Robert Clapham

Ymunodd Robert Clapham â'r Bwrdd fel aelod a benodwyd yn 2015.

Yn ystod ei yrfa, mae Robert wedi ennill profiad rheolaethol a gweithredol helaeth ar draws amrywiaeth eang o sectorau, o addysg i weithgynhyrchu, ac mae wedi cael MA mewn Addysg Awyr Agored ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.

Robert yw Prif Swyddog Gweithredol RCTrainingWales, cwmni addysg awyr agored blaenllaw sy'n arbenigo mewn darparu cyrsiau sydd wedi eu hachredu a'u hardystio'n genedlaethol ar gyfer gweithwyr awyr agored proffesiynol, sydd wedi cynnwys y fyddin, yr heddlu ac arweinwyr allteithiau, yn enwedig darparwyr Gwobr Dug Caeredin (DofE). Mae Robert hefyd yn ddarlithydd gwadd mewn addysg awyr agored mewn prifysgolion yng ngogledd a de Cymru.

Drwy'r rolau hyn a gwaith gwirfoddol helaeth â Phartneriaeth Arena Pontardawe, y DofE, Gwasanaethau Ambiwlans Cymru a Sefydliadau Achub Mynydd, mae gan Robert gyfoeth o brofiad mewn datblygu a darparu rhaglenni hyfforddiant a chymryd rhan, sy'n rhoi sgiliau newydd, cymwysterau a phrofiadau bywyd go iawn i ddysgwyr. 

Robert yw Cadeirydd Youth Venture Trust a chyd-sylfaenydd a chyn Brif Hyfforddwr Allteithiau Canolfan Aur Agored y DofE yng Nghastell-nedd, Port Talbot. Ar hyn o bryd mae'n arwain tîm Asesu'r DofE yng nghanolbarth Cymru a Bannau Brycheiniog.