Ryan Owen

Gweinyddwr Cefnogi Cwsmeriaid

Ymunodd Ryan ag Agored Cymru yn 2019 ac mae’n Weinyddwr Cefnogi Cwsmeriaid .

Mae Ryan wedi cyflawni cymhwyster Agored Cymru Lefel 3 Diploma mewn Gweinyddu Busnes yn ddiweddar fel rhan o’i brentisiaeth gydag Agored Cymru.

Mae Ryan yn darparu cefnogaeth i ganolfannau, rhanddeiliaid a chydweithwyr fel rhan o'r tîm Gwasanaethau Corfforaethol yn y swyddfa ym Mangor. Mae ei ddyletswyddau’n cynnwys ymateb i alwadau a negeseuon e-bost gan ganolfannau, cofrestru dysgwyr a phrosesu dyfarniadau. Mae Ryan yn gyfrifol am argraffu, gwirio ac anfon tystysgrifau.