Paul Martin

Ymunodd Paul Martin â'r Bwrdd yn 2017 fel aelod penodedig. Ef yw Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid a Dibenion Cyffredinol.

Mae gan Paul dros 30 mlynedd o brofiad ym maes addysg a chyllid. Gadawodd Brifysgol Caerdydd yn gynnar yn y 1980au i ymuno â chwmni o gyfrifwyr siartredig yng Nghasnewydd. Rai blynyddoedd yn ddiweddarach, symudodd i weithio i gwmni Japaneaidd amlwladol yn ardal Blaenau'r Cymoedd fel ei gyfarwyddwr cyllid cynorthwyol.

Yn 1984, aeth Paul i faes addysg bellach fel darlithydd mewn cyfrifeg a chyllid yng Ngholeg Aberdâr. Ar ôl hynny, ymunodd â Phrifysgol Morgannwg fel uwch ddarlithydd, gan arbenigo ar adroddiadau a chyfrifeg ariannol.

Yn 1994, ymunodd Paul â'r uwch dîm rheoli yng Ngholeg Ystrad Mynach fel cyfarwyddwr y gwasanaethau i fyfyrwyr a'r System Gwybodaeth Reoli. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, cafodd ei benodi yn is-bennaeth (cyllid ac adnoddau), ac yn 2006, daeth yn ddirprwy bennaeth gyda chyfrifoldeb dros gyllid, cynllunio ac ystadau. Pan unodd Coleg Ystrad Mynach a Choleg Morgannwg yn 2013, cymerodd Paul yr awenau fel dirprwy bennaeth gyda chyfrifoldeb dros wasanaethau corfforaethol. Roedd gan Paul rôl bwysig yn rheoli'r broses o uno ar ran Coleg Ystrad Mynach.

Ym mis Awst 2015, penderfynodd Paul ymddeol yn gynnar. Fodd bynnag, nid yw wedi gadael byd addysg yn llwyr; yn ogystal â bod yn aelod o fwrdd Agored Cymru, mae Paul yn diwtor cyswllt ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd.