Cyflwyno
Rhaid i ganolfannau sicrhau bod cymwysterau'n cael eu cyflwyno mewn modd effeithlon ac effeithiol. Nodwedd hanfodol o ran cyflwyno'n effeithiol yw cynllunio cyrsiau yn drylwyr ac yn fanwl. Mae'n rhaid i ganolfannau allu dangos bod ganddyn nhw broses fewnol gadarn ar gyfer dylunio, datblygu a chyflwyno cyrsiau cydlynol.
Un o nodweddion allweddol nifer o'n cymwysterau yw'r hyblygrwydd maen nhw'n ei gynnig i ganolfannau eu rhoi yn eu cyd-destun i fodloni anghenion penodol eu dysgwyr. Mae'r hyblygrwydd hwn yn hyrwyddo ymgysylltiad cadarn â dysgwyr, a phrofiadau dysgu ystyrlon.
Dylai canolfannau sicrhau bod cynlluniau gwaith a chynlluniau gwersi manwl ar waith sy'n ystyried pob agwedd ar fanyleb y cymhwyster. Dylai'r rhain gynnwys manylion y strategaethau a'r adnoddau sy'n angenrheidiol ar gyfer addysgu, ac asesiadau sy'n bodloni anghenion dysgwyr.
Mae'n rhaid i ddulliau addysgu a dysgu fod yn gyson â chyd-destun, lefel ac amodau'r cymhwyster, ac mae'n rhaid iddyn nhw gael eu dylunio i gynnwys, ysgogi a chymell dysgwyr.
Asesu
Mae'n rhaid i asesiadau sydd wedi cael eu creu gan ganolfannau fodloni manyleb y cymhwyster. Mae'n rhaid i asesiadau alluogi'r asesydd i wahaniaethu'n gywir ac yn gyson rhwng y lefelau cyrhaeddiad mae'r dysgwyr wedi'u dangos. Dim ond deunydd sydd wedi dod o'r wybodaeth, y sgiliau a'r ddealltwriaeth yn y fanyleb sydd i'w gynnwys yn yr asesiad, ac mae'n rhaid i lefel y galw fod yn gyson.
Mae'n rhaid i asesiad wneud y canlynol:
- sicrhau ei fod yn bosib i ddysgwyr ddangos i ba raddau mae ganddyn nhw'r wybodaeth, y sgiliau a'r ddealltwriaeth sy'n angenrheidiol ar gyfer y cymhwyster
- galluogi i ddysgwr sy'n meddu ar yr wybodaeth, y sgiliau a'r ddealltwriaeth angenrheidiol gyrraedd y lefel cyrhaeddiad sydd wedi'i nodi
- bod yn addas i'r diben, yn ddilys ac yn briodol i'r wybodaeth, y sgiliau a'r ddealltwriaeth sy'n cael eu mesur
- gwahaniaethu'n effeithiol rhwng dysgwyr (ar sail yr wybodaeth, y sgiliau a'r ddealltwriaeth sy'n cael eu hasesu)
- mesur yr wybodaeth, y sgiliau a'r ddealltwriaeth y maent i fod i'w mesur yn gywir
Mae'n ofynnol i ganolfannau sicrhau bod yr asesiadau sydd wedi cael eu creu gan ganolfannau yn cael eu hadolygu, a'u diwygio os oes angen, i sicrhau eu bod yn parhau i fod yn addas i'r diben, er enghraifft, drwy adlewyrchu gofynion, arfer da neu ddeddfwriaeth newydd.
Bydd rhai cymwysterau a'u hunedau yn rhagnodi'r dulliau asesu sydd i'w defnyddio. Bydd y dulliau hyn wedi'u nodi mewn unedau unigol
Lle nad yw'r dulliau wedi cael eu rhagnodi, dylai canolfannau ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau asesu i asesu dysgwyr gan y bydd hyn yn galluogi dysgwyr i ddangos eu gwybodaeth a/neu eu cymhwysedd. Y peth pwysicaf yw bod y dulliau asesu yn briodol ar gyfer y canlyniad a fwriedir.
Mae'n rhaid i ganolfannau gadw at ofynion asesu Agored Cymru wrth ddarparu cymwysterau, uned neu unedau.
I gael arweiniad ar asesu, cyfeiriwch at Canllawiau ar Asesu Agored Cymru.
Mae’n rhaid i aseswyr:
- fod â phrofiad cyfredol a/neu berthnasol ym maes asesu;
- fod wedi ymgymryd â hyfforddiant perthnasol os yn newydd i asesu (gweler y wefan ar gyfer cyrsiau Cyflwyniad i Asesu Agored Cymru);
- fod â gwybodaeth dda am ofynion asesu Agored Cymru a dealltwriaeth dda ohonynt;
- fod yn gyfarwydd â lefel y cymhwyster a'i uned(au);
- fod â gwybodaeth dda am y pwnc a dealltwriaeth a/neu brofiad o'r uned(au)/cymhwyster neu gymwysterau sy'n cael eu hasesu.
Oni nodir hynny yng nghanllawiau’r cymhwyster neu ym manyleb yr uned, ar hyn o bryd nid oes yn rhaid i aseswyr gael cymhwyster asesu ffurfiol* i asesu unedau a / neu gymwysterau Agored Cymru. Er hynny, mae Agored Cymru yn argymell yn gryf bod aseswyr yn gweithio tuag at ennill achrediad ffurfiol (e.e. Tystysgrif Lefel 3 mewn Asesu Cyrhaeddiad Galwedigaethol). Hefyd, mae Agored Cymru yn argymell yn gryf bod aseswyr yn mynychu hyfforddiant Cyflwyniad i Asesu Agored Cymru.
Gofynion Penodol o ran Aseswyr
Prif gyfrifoldeb asesydd yw asesu perfformiad dysgwyr mewn ystod o dasgau a sicrhau bod y dystiolaeth a gyflwynir gan y dysgwr yn bodloni gofynion y meini prawf asesu.
Mae’n bwysig bod asesydd yn gallu adnabod cymhwysedd galwedigaethol fel y nodir yn y safon genedlaethol. Felly, mae angen i aseswyr feddu ar ddealltwriaeth drylwyr o arferion asesu a sicrhau ansawdd, yn ogystal â dealltwriaeth dechnegol fanwl sy’n ymwneud â’r cymwysterau y maent yn asesu dysgwyr ar eu cyfer.
TYSTIOLAETH O GYMHWYSEDD GALWEDIGAETHOL
Prif bwrpas y cymwysterau hyn yw asesu cymhwysedd galwedigaethol dysgwyr, sef eu gallu i ddefnyddio eu holl sgiliau a’u gwybodaeth i gyflawni tasgau’n effeithiol, fel bod disgwyliadau cyflogwyr a chwsmeriaid yn cael eu bodloni.
Felly, rhaid i ddysgwyr gael eu hasesu yn y gweithle mewn ffordd gyfannol gan aseswyr sy’n dechnegol gymwys. Yno, byddant yn cyflawni tasgau gwaith sy’n rhoi cyfleoedd iddynt gynhyrchu tystiolaeth i ddangos bod y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol yn y cymhwyster wedi’u bodloni. Bydd Agored Cymru yn monitro canolfannau cymeradwy i sicrhau bod dysgwyr yn cynhyrchu tystiolaeth o dasgau a gwblhawyd yn y gweithle. Rhaid i’r gweithle fod y dewis cyntaf ar gyfer lleoliad yr asesu bob amser.
Felly, rhaid i ddysgwyr:
- gynhyrchu tystiolaeth o berfformiad i ddangos eu bod yn bodloni canlyniadau dysgu’r unedau yn gyson
- cynhyrchu tystiolaeth sy’n deillio o waith a wneir yn eu gweithle arferol
- darparu tystiolaeth o’r gweithle sy’n cwmpasu cyfnod o 4 mis o leiaf (16 wythnos).
Dylai gwybodaeth am yr unedau a’r canlyniadau dysgu ‘rhaid i’r dysgwr eu deall’ yn unig gael ei dangos yn ddelfrydol drwy dystiolaeth o’r gweithle; fodd bynnag, gellir dangos tystiolaeth o’r unedau hyn drwy ddefnyddio dulliau asesu dilys, fel cwestiynau llafar, aseiniadau, profion ysgrifenedig ac ati.
Strategaeth asesu ar gyfer unedau gweinyddu busnes sy’n seiliedig ar gymhwysedd-gwybodaeth
Mae’r strategaeth asesu Instrutus Skills yn darparu egwyddorion a chanllawiau ar gyfer asesu cymwysterau sy’n seiliedig ar gymhwysedd ym maes Gweinyddu Busnes, Gwasanaeth i Gwsmeriaid a Rheolaeth ac Arweinyddiaeth yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.
http://www.skillscfa.org/images/pdfs/PLTS/Skills-CFA-Assessment-Strategy.pdf
Bydd Agored Cymru yn monitro canolfannau cymeradwy i sicrhau bod dysgwyr yn cynhyrchu tystiolaeth o dasgau a gwblhawyd yn y gweithle, ac yn bodloni gofynion strategaeth asesu Instructus Skills.
Mae egwyddorion Instructus Skills yn ychwanegol at y meini prawf generig y mae’n rhaid i bob sefydliad dyfarnu eu bodloni er mwyn darparu cymwysterau, fel sy’n ofynnol gan y rheoleiddwyr cymwysterau (Ofqual, Cymwysterau Cymru a/neu Achrediad SQA).
Tystiolaeth o Berfformiad yn y Gweithle
- dylai tystiolaeth o gymhwysedd galwedigaethol pob uned cymhwysedd, ar unrhyw lefel, gael ei chynhyrchu a’i chasglu drwy berfformiad o dan amodau’r gweithle. Mae hyn yn cynnwys canlyniadau dysgu seiliedig ar wybodaeth a meini prawf asesu’r unedau cymhwysedd.
- yr amodau hyn fyddai’r rhai sy’n nodweddiadol o weithle arferol y dysgwr. Dylai’r dystiolaeth a gesglir o dan yr amodau hyn hefyd fod mor naturiol â phosibl. Derbynnir nad oes gan bob gweithiwr yr un amodau yn y gweithle ac felly ni ellir cael amodau asesu sy’n union yr un fath ar gyfer pob dysgwr. Fodd bynnag, rhaid i aseswyr sicrhau, cyn belled ag y bo modd, dylai’r amodau asesu fod yr un amodau mae dysgwyr yn gweithio oddi tanynt fel arfer.
Efelychiadau
Gellir defnyddio efelychiad ar gyfer pob uned sy'n seiliedig ar gymhwysedd Gweinyddu Busnes Lefel 1 ('rhaid i'r dysgwr allu'). Rhaid i efelychiad gael ei wneud mewn 'amgylchedd gwaith realistig' (RWE). Mae RWE yn “amgylchedd sy’n efelychu’r nodweddion allweddol y mae’r sgil sydd i’w hasesu yn cael ei defnyddio fel arfer”. Rhaid i RWE ddarparu amodau yr un fath â’r amgylchedd gwaith arferol o ddydd i ddydd, gydag ystod debyg o ofynion, pwysau a gofynion ar gyfer gweithio’n gost-effeithiol.
Gellir cynhyrchu tystiolaeth drwy efelychiad mewn amgylchiadau eithriadol yn unig. Yr amgylchiadau eithriadol, lle mae efelychiad yn bosibl, yw’r sefyllfaoedd hynny nad ydynt yn digwydd yn naturiol neu’n rhwydd, fel ymateb i argyfyngau.
Pan fydd efelychiad yn cael ei ddefnyddio ar gyfer unedau Lefel 2 ac uwch, dim ond rhan fach o’r dystiolaeth ar gyfer y cymhwyster ddylai hynny fod.
Canllawiau Amgylchedd Gweithio Realistig
Mae’n hanfodol bod sefydliadau sy’n dymuno gweithredu RWE yn gweithredu mewn amgylchedd sy’n adlewyrchu lleoliad gwaith go iawn. Bydd hyn yn sicrhau y bydd unrhyw gymhwysedd a gyflawnir yn y modd hwn yn cael ei gynnal mewn cyflogaeth go iawn.
Er mwyn cynnal yr asesiad mewn RWE, rhaid bodloni’r canllawiau canlynol:
- rheolir RWE fel sefyllfa waith go iawn
- rhaid cynnal asesiadau o dan bwysau busnes realistig
- dylid cwblhau’r holl wasanaethau a gyflawnir mewn ffordd, ac o fewn amserlen, sy’n dderbyniol mewn sefydliadau busnes
- rhaid disgwyl i ddysgwyr gyflawni swmp o waith sy’n debyg i arferion busnes arferol
- mae’n rhaid i’r amrywiaeth o wasanaethau, cynhyrchion, offer, deunyddiau a chyfarpar y mae’r dysgwyr yn eu defnyddio fod yn gyfredol ac ar gael
- rhaid ystyried unrhyw ddeddfwriaeth neu reoliadau mewn perthynas â'r math o waith sy'n cael ei wneud
- rhaid i ddysgwyr gael cyfrifoldebau yn y gweithle i’w galluogi i fodloni gofynion yr unedau
- mae canfyddiadau cwsmeriaid o RWE yn debyg i’r hyn a geir yn y sefyllfa waith sy’n cael ei chynrychioli
- rhaid i ddysgwyr ddangos bod eu cynhyrchiant yn adlewyrchu’r rheini sydd yn y sefyllfa waith sy’n cael ei chynrychioli.