Daf Baker

Mae Daf Baker yn Rheolwr Datblygu Cwricwlwm yn Agored Cymru. Ymunodd â'r sefydliad yn 2006.

Mae’n arbenigwr addysgol uchel iawn ei barch a chanddo dros ugain mlynedd o brofiad o weithio gyda phobl ifanc a sefydliadau ategol, Daf sy'n bennaf gyfrifol am gydlynu a rheoli'r maes ymgysylltiad ieuenctid. Ef yw’r prif gyswllt ar gyfer llunwyr polisïau Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid eraill.  Mae hefyd yn rheoli gweithgareddau sydd wedi’u pennu ar gyfer prosiectau, yn ogystal â’r gwaith o ddatblygu ac adolygu darpariaeth ac adnoddau.  

Ar ben hynny, mae Daf wedi arwain sawl prosiect datblygu gweithlu gan gynnwys datblygu prosesau achredu ac arferion gwaith ieuenctid ar gyfer ymarferwyr sy'n gweithio ym meysydd trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. 

Mae hefyd wedi datblygu fframweithiau hyfforddi'r gweithlu unigryw ar gyfer sectorau ac wedi datblygu'r cymwysterau addysg bersonol a chymdeithasol, addysg sy'n berthnasol i waith a chyfranogiad pobl ifanc.

Cyn ymuno â'r sefydliad, bu Daf yn gweithio mewn sawl maes yn y sector statudol a'r sector gwirfoddol, y sector addysg cynradd ac uwchradd, llywodraeth leol, y gwasanaeth ieuenctid a sefydliadau hybu iechyd.

Mae Daf wedi bod ar flaen y gad ym maes hawliau plant a phobl ifanc yn sgil ei waith fel Cadeirydd y Grŵp Dysgu Cenedlaethol ar gyfer Consortiwm Cyfranogiad Cymru.  Mae hefyd yn cynrychioli FAB Cymru ym maes gwaith ieuenctid ac mae'n aelod o ETS Cymru, y corff safonau ac ardystio ansawdd cenedlaethol.  Mae wedi bod yn gadeirydd panel Marc Ansawdd ETS Cymru o ran gwaith ieuenctid ac mae'n ymwneud â'r gwaith o ddatblygu'r Ansawdd Cenedlaethol ar gyfer Gwaith Ieuenctid ymhellach.

Graddiodd Daf mewn seicloeg gymhwysol, mae ganddo radd MSc mewn Cam-drin Sylweddau ac mae wedi cymhwyso fel tiwtor a gweithiwr ieuenctid proffesiynol.

Cysylltwch â Daf Baker.