Cyflwyno
Rhaid i ganolfannau sicrhau bod cymwysterau'n cael eu cyflwyno mewn modd effeithlon ac effeithiol. Nodwedd hanfodol o ran cyflwyno'n effeithiol yw cynllunio cyrsiau yn drylwyr ac yn fanwl. Mae'n rhaid i ganolfannau allu dangos bod ganddyn nhw broses fewnol gadarn ar gyfer dylunio, datblygu a chyflwyno cyrsiau cydlynol.
Un o nodweddion allweddol nifer o'n cymwysterau yw'r hyblygrwydd maen nhw'n ei gynnig i ganolfannau eu rhoi yn eu cyd-destun i fodloni anghenion penodol eu dysgwyr. Mae'r hyblygrwydd hwn yn hyrwyddo ymgysylltiad cadarn â dysgwyr, a phrofiadau dysgu ystyrlon.
Dylai canolfannau sicrhau bod cynlluniau gwaith a chynlluniau gwersi manwl ar waith sy'n ystyried pob agwedd ar fanyleb y cymhwyster. Dylai'r rhain gynnwys manylion y strategaethau a'r adnoddau sy'n angenrheidiol ar gyfer addysgu, ac asesiadau sy'n bodloni anghenion dysgwyr.
Mae'n rhaid i ddulliau addysgu a dysgu fod yn gyson â chyd-destun, lefel ac amodau'r cymhwyster, ac mae'n rhaid iddyn nhw gael eu dylunio i gynnwys, ysgogi a chymell dysgwyr.
Asesu
Mae'n rhaid i asesiadau sydd wedi cael eu creu gan ganolfannau fodloni manyleb y cymhwyster. Mae'n rhaid i asesiadau alluogi'r asesydd i wahaniaethu'n gywir ac yn gyson rhwng y lefelau cyrhaeddiad mae'r dysgwyr wedi'u dangos. Dim ond deunydd sydd wedi dod o'r wybodaeth, y sgiliau a'r ddealltwriaeth yn y fanyleb sydd i'w gynnwys yn yr asesiad, ac mae'n rhaid i lefel y galw fod yn gyson.
Mae'n rhaid i asesiad wneud y canlynol:
- sicrhau ei fod yn bosib i ddysgwyr ddangos i ba raddau mae ganddyn nhw'r wybodaeth, y sgiliau a'r ddealltwriaeth sy'n angenrheidiol ar gyfer y cymhwyster
- galluogi i ddysgwr sy'n meddu ar yr wybodaeth, y sgiliau a'r ddealltwriaeth angenrheidiol gyrraedd y lefel cyrhaeddiad sydd wedi'i nodi
- bod yn addas i'r diben, yn ddilys ac yn briodol i'r wybodaeth, y sgiliau a'r ddealltwriaeth sy'n cael eu mesur
- gwahaniaethu'n effeithiol rhwng dysgwyr (ar sail yr wybodaeth, y sgiliau a'r ddealltwriaeth sy'n cael eu hasesu)
- mesur yr wybodaeth, y sgiliau a'r ddealltwriaeth y maent i fod i'w mesur yn gywir
Mae'n ofynnol i ganolfannau sicrhau bod yr asesiadau sydd wedi cael eu creu gan ganolfannau yn cael eu hadolygu, a'u diwygio os oes angen, i sicrhau eu bod yn parhau i fod yn addas i'r diben, er enghraifft, drwy adlewyrchu gofynion, arfer da neu ddeddfwriaeth newydd.
Bydd rhai cymwysterau a'u hunedau yn rhagnodi'r dulliau asesu sydd i'w defnyddio. Bydd y dulliau hyn wedi'u nodi mewn unedau unigol
Lle nad yw'r dulliau wedi cael eu rhagnodi, dylai canolfannau ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau asesu i asesu dysgwyr gan y bydd hyn yn galluogi dysgwyr i ddangos eu gwybodaeth a/neu eu cymhwysedd. Y peth pwysicaf yw bod y dulliau asesu yn briodol ar gyfer y canlyniad a fwriedir.
Mae'n rhaid i ganolfannau gadw at ofynion asesu Agored Cymru wrth ddarparu cymwysterau, uned neu unedau.
I gael arweiniad ar asesu, cyfeiriwch at Canllawiau ar Asesu Agored Cymru.
Mae’n rhaid i aseswyr:
- fod â phrofiad cyfredol a/neu berthnasol ym maes asesu;
- fod wedi ymgymryd â hyfforddiant perthnasol os yn newydd i asesu (gweler y wefan ar gyfer cyrsiau Cyflwyniad i Asesu Agored Cymru);
- fod â gwybodaeth dda am ofynion asesu Agored Cymru a dealltwriaeth dda ohonynt;
- fod yn gyfarwydd â lefel y cymhwyster a'i uned(au);
- fod â gwybodaeth dda am y pwnc a dealltwriaeth a/neu brofiad o'r uned(au)/cymhwyster neu gymwysterau sy'n cael eu hasesu.
Oni nodir hynny yng nghanllawiau’r cymhwyster neu ym manyleb yr uned, ar hyn o bryd nid oes yn rhaid i aseswyr gael cymhwyster asesu ffurfiol* i asesu unedau a / neu gymwysterau Agored Cymru. Er hynny, mae Agored Cymru yn argymell yn gryf bod aseswyr yn gweithio tuag at ennill achrediad ffurfiol (e.e. Tystysgrif Lefel 3 mewn Asesu Cyrhaeddiad Galwedigaethol). Hefyd, mae Agored Cymru yn argymell yn gryf bod aseswyr yn mynychu hyfforddiant Cyflwyniad i Asesu Agored Cymru.
Gofynion Penodol o ran Aseswyr
Rhaid i hyfforddwyr:
- i gyflawni’r uned gorfodol, Cyflwyniad i Ddatblygiad Proffesiynol (Gwaith Ieuenctid), fod yn ymarferydd Gwaith Ieuenctid gyda Chymhwyster Proffesiynol JNC, ar ôl dilyn cymhwyster proffesiynol cydnabyddedig mewn gwaith ieuenctid fel y nodwyd gan NYA neu ETS Cymru[1];
- meddu ar o leiaf dair blynedd o brofiad ymarferol;
- ar gyfer cyflwyno’r unedau dewisol, bod yn ymarferydd profiadol / arbenigwr pwnc (o leiaf tair blynedd o brofiad yn ystod y pum mlynedd diwethaf) gydag arbenigedd yn y maes pwnc a ddarperir a meddu ar gymhwyster ar yr un lefel neu’n uwch na’r uned sy’n cael ei chyflwyno neu ei hasesu;
- bod â dealltwriaeth gadarn o’r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Gwaith Ieuenctid;
- bod â dealltwriaeth gadarn o’r gofynion ar gyfer asesu o fewn Cymwysterau Cymru;
- gallu dangos tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus, gan gynnwys gweithgareddau gwaith maes,[2] yn ystod y 3 blynedd diwethaf.
- meddu ar gymhwyster addysgu/cyflwyno dysgu cydnabyddedig a/neu brofiad o gyflwyno dysgu;
- wedi cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg fel tiwtor, hyfforddwr neu ddarlithydd yn y Sector Addysg Bellach lle bo hynny’n berthnasol.
[1] Mae rhestr gyfredol o’r holl gymwysterau JNC cydnabyddedig yng Nghymru a Lloegr ar wefan NYA www.nya.org.uk a gwefan ETS Cymru www.ets.wales
[2] Gallai hyn gynnwys, er enghraifft, ymarfer gwaith ieuenctid, goruchwylio ymarferwyr neu ddarparu hyfforddiant.
Rhaid i aseswyr:
- ar gyfer asesu’r uned orfodol, Cyflwyniad i Ddatblygiad Proffesiynol (Gwaith Ieuenctid), feddu ar gymhwyster proffesiynol cydnabyddedig ym maes Gwaith Ieuenctid (JNC) gyda thair blynedd o brofiad ymarfer o leiaf, gyda phrofiad gwaith maesyng nghyd-destun gwaith ieuenctid, gwaith cymunedol, addysg gymunedol neu'r sector cymunedol gwirfoddol, a phrofiad perthnasol ar draws y sector ieuenctid a chymunedol mewn swyddogaeth a gydnabuwyd gan JNC/ETS yn ystod y 3 blynedd diwethaf[1];
- ar gyfer asesu’r unedau dewisol fod yn ymarferydd/arbenigwr pwnc profiadol (o leiaf tair blynedd o brofiad yn ystod y pum mlynedd diwethaf) gydag arbenigedd yn y maes pwnc ac yn meddu ar gymhwyster ar yr un lefel neu’n uwch na’r uned sy’n cael ei hasesu;
- bod â dealltwriaeth gadarn o’r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Gwaith Ieuenctid;
- bod â dealltwriaeth gadarn o’r gofynion ar gyfer asesu o fewn Cymwysterau Cymru;
- meddu ar gymhwyster cydnabyddedig ar gyfer aseswyr, neu weithio tuag at hynny;
- bod yn ymroddedig i hyfforddiant a datblygiad pellach, a gallu dangos tystiolaeth o hynny.
[1] Gallai hyn gynnwys, er enghraifft, ymarfer gwaith ieuenctid, goruchwylio ymarferwyr neu ddarparu hyfforddiant
[1] Mae rhestr gyfredol o’r holl gymwysterau JNC cydnabyddedig yng Nghymru a Lloegr ar wefan NYA www.nya.org.uk a gwefan ETS Cymru www.ets.wales
[2] Gallai hyn gynnwys, er enghraifft, ymarfer gwaith ieuenctid, goruchwylio ymarferwyr neu ddarparu hyfforddiant