôl yr ymweliad.


Cynlluniau Gweithredu Canolfannau

Mae Cynllun Gweithredu Canolfan yn nodi pa gamau y mae'r EQA wedi'u nodi sy'n angenrheidiol i'r ganolfan eu cymryd.

Mae'n rhaid i'r ganolfan:

  1. bennu aelod o staff (yn y golofn 'gan bwy') i fod yn gyfrifol am ymdrin â'r cam/camau gweithredu o fewn 5 diwrnod gwaith ar ôl derbyn yr adroddiad terfynol
  2. amlinellu sut yr ymdriniwyd, neu y bwriedir ymdrin, â'r camau gweithredu a nodwyd (yn y golofn 'camau i'w cymryd gan y ganolfan') a phennu dyddiad ar gyfer cwblhau'r camau er mwyn cadarnhau bod y camau gweithredu wedi cael sêl bendith yn fewnol
  3. cyflwyno tystiolaeth ynghylch sut y rhoddwyd y cynllun gweithredu ar waith.

Os bydd canolfan yn methu rhoi'r camau sy'n ofynnol ar waith mewn modd effeithiol o fewn yr amserlen a bennwyd, caiff sancsiynau eu pennu.

Nid yw Cynlluniau Gweithredu Canolfannau yn cynnwys camau cynghorol.  Fodd bynnag, bydd y swyddog sicrhau ansawdd allanol yn monitro hyn ac yn edrych i weld a ydynt wedi cael eu rhoi ar waith y tro nesaf y cynhelir gweithgaredd EQA. 

Os bydd canolfan yn methu ymdrin yn foddhaol â cham gweithredu cynghorol, efallai y bydd y cam hwnnw'n cael ei uwchraddio i gam gweithredu gofynnol.


Rhagor o Wybodaeth

Darllenwch ein Polisi Craffu ar Safonau Asesu Canolfannau (CASS).