Mae’n rhaid i ganolfannau weithredu a chynnal system sicrhau ansawdd mewnol effeithiol. Mae dilysu mewnol yn rhan hanfodol o system sicrhau ansawdd, yn arbennig os nad oes asesiad cyfunol (diwedd cwrs) allanol fel arholiad neu brawf ar-lein ar gael.
Nid yw Agored Cymru yn gorfodi proses ddilysu mewnol benodol ar ganolfannau, ond disgwylir i ganolfannau roi gwiriadau dilysu mewnol effeithiol ar waith i gadarnhau bod y broses asesu (h.y. o’r gwaith cynllunio cyn y cwrs i ddyfarnu credyd) yn addas ar gyfer y diben ac yn cael ei gweithredu’n gywir, yn deg ac yn gyson ac i'r safon a fynnir.
Mae’n rhaid i ganolfannau gadw at ofynion sicrhau ansawdd Agored Cymru wrth ddilysu unrhyw uned(au) o gymwysterau yn fewnol.
Mae'n rhaid i swyddogion sicrhau ansawdd mewnol:
- fod â phrofiad cyfredol a/neu berthnasol ym maes asesu a dilysu mewnol;
- fod wedi ymgymryd â hyfforddiant perthnasol os yn newydd i sicrhau ansawdd mewnol (gweler y wefan ar gyfer cyrsiau Cyflwyniad i Ddilysu Mewnol Agored Cymru);
- fod â gwybodaeth dda am ofynion dilysu mewnol Agored Cymru a dealltwriaeth dda ohonynt.
- fod â gwybodaeth a dealltwriaeth dda o unedau a chymwysterau Agored Cymru yn y sector maent wedi’i ddewis.
- fod yn gyfarwydd â lefel yr uned(au) / y cymhwyster neu'r cymwysterau sy’n cael eu darparu;
Oni nodir hynny yng nghanllawiau’r cymhwyster neu ym meini prawf yr uned*, ar hyn o bryd nid oes yn rhaid i ddilyswyr mewnol gael cymhwyster dilysu mewnol ffurfiol i ddilysu unedau a / neu gymwysterau Agored Cymru yn fewnol. Ond, mae Agored Cymru yn argymell yn gryf bod dilyswyr mewnol yn gweithio tuag at achrediad ffurfiol (e.e Agored Cymru - Tystysgrif Lefel 4 mewn Arwain y gwaith o Sicrhau Ansawdd Mewnol Arferion a Phrosesau Asesu). Hefyd, mae Agored Cymru yn argymell yn gryf bod aseswyr yn mynychu hyfforddiant Cyflwyniad i Asesu Agored Cymru. Mae'r dyddiadau y cynhelir digwyddiadau hyfforddi wedi'u nodi yma.
Ni chaiff dilyswyr mewnol ddilysu eu deunyddiau asesu eu hunain yn fewnol, eu tasgau na’u penderfyniadau asesu. Felly, mae Agored Cymru yn argymell bod sgiliau dilysu mewnol y tîm cyfan yn cael eu datblygu. Mae hyn yn rhoi mwy o hyblygrwydd i'r ganolfan ac yn osgoi dibynnu gormod ar unrhyw berson unigol.
* Mae rhai gofynion penodol yn berthnasol i rai cymwysterau ac y mae’n rhaid eu bodloni er mwyn i diwtoriaid / aseswyr allu darparu ac asesu'r cymhwyster.Edrychwch ar y canllawiau sy’n berthnasol i'r cymhwyster i gadarnhau bod eich tiwtoriaid / aseswyr yn gallu bodloni'r gofynion hyn.Mewn rhai achosion, rhaid rhoi tystiolaeth o brofiad / cymhwyster y tiwtor / aseswr i Agored Cymru cyn darparu'r cymhwyster.
Mae’n rhaid i ganolfannau gadw at ofynion asesu Agored Cymru wrth ddarparu cymwysterau, neu unrhyw uned/unedau sy’n rhan o gymwysterau.
I gael arweiniad ar sicrhau ansawdd mewnol .cliciwch yma.
,
Internal Quality Assurers (IQAs) must demonstrate robust occupational competence within the relevant subject area, supported by current and credible professional experience. They must hold appropriate quality assurance qualifications.
External Quality Assurers (EQAs) must demonstrate strong occupational competence within the relevant subject area, underpinned by current and credible industry experience. They must have a thorough understanding of assessment and quality assurance principles, standards, and practices.
EQAs should possess significant experience in monitoring and evaluating assessment and internal quality assurance processes, enabling them to provide robust, independent oversight. They must be able to make informed judgements on the validity, reliability, and consistency of assessment decisions across centres, ensuring alignment with awarding organisation and regulatory requirements.
In addition, EQAs must be effective communicators, capable of providing clear, constructive feedback and guidance to centres, and supporting continuous improvement. They are expected to engage in ongoing professional development to maintain current knowledge of sector practice, standards, and regulatory expectations.