Ymarfer Cyfieithu a Dehongli

Canllaw Cymhwyster

  • Agored Cymru Diploma Lefel 4 mewn Ymarfer Cyfieithu ar y Pryd (C00/0708/8) H2
  • Agored Cymru Tystysgrif Lefel 4 mewn Ymarfer Cyfieithu (C00/0708/7) H2

Agored Cymru

Agored Cymru yw corff dyfarnu cymwysterau yng Nghymru sy'n arbenigo mewn diwallu anghenion amrywiol dysgwyr, cyflogwyr a chymunedau.

Rydym yn bodoli er mwyn cynnig darpariaeth hyblyg ac ymatebol i helpu dysgwyr o bob oedran a lefel i gyflawni eu potensial.

Mae ein hunedau a’n cymwysterau i gyd yn seiliedig ar gredydau ac yn ddigon hyblyg i ddiwallu anghenion dysgwyr mewn unrhyw sefyllfa - o ysgolion i sefydliadau AB ac o ddysgu troseddwyr i hyfforddiant yn y gweithle.

Gyda dros 20 mlynedd o brofiad o gynllunio dysgu cynhwysol, mae ein tîm o arbenigwyr yn cynnig cymorth i ddatblygu cwricwlwm gyda sicrwydd ansawdd sydd ar gael i bawb.

Fel elusen a menter gymdeithasol rydym yn cydweithio â phartneriaid i sicrhau bod dysgu'n cael yr effaith orau bosib o ran diwallu anghenion amrywiol cymunedau a chyflogwyr yng Nghymru.

Gan ein bod yn gweithio yng Nghymru yn unig, rydym mewn sefyllfa ddelfrydol i ymateb i ofynion ein dysgwyr a’n canolfannau. Mae ein cymwysterau wedi’u cynllunio’n bwrpasol i fodloni anghenion a blaenoriaethau unigolion, cymunedau a chyflogwyr a nodau Cymru fodern.

Rydym yn gweithio er budd Cymru, mae ein tîm ymroddedig o arbenigwyr wedi ymrwymo i hybu’r iaith Gymraeg drwy annog asesu drwy gyfrwng y Gymraeg.

Rydym yn cynnig y cyfle i’n canolfannau cydnabyddedig ddarparu dysgu gydol oes effeithiol, ehangu cyfleoedd a hwyluso dilyniant a datblygiad o fewn y fframweithiau hyfforddi ac addysg presennol.

Bob amser, rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth ymatebol o safon uchel i’n canolfannau a’n dysgwyr i gyd.

Mae Cymwysterau Agored Cymru:

  • ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg, gan gynnwys yr ardystiad;
  • yn caniatáu achredu unedau sy’n rhan o’r cymhwyster fel cydnabyddiaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus (DPP) heb orfod ennill y cymhwyster llawn;
  • yn diwallu anghenion dysgwyr yng Nghymru drwy greu cymwysterau sy'n ymateb yn uniongyrchol i’r agenda Gymreig;
  • yn cynnig darpariaeth hyblyg ac ymatebol amrywiol er mwyn helpu dysgwyr i gyflawni eu potensial;
  • wedi’u cynllunio i fod yn addas i anghenion a blaenoriaethau unigolion, cymunedau, cyflogwyr a nodau cenedlaethol Cymru fodern;

Trosolwg o’r Cymhwyster

Mae disgyblaethau cyfieithu ar y pryd a chyfieithu yn gysylltiedig, ond maen nhw’n wahanol o ran eu rôl a’r set sgiliau sy’n angenrheidiol, ac o ran yr ymarferwyr sy’n gweithredu yn eu rolau. Mae cyfieithwyr ar y pryd a chyfieithwyr yn trosi ystyr o un iaith i iaith darged.

Mae cyfieithwyr ar y pryd yn cyfieithu deunydd llafar o un iaith i’r llall ac yn galluogi rhannu syniadau a chynnal busnes ar draws rhwystrau iaith. Mae cyfieithu ar y pryd yn golygu cyfleu ystyr a bwriad yr iaith wreiddiol yn yr iaith darged. Mae cyfieithwyr ar y pryd yn aml yn gweithio mewn cynadleddau, mewn cyd-destunau busnes neu mewn gwasanaethau cyhoeddus. Mae cyfieithwyr ar y pryd mewn gwasanaethau cyhoeddus yn aml yn gweithio mewn lleoliadau addysg, iechyd a chyfreithiol, ac yn sicrhau bod unigolion yn deall yr hyn sy’n cael ei gyfleu iddynt.

Mae cyfieithwyr yn trosi deunydd ysgrifenedig o’r iaith wreiddiol i’r iaith darged. Wrth wneud hynny mae proses o addasu diwylliannol ar gyfer cynulleidfa unrhyw gyfathrebu penodol. Mae cyfieithwyr yn aml yn gweithio o fewn arbenigedd penodol, sy’n golygu defnyddio terminoleg arbenigol benodol o fewn meysydd technegol fel rhai gwyddonol, llenyddol, cyfreithiol a masnachol. Gall cyfieithwyr drosi pethau fel dogfennau cyfreithiol, nofelau, dramâu neu farddoniaeth neu adnoddau addysgol.

Pwrpas y cymwysterau hyn yw rhoi'r cyfle i ddysgwyr ddatblygu eu hymarfer fel cyfieithwyr neu ddehonglwyr dan hyfforddiant er mwyn iddynt allu symud ymlaen i yrfa yn eu dewis faes a hefyd er mwyn symud ymlaen i gymwysterau a fydd yn eu galluogi i ennill statws proffesiynol. Efallai y bydd unigolion sy'n ymgymryd â'r cymwysterau hyn mewn swyddi megis Dehonglwr Iau neu Gyfieithydd Iau. Gall Dehonglwyr a Chyfieithwyr symud ymlaen i weithio mewn diwydiant a grwpiau sector o bob math, yn ogystal ag mewn sefydliadau yn y sector cyhoeddus a phreifat ac mewn sefydliadau yn y trydydd sector.

Agored Cymru Diploma Lefel 4 mewn Ymarfer Cyfieithu ar y Pryd

Oriau dysgu dan arweiniad: 234 awr
Cyfanswm Oriau'r Cymhwyster: 410 awr

Agored Cymru Tystysgrif Lefel 4 mewn Ymarfer Cyfieithu

Oriau dysgu dan arweiniad: 185 awr
Cyfanswm Oriau'r Cymhwyster: 340 awr

Gofynion Mynediad

Rhaid i ddysgwyr fod o leiaf 18 mlwydd oed.

Cynnig y Cymhwyster

Mae’r cymhwyster hwn ar gael i ganolfannau cydnabyddedig Agored Cymru. Os hoffech ddysgu mwy naill ai am ddod yn ganolfan gydnabyddedig neu am weithio mewn partneriaeth â chanolfan gydnabyddedig, ewch i’r rhan 'Canolfan' ar y wefan neu cysylltwch â Rheolwr Canolfan i gael rhagor o wybodaeth.

Cyfrifoldeb y ganolfan yw rhoi systemau ar waith i sicrhau mai’r person sydd wedi cofrestru ar gymhwyster neu uned ac sy’n cwblhau asesiad yw’r person hwnnw mewn gwirionedd.  Mae’n ofynnol i bob canolfan felly sicrhau bod manylion adnabod pob dysgwr yn cael eu cadarnhau cyn iddynt gyflawni’r cymhwyster, uned ac asesiad.  Mae Agored Cymru yn argymell y canlynol i brofi manylion adnabod dysgwr:

  • pasbort dilys (unrhyw genedligrwydd)
  • trwydded yrru cerdyn-llun y DU wedi’i llofnodi
  • cerdyn gwarant dilys wedi’i gyhoeddi gan luoedd EM neu'r heddlu
  • cerdyn adnabod arall â llun arno e.e. cerdyn adnabod gweithiwr, cerdyn adnabod myfyriwr, cerdyn teithio ac ati

Os na all dysgwr ddangos unrhyw un o’r dulliau adnabod ffotograffig uchod, gall canolfan dderbyn math arall o ddull adnabod sy’n cynnwys llofnod, er enghraifft, cerdyn credyd. Gallai dderbyn cadarnhad gan gynrychiolydd trydydd parti, fel rheolwr llinell, rheolwr adnoddau dynol neu oruchwyliwr arholiadau hefyd.   

Cyfleoedd Datblygu

Ar ôl cwblhau’r cymwysterau Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd, gall dysgwyr gwblhau dysgu ychwanegol er mwyn symud ymlaen i rolau uwch a thuag at gydnabyddiaeth broffesiynol drwy bethau fel:

  • Cymhwyster cyfieithu ar y pryd proffesiynol ar Lefel 5 neu uwch
  • Cymwysterau dehongli neu seiliedig ar iaith mewn Sefydliad Addysg Uwch
  • Cydnabyddiaeth broffesiynol drwy gymwysterau arbenigol - yr Heddlu, gwasanaeth cyhoeddus neu gyfieithu ar y pryd mewn cynadleddau.

Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol (SGC) a Safonau Eraill

Mae’r holl Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol wedi’u mapio ym mhob un o’r unedau. Y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol yr ymdrinnir â nhw yw:

UnedNOS

Moeseg ym maes Ymarfer Cyfieithu a Dehongli

PTra2 Rheoli aseiniadau cyfieithu newydd (Cyfieithu 2007)

 

CFAINTA1 Paratoi ar gyfer aseiniadau cyfieithu ar y pryd (Cyfieithu ar y Pryd 2006)

Egwyddorion Defnyddio ac Amrywio Iaith

PTra2 Rheoli aseiniadau cyfieithu newydd (Cyfieithu 2007)

 

PTra3 Cyfieithu testunau ysgrifenedig o un iaith i’r llall (Cyfieithu 2007)

 

CFAINTA1 Paratoi ar gyfer aseiniadau cyfieithu ar y pryd (Cyfieithu ar y Pryd 2006)

Datblygu a Chynnal Sgiliau Cyfieithu

APTra1 Cynnal sgiliau a systemau ar gyfer rheoli tasgau cyfieithu (Cyfieithu 2007)

Rheoli Comisiynau Cyfieithu

APTra2 Rheoli aseiniadau cyfieithu newydd (Cyfieithu 2007)

Cyfieithu Testunau Ysgrifenedig

APTra3 Cyfieithu testunau ysgrifenedig o un iaith i’r llall (Cyfieithu 2007)

Gwella’ch Perfformiad eich Hun fel Cyfieithydd

PTra4 Datblygu eich perfformiad fel cyfieithydd proffesiynol

Datblygu a Chynnal Sgiliau Cyfieithu a Dehongli

CFAINTA2 Ehangu eich sgiliau presennol i baratoi ar gyfer aseiniadau cyfieithu ar y pryd (Cyfieithu ar y Pryd 2006)

Paratoi ar gyfer Comisiynau Cyfieithu ar y Pryd

CFAINTA2 Ehangu eich sgiliau presennol i baratoi ar gyfer aseiniadau cyfieithu ar y pryd (Cyfieithu ar y Pryd 2006)

Cyfieithu a dehongli un ffordd a dwy ffordd

CFAINTB1 Dehongli un ffordd fel cyfieithydd ar y pryd proffesiynol (Cyfieithu ar y Pryd 2006)

 

CFAINTC1 Dehongli dwy ffordd fel cyfieithydd ar y pryd proffesiynol (Cyfieithu ar y Pryd 2006)

Gwella’i Berfformiad ei Hun fel Cyfieithydd a Dehonglwr

CFAINTD2 Gwella eich perfformiad fel cyfieithydd ar y pryd uwch (Cyfieithu ar y Pryd 2006)

Gweithio mewn Tîm o Gyfieithwyr a Dehonglwyr

CFAINTG Gweithio gyda chyfieithwyr ar y pryd eraill (Cyfieithu ar y Pryd 2006)

 

Cyllid a Ffioedd

Mae gwybodaeth gyfredol am gyllid ar gael ar wefan Cymwysterau yng Nghymru (QiW)

I gael rhagor o wybodaeth am ffioedd gostyngol a chymelliadau, cysylltwch ag un o’n Rheolwyr Canolfan.

Cynnwys y Cymhwyster

Strwythur a Chynnwys

Agored Cymru Tystysgrif Lefel 4 mewn Ymarfer Cyfieithu
Rhaid i ddysgwyr gyflawni o leiaf 34 credyd i ennill y cymhwyster. I wneud hyn, rhaid iddynt gyflawni pob uned o Grŵp Gorfodol A.

Agored Cymru Diploma Lefel 4 mewn Ymarfer Cyfieithu ar y Pryd
Rhaid i ddysgwyr gyflawni o leiaf 41 credyd i ennill y cymhwyster. I wneud hyn, rhaid iddynt gyflawni pob uned o Grŵp Gorfodol A.

Ar gyfer y Fframweithiau Prentisiaeth lle mae Agored Cymru - Tystysgrif Lefel 4 mewn Ymarfer Cyfieithu ac Agored Cymru - Diploma Lefel 4 mewn Ymarfer Cyfieithu ar y Pryd - https://acwcerts.co.uk/web/framework/interpreting-and-translation


Maint
LefelDyfarniadDyfarniad EstynedigTystysgrifTystysgrif EstynedigDiploma
Pedwar 34 (31)41

(Isafswm credydau ar y lefel honno neu uwch) [Isafswm credydau ar y lefel honno neu uwch]

Unedau

Agored Cymru Diploma Lefel 4 mewn Ymarfer Cyfieithu ar y Pryd

Credydau ei hangen ar i gyd: 41
Credydau ei hangen ar i gyd: 41
Mwyaf o gredydau: 41

Agored Cymru Tystysgrif Lefel 4 mewn Ymarfer Cyfieithu

Credydau ei hangen ar i gyd: 34
Credydau ei hangen ar i gyd: 34
Mwyaf o gredydau: 34

Cydnabod Dysgu Blaenorol (RPL)

Dull asesu sy’n arwain at ddyfarnu credyd yw Cydnabod Dysgu Blaenorol. Mae’n rhaid i aseswyr ystyried a yw Cydnabod Dysgu Blaenorol yn berthnasol i unrhyw ddysgwyr.  Dull asesu yw hwn sy’n ystyried a all dysgwyr ddangos eu bod yn bodloni gofynion asesu uned / rhan o uned a / neu gymhwyster drwy wybodaeth, dealltwriaeth neu sgiliau sydd ganddynt eisoes ac felly nad oes angen iddynt eu datblygu drwy ddilyn cwrs dysgu.

Cliciwch yma i weld y polisi Cydnabod Dysgu Blaenorol am arweiniad pellach.


Prosesau Sicrhau Ansawdd

Cofrestru

Rhaid i ganolfannau gofrestru pob dysgwr yn brydlon, mewn ffordd amserol, sy’n briodol i hyd dyddiad dechrau’r cwrs. I gael arweiniad ar gofrestru dysgwyr, cliciwch yma.

Cyflwyno ac Asesu

Cyflwyno

Rhaid i ganolfannau sicrhau bod cymwysterau'n cael eu cyflwyno mewn modd effeithlon ac effeithiol. Nodwedd hanfodol o ran cyflwyno'n effeithiol yw cynllunio cyrsiau yn drylwyr ac yn fanwl. Mae'n rhaid i ganolfannau allu dangos bod ganddyn nhw broses fewnol gadarn ar gyfer dylunio, datblygu a chyflwyno cyrsiau cydlynol.

Un o nodweddion allweddol nifer o'n cymwysterau yw'r hyblygrwydd maen nhw'n ei gynnig i ganolfannau eu rhoi yn eu cyd-destun i fodloni anghenion penodol eu dysgwyr. Mae'r hyblygrwydd hwn yn hyrwyddo ymgysylltiad cadarn â dysgwyr, a phrofiadau dysgu ystyrlon.

Dylai canolfannau sicrhau bod cynlluniau gwaith a chynlluniau gwersi manwl ar waith sy'n ystyried pob agwedd ar fanyleb y cymhwyster. Dylai'r rhain gynnwys manylion y strategaethau a'r adnoddau sy'n angenrheidiol ar gyfer addysgu, ac asesiadau sy'n bodloni anghenion dysgwyr.

Mae'n rhaid i ddulliau addysgu a dysgu fod yn gyson â chyd-destun, lefel ac amodau'r cymhwyster, ac mae'n rhaid iddyn nhw gael eu dylunio i gynnwys, ysgogi a chymell dysgwyr.

Asesu

Mae'n rhaid i asesiadau sydd wedi cael eu creu gan ganolfannau fodloni manyleb y cymhwyster. Mae'n rhaid i asesiadau alluogi'r asesydd i wahaniaethu'n gywir ac yn gyson rhwng y lefelau cyrhaeddiad mae'r dysgwyr wedi'u dangos. Dim ond deunydd sydd wedi dod o'r wybodaeth, y sgiliau a'r ddealltwriaeth yn y fanyleb sydd i'w gynnwys yn yr asesiad, ac mae'n rhaid i lefel y galw fod yn gyson.

Mae'n rhaid i asesiad wneud y canlynol:

  • sicrhau ei fod yn bosib i ddysgwyr ddangos i ba raddau mae ganddyn nhw'r wybodaeth, y sgiliau a'r ddealltwriaeth sy'n angenrheidiol ar gyfer y cymhwyster
  • galluogi i ddysgwr sy'n meddu ar yr wybodaeth, y sgiliau a'r ddealltwriaeth angenrheidiol gyrraedd y lefel cyrhaeddiad sydd wedi'i nodi
  • bod yn addas i'r diben, yn ddilys ac yn briodol i'r wybodaeth, y sgiliau a'r ddealltwriaeth sy'n cael eu mesur
  • gwahaniaethu'n effeithiol rhwng dysgwyr (ar sail yr wybodaeth, y sgiliau a'r ddealltwriaeth sy'n cael eu hasesu)
  • mesur yr wybodaeth, y sgiliau a'r ddealltwriaeth y maent i fod i'w mesur yn gywir

Mae'n ofynnol i ganolfannau sicrhau bod yr asesiadau sydd wedi cael eu creu gan ganolfannau yn cael eu hadolygu, a'u diwygio os oes angen, i sicrhau eu bod yn parhau i fod yn addas i'r diben, er enghraifft, drwy adlewyrchu gofynion, arfer da neu ddeddfwriaeth newydd.

Bydd rhai cymwysterau a'u hunedau yn rhagnodi'r dulliau asesu sydd i'w defnyddio. Bydd y dulliau hyn wedi'u nodi mewn unedau unigol

Lle nad yw'r dulliau wedi cael eu rhagnodi, dylai canolfannau ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau asesu i asesu dysgwyr gan y bydd hyn yn galluogi dysgwyr i ddangos eu gwybodaeth a/neu eu cymhwysedd. Y peth pwysicaf yw bod y dulliau asesu yn briodol ar gyfer y canlyniad a fwriedir.

Mae'n rhaid i ganolfannau gadw at ofynion asesu Agored Cymru wrth ddarparu cymwysterau, uned neu unedau.

I gael arweiniad ar asesu, cyfeiriwch at Canllawiau ar Asesu Agored Cymru.

Mae’n rhaid i aseswyr:

  • fod â phrofiad cyfredol a/neu berthnasol ym maes asesu;
  • fod wedi ymgymryd â hyfforddiant perthnasol os yn newydd i asesu (gweler y wefan ar gyfer cyrsiau Cyflwyniad i Asesu Agored Cymru);
  • fod â gwybodaeth dda am ofynion asesu Agored Cymru a dealltwriaeth dda ohonynt;
  • fod yn gyfarwydd â lefel y cymhwyster a'i uned(au);
  • fod â gwybodaeth dda am y pwnc a dealltwriaeth a/neu brofiad o'r uned(au)/cymhwyster neu gymwysterau sy'n cael eu hasesu.

Oni nodir hynny yng nghanllawiau’r cymhwyster neu ym manyleb yr uned, ar hyn o bryd nid oes yn rhaid i aseswyr gael cymhwyster asesu ffurfiol* i asesu unedau a / neu gymwysterau Agored Cymru. Er hynny, mae Agored Cymru yn argymell yn gryf bod aseswyr yn gweithio tuag at ennill achrediad ffurfiol (e.e. Tystysgrif Lefel 3 mewn Asesu Cyrhaeddiad Galwedigaethol).  Hefyd, mae Agored Cymru yn argymell yn gryf bod aseswyr yn mynychu hyfforddiant Cyflwyniad i Asesu Agored Cymru.

Gofynion Penodol o ran Aseswyr

Mae Agored Cymru Diploma Lefel 4 mewn Ymarfer Cyfieithu ar y Pryd yn mapio i Strategaeth Asesu Ieithoedd Sgiliau CFA

Sicrhau Ansawdd Mewnol

Mae’n rhaid i ganolfannau weithredu a chynnal system sicrhau ansawdd mewnol effeithiol. Mae dilysu mewnol yn rhan hanfodol o system sicrhau ansawdd, yn arbennig os nad oes asesiad cyfunol (diwedd cwrs) allanol fel arholiad neu brawf ar-lein ar gael.

Nid yw Agored Cymru yn gorfodi proses ddilysu mewnol benodol ar ganolfannau, ond disgwylir i ganolfannau roi gwiriadau dilysu mewnol effeithiol ar waith i gadarnhau bod y broses asesu (h.y. o’r gwaith cynllunio cyn y cwrs i ddyfarnu credyd) yn addas ar gyfer y diben ac yn cael ei gweithredu’n gywir, yn deg ac yn gyson ac i'r safon a fynnir. 

Mae’n rhaid i ganolfannau gadw at ofynion sicrhau ansawdd Agored Cymru wrth ddilysu unrhyw uned(au) o gymwysterau yn fewnol.

Mae'n rhaid i swyddogion sicrhau ansawdd mewnol:

  • fod â phrofiad cyfredol a/neu berthnasol ym maes asesu a dilysu mewnol;
  • fod wedi ymgymryd â hyfforddiant perthnasol os yn newydd i sicrhau ansawdd mewnol (gweler y wefan ar gyfer cyrsiau Cyflwyniad i Ddilysu Mewnol Agored Cymru);
  • fod â gwybodaeth dda am ofynion dilysu mewnol Agored Cymru a dealltwriaeth dda ohonynt.
  • fod â gwybodaeth a dealltwriaeth dda o unedau a chymwysterau Agored Cymru yn y sector maent wedi’i ddewis. 
  • fod yn gyfarwydd â lefel yr uned(au) / y cymhwyster neu'r cymwysterau sy’n cael eu darparu;

Oni nodir hynny yng nghanllawiau’r cymhwyster neu ym meini prawf yr uned*, ar hyn o bryd nid oes yn rhaid i ddilyswyr mewnol gael cymhwyster dilysu mewnol ffurfiol i ddilysu unedau a / neu gymwysterau Agored Cymru yn fewnol.  Ond, mae Agored Cymru yn argymell yn gryf bod dilyswyr mewnol yn gweithio tuag at achrediad ffurfiol (e.e Agored Cymru - Tystysgrif Lefel 4 mewn Arwain y gwaith o Sicrhau Ansawdd Mewnol Arferion a Phrosesau Asesu). Hefyd, mae Agored Cymru yn argymell yn gryf bod aseswyr yn mynychu hyfforddiant Cyflwyniad i Asesu Agored Cymru. Mae'r dyddiadau y cynhelir digwyddiadau hyfforddi wedi'u nodi yma.

Ni chaiff dilyswyr mewnol ddilysu eu deunyddiau asesu eu hunain yn fewnol, eu tasgau na’u penderfyniadau asesu.   Felly, mae Agored Cymru yn argymell bod sgiliau dilysu mewnol y tîm cyfan yn cael eu datblygu.  Mae hyn yn rhoi mwy o hyblygrwydd i'r ganolfan ac yn osgoi dibynnu gormod ar unrhyw berson unigol.

* Mae rhai gofynion penodol yn berthnasol i rai cymwysterau ac y mae’n rhaid eu bodloni er mwyn i diwtoriaid / aseswyr allu darparu ac asesu'r cymhwyster.Edrychwch ar y canllawiau sy’n berthnasol i'r cymhwyster i gadarnhau bod eich tiwtoriaid / aseswyr yn gallu bodloni'r gofynion hyn.Mewn rhai achosion, rhaid rhoi tystiolaeth o brofiad / cymhwyster y tiwtor / aseswr i Agored Cymru cyn darparu'r cymhwyster.

Mae’n rhaid i ganolfannau gadw at ofynion asesu Agored Cymru wrth ddarparu cymwysterau, neu unrhyw uned/unedau sy’n rhan o gymwysterau.

I gael canllawiau ar ddilysu mewnol edrychwch ar Canllawiau ar Ddilysu Mewnol  Agored Cymru.

,

Craffu ar Safonau Asesu Canolfannau (CASS)

Mae’r dull hwn yn rhan o strategaeth CASS Agored Cymru sy’n sicrhau bod digon o reolaethau ar waith pan fydd asesiad yn cael ei farcio gan ganolfan (Amod H2).

Mae Agored Cymru yn gosod ei holl gymwysterau mewn ‘bandiau risg’. Mae bandiau risg cymwysterau yn bwydo i mewn i’r system rheoli risg, sy’n cael ei ‘bwysoli’ yn unol â hynny.

Wrth bennu band risg ar gyfer cymhwyster, mae Agored Cymru yn ystyried y canlynol:

  • lluniad pob cymhwyster
  • unrhyw safonau proffesiynol sy’n berthnasol i’r cymhwyster
  • unrhyw dystiolaeth sy’n gysylltiedig â’r sector a/neu’r cymhwyster sy’n awgrymu y gallai fod angen dull gweithredu CASS penodol.

Agored Cymru sy’n penderfynu ar y dull mwyaf priodol o weithredu CASS ar gyfer pob un o’i gymwysterau er mwyn sicrhau bod y gofynion sylfaenol rheoleiddiol yn cael eu bodloni’n llawn. Bydd pob canolfan sy’n cynnig ac yn asesu cymwysterau Agored Cymru yn cael Adolygiad Blynyddol o Ganolfannau.

Mae Agored Cymru yn hyderus y bydd hyn yn rhoi sicrwydd ychwanegol i gyrff penodol i’r sector ac yn diogelu uniondeb y cymhwyster/cymwysterau, gan greu canlyniadau gwell i ddysgwyr.

Addasiadau Rhesymol i’r Broses Asesu ac Ystyriaethau Arbennig ar Gyfer Asesiad

Efallai y bydd angen newid asesiad er mwyn addasu ar gyfer anghenion dysgwr unigol neu grŵp bach o ddysgwyr. Gall hyn fod er mwyn ymateb i anabledd neu anhawster sydd gan y dysgwr sy'n golygu bod y dysgwr dan anfantais sylweddol yn y broses asesu.   Ni ddylai addasiadau rhesymol i’r broses asesu effeithio ar natur ddarllenadwy na dilysrwydd canlyniadau'r asesiad a rhaid iddynt fod mor drylwyr â'r dulliau asesu a ddefnyddir ar gyfer dysgwyr eraill.   Rhaid cofnodi pob asesiad rhesymol a chael sêl bendith y dilysydd mewnol cyn ei ddefnyddio. 

Mewn rhai achosion efallai y bydd angen ystyried defnyddio ystyriaethau arbennig wrth wneud addasiadau ar gyfer dysgwr neu grŵp o ddysgwyr fel rhan o'r broses asesu.  Gellir gwneud hyn os bydd amgylchiadau sydd y tu hwnt i reolaeth y dysgwr yn effeithio ar ei berfformiad mewn asesiad e.e. salwch personol diweddar, damwain, profedigaeth, tarfu difrifol yn ystod yr asesiad neu os bydd y dysgwr wedi methu cyflawni rhan o'r asesiad oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i'w reolaeth.  Rhaid cofnodi unrhyw ystyriaethau arbennig a rhaid i'r dilysydd mewnol eu cymeradwyo cyn eu defnyddio.

Mae’n rhaid i aseswyr gofio na ddylai addasiadau rhesymol a / neu ystyriaethau arbennig roi mantais annheg i'r dysgwr. Mae’n rhaid i ganlyniad y dysgwr adlewyrchu ei gyrhaeddiad yn yr asesiad ac nid, o reidrwydd, ei gyrhaeddiad posib.

I gael arweiniad pellach ar y mathau o addasiadau rhesymol a / neu ystyriaethau arbennig y gellir eu defnyddio a'r broses sydd i'w dilyn, edrychwch ar Bolisi Addasiadau Rhesymol i Broses Asesu Agored Cymru a Pholisi Ystyriaethau Arbennig ar gyfer Asesu Agored Cymru. 

Cadw Deunyddiau Asesu

Mae’n rhaid i ganolfannau gadw'r holl dystiolaeth sy’n berthnasol i ddysgwyr a’u cofnodion asesu yn ddiogel er mwyn sicrhau eu bod ar gael ar gyfer digwyddiadau sicrhau ansawdd allanol a digwyddiadau safoni rhanbarthol.  Mae cofnodion asesu diweddar sy’n cael eu cadw'n ddiogel hefyd yn helpu i leddfu ar y risg o gamymarfer wrth asesu, neu broblemau a allai godi os bydd yr aseswr yn gadael yn ystod y cwrs.  

Mae’n rhaid i ganolfannau wneud y canlynol:

a) cadw cofnodion asesu yn ddiogel;

b) cadw cofnodion am gyrhaeddiad dysgwr sy’n gyfoes, sy'n cael eu hadolygu yn rheolaidd ac sydd wedi’u tracio’n gywir;

c) sicrhau bod yr holl dystiolaeth ddiweddaraf am ddysgwyr ar gael ar gyfer sicrhau ansawdd allanol;

Yn ogystal, yn unol â gofynion Agored Cymru a gofynion rheoleiddio, mae’n rhaid i Ganolfannau gadw digon o dystiolaeth am waith dysgwyr, penderfyniadau asesu a chofnodion dilysu mewnol i alluogi monitro safonau dros gyfnod o amser. I gael arweiniad pellach, edrychwch ar Polisi Cadw Deunyddiau AsesuAgored Cymru.

Safoni

Fel canolfan gydnabyddedig Agored Cymru, disgwylir i chi fynychu gweithdai Safoni. Mae'r gweithdai yn cynnig cyfle i chi gwrdd â chydweithwyr proffesiynol ym maes asesu a sicrhau ansawdd gyda'r nod o ddatblygu dealltwriaeth ar y cyd o safonau Agored Cymru ac i rannu arbenigedd ac ymarfer blaenllaw.

Mae’r gweithdai safoni yn sesiynau rhyngweithiol a chefnogol lle byddwch yn edrych ar enghreifftiau o ddefnyddiau asesu a thystiolaeth dysgwyr ac yn gwneud penderfyniadau ynglŷn â’r canlynol:

  • a yw'r deunyddiau asesu'n ddilys ac yn addas ar gyfer y diben;
  • a yw tystiolaeth y dysgwr yn ddilys, yn ddibynadwy ac yn ddigonol;
  • a yw'r arferion asesu a’r broses sicrwydd ansawdd mewnol yn effeithiol ac yn deg;
  • a yw safonau yn gyson ar draws canolfannau;
  • a oes modd cymharu safonau dros gyfnod o amser;
  • a yw'r sampl yn cynnwys unrhyw arferion blaenllaw.

I gael y wybodaeth ddiweddaraf am weithdai safoni Agored Cymru, edrychwch ar ein gwefan, sef http://www.agored.cymru/Digwyddiadau/Safoni

Ardystio

Bydd Tystysgrifau ar gael o fewn Safonau Gwasanaeth.