Nod y gyfres o gymwysterau Dysgu yn yr Awyr Agored yw gwella datblygiad cymdeithasol, corfforol, creadigol, diwylliannol a phersonol pobl ifanc ac oedolion yn gyfannol drwy ddysgu drwy brofiad yn yr awyr agored.
Mae’r cymwysterau yn cefnogi'r dyhead am genedi egnïol, iach a chynhwysol, lle mae dysgu yn yr awyr agored yn darparu llwyfan cyffredin ar gyfer cyfranogiad, hwyl, cyflawniad a chyflogaeth, gan gynyddu dealltwriaeth o’r amgylchedd, yr iaith Gymraeg a threftadaeth ddiwylliannol.
Maent yn darparu cyfleoedd i fwy o bobl ifanc i gyflawni eu potensial drwy weithgareddau a dysgu yn yr awyr agored, ac i ennill cymhwyster gwerthfawr ac achrededig sy’n hyrwyluso dilyniant.
Pan gânt eu cyflwyno a’u hasesu yng Nghymru, mae’r cymwysterau hyn yn diwallu anghenion Cwricwlwm i Gymru Llywodraeth Cymru ar draws pob Maes Dysgu a Phrofiad, ac yn darparu cyfwerth o ¼, ½, 1 a 2 TGAU ar gyfer dilyniant i addysg uwch a/neu’n cael eu defnyddio i fesur perfformiad ysgol neu goleg.
Agored Cymru Dyfarniad Lefel 2 mewn Dysgu yn yr Awyr Agored
Oriau dysgu dan arweiniad - 19 awr
Cyfanswm amser y cymhwyster - 30 awr
Agored Cymru Dyfarniad Estynedig Lefel 2 mewn Dysgu yn yr Awyr Agored
Oriau dysgu dan arweiniad - 73 awr
Cyfanswm amser y cymhwyster - 100 awr
Agored Cymru Tystysgrif Lefel 2 mewn Dysgu yn yr Awyr Agored
Oriau dysgu dan arweiniad - 157 awr
Cyfanswm amser y cymhwyster - 170 awr
Agored Cymru Tystysgrif Estynedig Lefel 2 mewn Dysgu yn yr Awyr Agored
Oriau dysgu dan arweiniad - 153 awr
Cyfanswm amser y cymhwyster - 210 awr
Disgwyliadau Sicrhau Ansawdd:
Rhaid i bob canolfan fod wedi ei chymeradwyo gan yr awdurdod lleol i ddarparu yn yr awyr agored.
Rhaid i bob polisi fod yn ei le ar gyfer amddiffyn plant.
Ar gyfer rhai o’r sgiliau a ddarperir, efallai y bydd angen i’r ganolfan ddefnyddio darparwyr gweithgareddau cymeradwy.