Arwain Gweithgareddau

Canllaw Cymhwyster

  • Agored Cymru Lefel 2 NVQ mewn Arwain Gweithgareddau (C00/0750/9) M

Agored Cymru

Agored Cymru yw corff dyfarnu cymwysterau yng Nghymru sy'n arbenigo mewn diwallu anghenion amrywiol dysgwyr, cyflogwyr a chymunedau.

Rydym yn bodoli er mwyn cynnig darpariaeth hyblyg ac ymatebol i helpu dysgwyr o bob oedran a lefel i gyflawni eu potensial.

Mae ein hunedau a’n cymwysterau i gyd yn seiliedig ar gredydau ac yn ddigon hyblyg i ddiwallu anghenion dysgwyr mewn unrhyw sefyllfa - o ysgolion i sefydliadau AB ac o ddysgu troseddwyr i hyfforddiant yn y gweithle.

Gyda dros 20 mlynedd o brofiad o gynllunio dysgu cynhwysol, mae ein tîm o arbenigwyr yn cynnig cymorth i ddatblygu cwricwlwm gyda sicrwydd ansawdd sydd ar gael i bawb.

Fel elusen a menter gymdeithasol rydym yn cydweithio â phartneriaid i sicrhau bod dysgu'n cael yr effaith orau bosib o ran diwallu anghenion amrywiol cymunedau a chyflogwyr yng Nghymru.

Gan ein bod yn gweithio yng Nghymru yn unig, rydym mewn sefyllfa ddelfrydol i ymateb i ofynion ein dysgwyr a’n canolfannau. Mae ein cymwysterau wedi’u cynllunio’n bwrpasol i fodloni anghenion a blaenoriaethau unigolion, cymunedau a chyflogwyr a nodau Cymru fodern.

Rydym yn gweithio er budd Cymru, mae ein tîm ymroddedig o arbenigwyr wedi ymrwymo i hybu’r iaith Gymraeg drwy annog asesu drwy gyfrwng y Gymraeg.

Rydym yn cynnig y cyfle i’n canolfannau cydnabyddedig ddarparu dysgu gydol oes effeithiol, ehangu cyfleoedd a hwyluso dilyniant a datblygiad o fewn y fframweithiau hyfforddi ac addysg presennol.

Bob amser, rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth ymatebol o safon uchel i’n canolfannau a’n dysgwyr i gyd.

Mae Cymwysterau Agored Cymru:

  • ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg, gan gynnwys yr ardystiad;
  • yn caniatáu achredu unedau sy’n rhan o’r cymhwyster fel cydnabyddiaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus (DPP) heb orfod ennill y cymhwyster llawn;
  • yn diwallu anghenion dysgwyr yng Nghymru drwy greu cymwysterau sy'n ymateb yn uniongyrchol i’r agenda Gymreig;
  • yn cynnig darpariaeth hyblyg ac ymatebol amrywiol er mwyn helpu dysgwyr i gyflawni eu potensial;
  • wedi’u cynllunio i fod yn addas i anghenion a blaenoriaethau unigolion, cymunedau, cyflogwyr a nodau cenedlaethol Cymru fodern;

Trosolwg o’r Cymhwyster

Mae’r cymhwyster hwn yn ategu rôl arweinydd gweithgareddau yn y sector hamdden egnïol ac yn briodol i unigolion sy’n cynllunio, yn cyfl wyno ac yn gwerthuso sesiynau gweithgaredd. Fel cymhwyster cymhwysedd, fe’i hanelir at unigolion sy’n gweithio fel arweinwyr gweithgareddau mewn meysydd fel ymarfer a ffi trwydd, gweithgareddau awyr agored, a hyfforddiant. Mae’r unedau gorfodol yn delio â pharatoi, arwain, cloi ac adolygu sesiynau gweithgaredd yn ogystal â chefnogi gwaith y tîm yn hybu iechyd a diogelwch a chydraddoldeb ac amrywiaeth. Mae amcanion y cymhwyster yn cynnwys cyfl awni rhaglenni dysgu perthnasol a chefnogi rôl yn y gweithle.

Dyma elfen cymhwysedd y Brentisiaeth Ganolradd mewn Arwain Gweithgareddau. Mae’r cymhwyster hwn hefyd ar gael fel cyfl awniad ar ei ben ei hun. Gall hwn fod yn fwy priodol i ddysgwyr y mae angen DPP arnynt o fewn eu rôl bresennol, neu lle mae gan y dysgwr y wybodaeth berthnasol ar gyfer ei rôl ond bod angen cydnabyddiad ffurfi ol arno ar gyfer cael cymhwysedd mewn arwain gweithgareddau.

Mae Tystysgrif NVQ Lefel 2 Agored Cymru mewn Arwain Gweithgareddau yn gymhwyster galwedigaethol sy’n rhoi cyfl e i ddysgwyr gael eu hasesu dros gyfnod o amser ar agweddau damcaniaethol ac ymarferol y gwaith o arwain gweithgareddau yn y gweithle. Mae’n ddelfrydol ar gyfer y rheini sydd â phrofi ad ym maes arwain gweithgareddau ac sy’n dymuno cael cymhwyster wedi’i achredu’n genedlaethol.

Gellir ei gyfl wyno fel:

  • cymhwyster ar ei ben ei hun;
  • dilyniant ‘galwedigaethol’ o gymhwyster hyfforddi Lefel 1 neu 2 penodol i gamp;
  • elfen cymhwysedd Prentisiaeth Ganolradd mewn Arwain Gweithgareddau.

Prif bwrpas y cymhwyster hwn yw cadarnhau cymhwysedd galwedigaethol mewn rôl benodol. Mae’n dangos ac yn darparu cydnabyddiaeth o gymhwysedd a sgiliau mewn arwain gweithgareddau mewn amrywiol sefyllfaoedd. Mae’n addas i’r rheini sy’n cael eu cyfl ogi mewn rôl arwain gweithgareddau, sy’n chwilio am waith mewn rôl o’r fath neu sy’n bwriadu dychwelyd i weithio ar ôl bod yn ddi-waith.

Mae’r cymhwyster hwn yn seiliedig ar y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol a daw o dan ôl-troed SkillsActive, y cyngor sector sgiliau ar gyfer hamdden egnïol a dysgu.

Drwy’r unedau gorfodol, byddwch yn ymdrin â sesiynau gweithgaredd, sut i gefnogi gwaith tîm a sefydliad; hybu iechyd, diogelwch a lles yn y sector hamdden egnïol a chefnogi cydraddoldeb ac amrywiaeth. Mae nifer o unedau dewisol ar gael sy’n rhoi cyfl e ichi ddewis y meysydd hynny sydd fwyaf perthnasol i chi.

Bydd gan y dysgwr y cyfl e i ddatblygu sgiliau a chymhwysedd mewn paratoi, arwain, cloi ac adolygu sesiynau gweithgaredd mewn ffordd ddiogel, ddiddorol a chynhwysol ar gyfer amrywiaeth o gyfranogwyr. Mae sgiliau eraill yn cynnwys meysydd fel cynnal a chadw cyfarpar a gofalu amdanynt ar lefel sylfaenol.

Oriau dysgu dan arweiniad - 224-292. Cyfrifoldeb y canolfannau hyfforddi fydd penderfynu ar hyd priodol y cwrs, yn seiliedig ar allu’r dysgwyr a lefel eu gwybodaeth. Felly, efallai y bydd nifer yr Oriau Dysgu dan Arweiniad yn amrywio o un ganolfan hyfforddi i’r llall, yn dibynnu ar anghenion y dysgwyr.

 

Gofynion Mynediad

Rhaid i ddysgwyr fod yn 16 oed o leiaf i ennill y cymhwyster hwn.

Nid oes dim gofynion mynediad ffurfi ol.

Iaith y Ddarpariaeth

Mae’r cymhwyster hwn ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg i ddechrau. Os oes angen y cymhwyster hwn arnoch mewn iaith arall, cysylltwch ag un o Reolwyr Canolfannau Agored Cymru.

Canolfannau Cydnabyddedig

Os ydych chi eisoes yn un o ganolfannau cydnabyddedig Agored Cymru ac yr hoffech gael rhagor o wybodaeth am gynnig y cymwysterau hyn, cysylltwch â’ch Rheolwr Canolfan.

Mae’n rhaid ichi ychwanegu unedau o'r cymhwyster at eich fframwaith - gallwch wneud hyn drwy fynd i wefan Agored Cymru.  I gael canllawiau ar sut i ychwanegu unedau / cymwysterau at eich fframwaith, cliciwch yma.

Canolfannau Newydd

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn cynnig y cymhwyster hwn, ond heb fod yn un o ganolfannau cydnabyddedig Agored Cymru ar hyn o bryd, cysylltwch ag un o’n Rheolwyr Canolfannau i gael arweiniad ar sut i ddod yn ganolfan gydnabyddedig Agored Cymru.

Cynnig y Cymhwyster

Mae’r cymhwyster hwn ar gael i ganolfannau cydnabyddedig Agored Cymru. Os hoffech ddysgu mwy naill ai am ddod yn ganolfan gydnabyddedig neu am weithio mewn partneriaeth â chanolfan gydnabyddedig, ewch i’r rhan 'Canolfan' ar y wefan neu cysylltwch â Rheolwr Canolfan i gael rhagor o wybodaeth.

Cyfrifoldeb y ganolfan yw rhoi systemau ar waith i sicrhau mai’r person sydd wedi cofrestru ar gymhwyster neu uned ac sy’n cwblhau asesiad yw’r person hwnnw mewn gwirionedd.  Mae’n ofynnol i bob canolfan felly sicrhau bod manylion adnabod pob dysgwr yn cael eu cadarnhau cyn iddynt gyflawni’r cymhwyster, uned ac asesiad.  Mae Agored Cymru yn argymell y canlynol i brofi manylion adnabod dysgwr:

  • pasbort dilys (unrhyw genedligrwydd)
  • trwydded yrru cerdyn-llun y DU wedi’i llofnodi
  • cerdyn gwarant dilys wedi’i gyhoeddi gan luoedd EM neu'r heddlu
  • cerdyn adnabod arall â llun arno e.e. cerdyn adnabod gweithiwr, cerdyn adnabod myfyriwr, cerdyn teithio ac ati

Os na all dysgwr ddangos unrhyw un o’r dulliau adnabod ffotograffig uchod, gall canolfan dderbyn math arall o ddull adnabod sy’n cynnwys llofnod, er enghraifft, cerdyn credyd. Gallai dderbyn cadarnhad gan gynrychiolydd trydydd parti, fel rheolwr llinell, rheolwr adnoddau dynol neu oruchwyliwr arholiadau hefyd.   

Cyfleoedd Datblygu

Gallwch symud ymlaen i gwblhau elfen gwybodaeth un o lwybrau’r Brentisiaeth Ganolradd mewn Arwain Gweithgareddau. Gallai’r llwybr a ddewiswch gwmpasu ystod eang o weithgareddau awyr agored, ymarfer a ffi trwydd, hyfforddi neu arwain.

Mae’r swyddi y gallai’r cymhwyster hwn arwain atynt yn cynnwys gwaith fel arweinydd gweithgareddau, hyfforddwr gweithgareddau awyr agored, hyfforddwr ffi trwydd, hyfforddwr chwaraeon cymunedol, a theitlau penodol i weithgaredd fel hyfforddwr wal ddringo.

Gan edrych y tu hwnt i rôl yn hyfforddi gweithgareddau awyr agored, gall datblygiad gyrfa’n aml arwain at elfennau sylweddol o arwain a rheoli mewn rolau. Efallai y byddwch yn gallu cael dyrchafi ad i rolau fel Rheolwr Canolfan neu Brif Hyfforddwr.

Gwreiddio Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang (ADCDF)

Mae Agored Cymru wedi ymrwymo i wreiddio ADCDF mewn gweithgareddau dysgu yng Nghymru. Mae ADCDF yn arddel bod gweithgareddau pawb yn gysylltiedig â’i gilydd; bod penderfyniadau a ffordd o fyw dysgwyr yn effeithio ar fywydau pobl eraill ledled y byd.  

Mae integreiddio ADCDF yn y cwricwlwm yn cynnig cyfleoedd i ymarferwyr Dysgu a Datblygu gyflwyno barn ddiduedd ac ymarferol sy'n golygu bod modd i ddysgwyr wneud penderfyniadau gwybodus.   Nid ‘pwnc ychwanegol’ yw ADCDF; dylid ei integreiddio yn holl feysydd y cwricwlwm lle bynnag y bo modd. 

Mae ADCDF yn cynnwys saith thema allweddol sy’n gysylltiedig â’i gilydd:  mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru

Mae awgrym ynghylch y cyfle sydd ym mhob uned i wreiddio amrywiol themâu ADCDF wedi'i gynnwys yn yr uned. Cofiwch mai canllaw yn unig yw hwn – nid ei fwriad yw cyfyngu ar y ffyrdd y gellir ymgorffori ADCDF. 

Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol (SGC) a Safonau Eraill

Teitl yr UnedSafonau Galwedigaethol Cenedlaethol (SGC)

Paratoi ar gyfer sesiynau gweithgaredd

SGC D21 Paratoi ar gyfer sesiynau gweithgaredd

Arwain sesiynau gweithgaredd

SGC D22 Arwain sesiynau gweithgaredd

Cloi ac Adolygu Sesiynau Gweithgaredd

SGC D23 Cloi ac adolygu sesiynau gweithgaredd

Cefnogi gwaith y tîm a’r sefydliad

SGC A52 Cefnogi gwaith y tîm a’r sefydliad

Hybu iechyd, diogelwch a lles mewn hamdden egnïol

SGC C22 Hybu iechyd, diogelwch a lles yn y maes hamdden egnïol

Cefnogi cydraddoldeb ac amrywiaeth yn y maes hamdden egnïol

SGC D214 Cefnogi cydraddoldeb ac amrywiaeth yn y maes hamdden egnïol

Cyfrannu at ddatblygiad personol a chymdeithasol y cyfranogwyr

SGC D31 Cyfrannu at ddatblygiad personol a chymdeithasol y cyfranogwyr

Cyfrannu at waith y cyfranogwyr yn ymchwilio i'r amgylchedd naturiol a'i ddeall

SGC D32 Cyfrannu at waith y cyfranogwyr yn archwilio'r amglychedd naturiol a'u dealltwriaeth ohono

Gweinyddu cyllid a gwybodaeth

SGC A51 Gweinyddu cyllid a gwybodaeth

Cyfrannu at weithio ar y cyd â sefydliadau eraill

SGC A54 Cyfrannu at weithio ar y cyd â sefydliadau eraill

Cefnogi datblygiad y gamp neu’r gweithgaredd

SGC B11 Cefnogi datblygiad y gamp neu'r gweithgaredd

Cyfrannu at weithgareddau anturus

SGC D25 Cyfrannu at weithgareddau anturus

Gosod cyfarpar gweithgaredd, ei dynnu i lawr a'i storio

SGC C12 Gosod cyfarpar gweithgaredd, ei dynnu i lawr a'i storio

Archwilio a chynnal a chadw cyfarpar gweithgaredd

SGC ar gyfer Arwain Gweithgareddau C16 Archwylio a chynnal a chadw cyfarparu gweithgaredd

Rhoi argraff gadarnhaol i gwsmeriaid ohonoch chi eich hun a'ch sefydliad

Uned A4 o SGC 2010 Gwasanaeth i Gwsmeriad

 

Cyllid a Ffioedd

Mae gwybodaeth gyfredol am gyllid ar gael ar wefan Cymwysterau yng Nghymru (QiW)

I gael rhagor o wybodaeth am ffioedd gostyngol a chymelliadau, cysylltwch ag un o’n Rheolwyr Canolfan.

Cynnwys y Cymhwyster

Strwythur a Chynnwys

Rhaid i ddysgwyr gyfl awni o leiaf 30 credyd i ennill y cymhwyster. I wneud hyn, rhaid iddynt lwyddo ym mhob uned o’r Grŵp Gorfodol A (25 credyd) ac ennill o leiaf 5 credyd o Grŵp Dewisol B.

Unit Title Assessment Information

Paratoi ar gyfer sesiwn
gweithgaredd

Caniateir efelychiad ar gyfer 7.3 yn unig, os nad oes tystiolaeth sy’n digwydd yn naturiol ar gael.

Rhaid asesu canlyniadau 3, 5 a 7 gan ddefnyddio tystiolaeth o’r gweithle a gynhyrchir pan mae’r dysgwr
yn paratoi ar gyfer sesiynau gweithgaredd.

Arwain sesiynau gweithgaredd

Caniateir efelychiad ar gyfer 7.7 yn unig, os nad oes tystiolaeth sy’n digwydd yn naturiol ar gael.

Rhaid asesu canlyniadau 3, 5, 7 a 9 gan ddefnyddio tystiolaeth o’r gweithle a gynhyrchir pan mae’r dysgwr yn arwain sesiynau gweithgaredd.

Cloi ac adolygu sesiynau
gweithgaredd

Caniateir efelychiad ar gyfer 3.6 yn unig, os nad oes tystiolaeth sy’n digwydd yn naturiol ar gael.

Cefnogi gwaith y tîm a’r sefydliad

Caniateir efelychiad ar gyfer y math o gydweithiwr sy’n atebol i chi yn unig, os nad oes tystiolaeth sy’n
digwydd yn naturiol ar gael.

Rhaid asesu canlyniadau 3, 5 a 7 gan ddefnyddio tystiolaeth o’r gweithle a gynhyrchir pan mae’r dysgwr yn cefnogi gwaith y tîm a’r sefydliad.

Hybu iechyd, diogelwch a
lles yn y maes hamdden
egnïol

Rhaid cael tystiolaeth fod y dysgwr wedi bodloni’r holl feini prawf asesu a restrir o dan ‘bydd y dysgwr yn
gallu’ drwy eu gwaith eu hunain. Rhaid i’r dystiolaeth hon gael ei chasglu gan yr asesydd wrth iddo arsylwi ar y dysgwr ar fwy nag un achlysur. Rhaid bod digon o arsylwi wedi digwydd i sicrhau bod y dysgwr wedi bodloni’r holl ofynion.

Hefyd, rhaid cael tystiolaeth fod gwaith y dysgwr wedi bodloni’r gofynion a restrir o dan ‘gofynion asesu neu ganllawiau a nodir gan sector neu gorff rheoleiddio’. Rhaid i hyn gynnwys fel isafswm:

  • Pedwar math o berygl
  • Tri math o ddulliau
  • Dau fath o gam-drin (gan gynnwys bwlio)
  • Dau fath o anaf
  • Dau fath o gymorth cymwysedig
  • Dau fath o gyfl wr
  • Dau fath o bobl sy’n gysylltiedig

Gellir casglu hyn drwy gyfuniad o arsylwadau gan asesydd, tystiolaeth tyst a/neu gofnoion dilys o waith y dysgwyr.

Caniateir efelychu ar gyfer 5.3, 5.4 a 5.5 o holl ganlyniadau dysgu 7 a 9 yn unig, os nad oes tystiolaeth sy'n digwydd yn naturiol ar gael.

Rhaid asesu Canlyniadau Dysgu 3, 5, 7 a 9 gan ddefnyddio tystiolaeth o'r gweithle a gynhyrchir pan mae'r dysgwyr yn hybu iechyd, diogelwch a lles yn y maes hamdden egnïol. 

Cefnogi cydraddoldeb ac amrywiaeth yn y maes hamdden egnïol

Hefyd, rhaid cael tystiolaeth fod gwaith y dysgwr wedi bodloni’r gofynion a restrir o dan ‘gofynion asesu neu ganllawiau a nodir gan sector neu gorff rheoleiddio’. Rhaid i hyn gynnwys fel isafswm:

  • Pedwar math o gydraddoldeb ac amrywiaeth

Ni chaniateir efelychiad ar gyfer yr uned hon.

Rhaid asesu Canlyniad Dysgu 2 gan ddefnyddio tystiolaeth o’r gweithle a gynhyrchir pan mae’r dysgwr yn cefnogi cydraddoldeb ac amrywiaeth yn y maes hamdden egnïol.

Cyfrannu at ddatblygiad
personol a chymdeithasol
y cyfranogwyr

Hefyd, rhaid cael tystiolaeth fod gwaith y dysgwr wedi bodloni’r gofynion a restrir o dan ‘gofynion asesu neu ganllawiau a nodir gan sector neu gorff rheoleiddio’. Rhaid i hyn gynnwys fel isafswm:

  • Dau fath o gyfranogwyr
  • Dau fath o anghenion datblygu
  • Dau fath o baramedrau diogelwch
  • Dau fath o gyfl eoedd datblygu

Ni chaniateir efelychiad ar gyfer yr uned hon.

Rhaid asesu canlyniadau 2, 4 a 6 gan ddefnyddio tystiolaeth o’r gweithle a gynhyrchir pan mae’r dysgwr
yn cyfrannu at ddatblygiad personol a chymdeithasol y cyfranogwyr.

Cyfrannu at waith y
cyfranogwyr yn ymchwilio
i’r amgylchedd naturiol
a’i ddeall.

Ni chaniateir efelychiad ar gyfer yr uned hon.

Rhaid asesu canlyniadau 2, 4 a 6 gan ddefnyddio tystiolaeth o’r gweithle a gynhyrchir pan mae’r dysgwr
yn cyfrannu at waith y cyfranogwyr yn ymchwilio i’r amgylchedd naturiol a’i ddeall.

Gweinyddu cyllid a
gwybodaeth

Hefyd, rhaid cael tystiolaeth fod gwaith y dysgwr wedi bodloni’r gofynion a restrir o dan ‘gofynion asesu neu
ganllawiau a nodir gan sector neu gorff rheoleiddio’. Rhaid i hyn gynnwys fel isafswm:

  • Un math o arian
  • Dau fath o gyfrifi adau
  • Dau fath o gyfranogwyr
  • Tri math o wybodaeth
  • Un math o gofnodion

Caniateir efelychiad ar gyfer 5.6 a 5.8 yn unig, os nad oes tystiolaeth sy’n digwydd yn naturiol ar gael.

Rhaid asesu canlyniadau 3 a 5 gan ddefnyddio tystiolaeth o’r gweithle a gynhyrchir pan mae’r dysgwr yn cyfrannu at weithio ar y cyd â sefydliadau eraill.

Cyfrannu at weithio ar y
cyd â sefydliadau eraill

Hefyd, rhaid cael tystiolaeth fod gwaith y dysgwr wedi bodloni’r gofynion a restrir o dan ‘gofynion asesu neu
ganllawiau a nodir gan sector neu gorff rheoleiddio’. Rhaid i hyn gynnwys fel isafswm:

  • Dau fath o sefydliad
  • Un math o unigolion
  • Un math o waith ar y cyd

Caniateir efelychiad ar gyfer 5.6 a 5.8 yn unig, os nad oes tystiolaeth sy’n digwydd yn naturiol ar gael.

Rhaid asesu canlyniadau 3 a 5 gan ddefnyddio tystiolaeth o’r gweithle a gynhyrchir pan mae’r dysgwr yn cyfrannu at weithio ar y cyd â sefydliadau eraill.

Cefnogi datblygiad y
gamp neu’r gweithgaredd

Hefyd, rhaid cael tystiolaeth fod gwaith y dysgwr wedi bodloni’r gofynion a restrir o dan ‘gofynion asesu neu
ganllawiau a nodir gan sector neu gorff rheoleiddio’. Rhaid i hyn gynnwys fel isafswm:

  • Un math o ymholiad
  • Dau fath o wybodaeth
  • Un math o gwynion ac awgrymiadau
  • Un math o wasanaethau a chynnyrch.

Caniateir efelychiad ar gyfer 4.3, 4.4 a 4.6 yn unig, os nad oes tystiolaeth sy’n digwydd yn naturiol ar gael.

Rhaid asesu canlyniadau 2 a 4 gan ddefnyddio tystiolaeth o’r gweithle a gynhyrchir pan mae’r dysgwr yn cefnogi datblygiad y gamp neu’r gweithgaredd.

Cyfrannu at
weithgareddau anturus

Hefyd, rhaid cael tystiolaeth fod gwaith y dysgwr wedi bodloni’r gofynion a restrir o dan ‘gofynion asesu neu
ganllawiau a nodir gan sector neu gorff rheoleiddio’. Rhaid i hyn gynnwys fel isafswm:

  • Un math o brofi ad
  • Dau fath o nodau
  • Dau fath o gyfranogwyr
  • Yr holl fathau o baramedrau diogelwch
  • Un math o brofi ad.

Ni chaniateir efelychiad ar gyfer yr uned hon.

Rhaid asesu canlyniadau 2, 4 a 6 gan ddefnyddio tystiolaeth o’r gweithle a gynhyrchir pan mae’r dysgwr yn cyfrannu at weithgareddau anturus.

Gosod cyfarpar
gweithgaredd, ei dynnu
i lawr a'i storio

Caniateir efelychiad ar gyfer 5.4 yn unig, os nad oes tystiolaeth sy’n digwydd yn naturiol ar gael

Rhaid asesu canlyniadau 3, 5 a 7 gan ddefnyddio tystiolaeth o’r gweithle a gynhyrchir pan mae’r dysgwr yn gosod cyfarpar gweithgaredd, ei dynnu i lawr a’i storio.

Archwilio a chynnal
a chadw cyfarpar
gweithgaredd

Caniateir efelychiad ar gyfer 3.4 a 5.7 yn unig, os nad oes tystiolaeth sy’n digwydd yn naturiol ar gael

Rhaid asesu canlyniadau 3 a 5 gan ddefnyddio tystiolaeth o’r gweithle a gynhyrchir pan mae’r dysgwr yn archwilio a chynnal a chadw cyfarpar gweithgaredd.

Rhoi argraff gadarnhaol
i gwsmeriaid ohonoch chi eich hun a’ch sefydliad

Rhaid i’r dystiolaeth ar gyfer yr uned hon ddangos cymhwysedd cyson y dysgwr yn y gweithle.

Y gofynion sy’n berthnasol i’r uned hon yw’r gofynion a nodir yn nogfen y CfA, Strategaeth Asesu ar gyfer
Gwasanaeth i Gwsmeriaid, S/NVQs ar Lefelau 1, 2, 3 a 4. Gorffennaf 2010.

http://www.skillscfa.org/images/pdfs/Assessment%20Strategy/Customer%20Service/2010/Customer%20Service%20-%20Assessment%20Strategy.pdf

Lle bo modd, dylai’r dystiolaeth fod yn seiliedig ar swydd go iawn, boed honno’n un cyfl ogedig neu wirfoddol ac, wrth ddelio â chwsmeriaid go iawn, a ydynt yn staff mewnol neu yn bobl allanol. Ond, ar gyfer yr uned hon, caniateir tystiolaeth sy’n seiliedig ar amgylchedd gweithio realistig neu leoliad gwaith

Ni chaniateir efelychiad ar gyfer tystiolaeth o berfformiad yn yr uned hon.

Gall y cyfathrebu â chwsmeriaid fod yn gyfathrebu wyneb yn wyneb, yn ysgrifenedig, dros y ffôn, neges testun, e-bost, rhyngrwyd (gan gynnwys rhwydweithio cymdeithasol), mewnrwyd neu unrhyw ddull arall y byddai disgwyl ichi ei ddefnyddio yn eich rôl waith.

Rhaid i’r dysgwr ddarparu tystiolaeth o greu perthynas gadarnhaol â chwsmeriaid:

  • Wrth ddarparu gwasanaeth arferol i gwsmeriaid
  • Yn ystod cyfnod prysur yn eich swydd
  • Yn ystod cyfnod tawel yn eich swydd
  • Pan fydd pobl, systemau neu adnoddau wedi’ch gadael i lawr

Rhaid i’r dysgwr ddarparu tystiolaeth ei fod yn cyfathrebu’n effeithiol drwy:

  • Ddefnyddio iaith lafar neu ysgrifenedig briodol
  • Defnyddio’r confensiynau a’r rheolau sy’n briodol i’r dulliau cyfathrebu rydych wedi’u dewis.

Maint
LefelDyfarniadDyfarniad EstynedigTystysgrifTystysgrif EstynedigDiploma
Dau 30

(Isafswm credydau ar y lefel honno neu uwch) [Isafswm credydau ar y lefel honno neu uwch]

Unedau

Agored Cymru Lefel 2 NVQ mewn Arwain Gweithgareddau

Credydau ei hangen ar i gyd: 30
Credydau ei hangen ar i gyd: 25
Mwyaf o gredydau: 25
Credydau ei hangen ar i gyd: 5

Cydnabod Dysgu Blaenorol (RPL)

Dull asesu sy’n arwain at ddyfarnu credyd yw Cydnabod Dysgu Blaenorol. Mae’n rhaid i aseswyr ystyried a yw Cydnabod Dysgu Blaenorol yn berthnasol i unrhyw ddysgwyr.  Dull asesu yw hwn sy’n ystyried a all dysgwyr ddangos eu bod yn bodloni gofynion asesu uned / rhan o uned a / neu gymhwyster drwy wybodaeth, dealltwriaeth neu sgiliau sydd ganddynt eisoes ac felly nad oes angen iddynt eu datblygu drwy ddilyn cwrs dysgu.

Cliciwch yma i weld y polisi Cydnabod Dysgu Blaenorol am arweiniad pellach.

Prosesau Sicrhau Ansawdd

Cofrestru

Rhaid i ganolfannau gofrestru pob dysgwr yn brydlon, mewn ffordd amserol, sy’n briodol i hyd dyddiad dechrau’r cwrs. I gael arweiniad ar gofrestru dysgwyr, cliciwch yma.

Cyflwyno ac Asesu

Cyflwyno

Rhaid i ganolfannau sicrhau bod cymwysterau'n cael eu cyflwyno mewn modd effeithlon ac effeithiol. Nodwedd hanfodol o ran cyflwyno'n effeithiol yw cynllunio cyrsiau yn drylwyr ac yn fanwl. Mae'n rhaid i ganolfannau allu dangos bod ganddyn nhw broses fewnol gadarn ar gyfer dylunio, datblygu a chyflwyno cyrsiau cydlynol.

Un o nodweddion allweddol nifer o'n cymwysterau yw'r hyblygrwydd maen nhw'n ei gynnig i ganolfannau eu rhoi yn eu cyd-destun i fodloni anghenion penodol eu dysgwyr. Mae'r hyblygrwydd hwn yn hyrwyddo ymgysylltiad cadarn â dysgwyr, a phrofiadau dysgu ystyrlon.

Dylai canolfannau sicrhau bod cynlluniau gwaith a chynlluniau gwersi manwl ar waith sy'n ystyried pob agwedd ar fanyleb y cymhwyster. Dylai'r rhain gynnwys manylion y strategaethau a'r adnoddau sy'n angenrheidiol ar gyfer addysgu, ac asesiadau sy'n bodloni anghenion dysgwyr.

Mae'n rhaid i ddulliau addysgu a dysgu fod yn gyson â chyd-destun, lefel ac amodau'r cymhwyster, ac mae'n rhaid iddyn nhw gael eu dylunio i gynnwys, ysgogi a chymell dysgwyr.

Asesu

Mae'n rhaid i asesiadau sydd wedi cael eu creu gan ganolfannau fodloni manyleb y cymhwyster. Mae'n rhaid i asesiadau alluogi'r asesydd i wahaniaethu'n gywir ac yn gyson rhwng y lefelau cyrhaeddiad mae'r dysgwyr wedi'u dangos. Dim ond deunydd sydd wedi dod o'r wybodaeth, y sgiliau a'r ddealltwriaeth yn y fanyleb sydd i'w gynnwys yn yr asesiad, ac mae'n rhaid i lefel y galw fod yn gyson.

Mae'n rhaid i asesiad wneud y canlynol:

  • sicrhau ei fod yn bosib i ddysgwyr ddangos i ba raddau mae ganddyn nhw'r wybodaeth, y sgiliau a'r ddealltwriaeth sy'n angenrheidiol ar gyfer y cymhwyster
  • galluogi i ddysgwr sy'n meddu ar yr wybodaeth, y sgiliau a'r ddealltwriaeth angenrheidiol gyrraedd y lefel cyrhaeddiad sydd wedi'i nodi
  • bod yn addas i'r diben, yn ddilys ac yn briodol i'r wybodaeth, y sgiliau a'r ddealltwriaeth sy'n cael eu mesur
  • gwahaniaethu'n effeithiol rhwng dysgwyr (ar sail yr wybodaeth, y sgiliau a'r ddealltwriaeth sy'n cael eu hasesu)
  • mesur yr wybodaeth, y sgiliau a'r ddealltwriaeth y maent i fod i'w mesur yn gywir

Mae'n ofynnol i ganolfannau sicrhau bod yr asesiadau sydd wedi cael eu creu gan ganolfannau yn cael eu hadolygu, a'u diwygio os oes angen, i sicrhau eu bod yn parhau i fod yn addas i'r diben, er enghraifft, drwy adlewyrchu gofynion, arfer da neu ddeddfwriaeth newydd.

Bydd rhai cymwysterau a'u hunedau yn rhagnodi'r dulliau asesu sydd i'w defnyddio. Bydd y dulliau hyn wedi'u nodi mewn unedau unigol

Lle nad yw'r dulliau wedi cael eu rhagnodi, dylai canolfannau ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau asesu i asesu dysgwyr gan y bydd hyn yn galluogi dysgwyr i ddangos eu gwybodaeth a/neu eu cymhwysedd. Y peth pwysicaf yw bod y dulliau asesu yn briodol ar gyfer y canlyniad a fwriedir.

Mae'n rhaid i ganolfannau gadw at ofynion asesu Agored Cymru wrth ddarparu cymwysterau, uned neu unedau.

I gael arweiniad ar asesu, cyfeiriwch at Canllawiau ar Asesu Agored Cymru.

Mae’n rhaid i aseswyr:

  • fod â phrofiad cyfredol a/neu berthnasol ym maes asesu;
  • fod wedi ymgymryd â hyfforddiant perthnasol os yn newydd i asesu (gweler y wefan ar gyfer cyrsiau Cyflwyniad i Asesu Agored Cymru);
  • fod â gwybodaeth dda am ofynion asesu Agored Cymru a dealltwriaeth dda ohonynt;
  • fod yn gyfarwydd â lefel y cymhwyster a'i uned(au);
  • fod â gwybodaeth dda am y pwnc a dealltwriaeth a/neu brofiad o'r uned(au)/cymhwyster neu gymwysterau sy'n cael eu hasesu.

Oni nodir hynny yng nghanllawiau’r cymhwyster neu ym manyleb yr uned, ar hyn o bryd nid oes yn rhaid i aseswyr gael cymhwyster asesu ffurfiol* i asesu unedau a / neu gymwysterau Agored Cymru. Er hynny, mae Agored Cymru yn argymell yn gryf bod aseswyr yn gweithio tuag at ennill achrediad ffurfiol (e.e. Tystysgrif Lefel 3 mewn Asesu Cyrhaeddiad Galwedigaethol).  Hefyd, mae Agored Cymru yn argymell yn gryf bod aseswyr yn mynychu hyfforddiant Cyflwyniad i Asesu Agored Cymru.

Gofynion Penodol o ran Aseswyr

Asesir yr holl unedau yn y cymhwyster hwn drwy bortffolio. Rhaid i’r dystiolaeth ar gyfer y cymhwyster hwn ddangos perfformiad cyson y dysgwr yn y gweithle.

(Noder: Strategaeth Asesu’r CFA ar gyfer Gwasanaeth i Gwsmeriaid - uned 18 yn unig) http://www.skillscfa.org/images/pdfs/Assessment%20Strategy/Customer%20Service/2010/Customer%20Service%20-%20Assessment%20Strategy.pdf )

Mae rhagor o arweiniad ar gyfer pob uned ar gael yn y canllawiau asesu sy’n berthnasol i bob uned. Rhaid i’r holl Feini Prawf Asesu gael eu cyfl awni ymhob uned berthnasol er mwyn ennill y cymhwyster hwn. Rhaid i holl feini prawf asesu’r unedau a ddewisir gael eu cyflawni.

Sicrhau Ansawdd Mewnol

Mae’n rhaid i ganolfannau weithredu a chynnal system sicrhau ansawdd mewnol effeithiol. Mae dilysu mewnol yn rhan hanfodol o system sicrhau ansawdd, yn arbennig os nad oes asesiad cyfunol (diwedd cwrs) allanol fel arholiad neu brawf ar-lein ar gael.

Nid yw Agored Cymru yn gorfodi proses ddilysu mewnol benodol ar ganolfannau, ond disgwylir i ganolfannau roi gwiriadau dilysu mewnol effeithiol ar waith i gadarnhau bod y broses asesu (h.y. o’r gwaith cynllunio cyn y cwrs i ddyfarnu credyd) yn addas ar gyfer y diben ac yn cael ei gweithredu’n gywir, yn deg ac yn gyson ac i'r safon a fynnir. 

Mae’n rhaid i ganolfannau gadw at ofynion sicrhau ansawdd Agored Cymru wrth ddilysu unrhyw uned(au) o gymwysterau yn fewnol.

Mae'n rhaid i swyddogion sicrhau ansawdd mewnol:

  • fod â phrofiad cyfredol a/neu berthnasol ym maes asesu a dilysu mewnol;
  • fod wedi ymgymryd â hyfforddiant perthnasol os yn newydd i sicrhau ansawdd mewnol (gweler y wefan ar gyfer cyrsiau Cyflwyniad i Ddilysu Mewnol Agored Cymru);
  • fod â gwybodaeth dda am ofynion dilysu mewnol Agored Cymru a dealltwriaeth dda ohonynt.
  • fod â gwybodaeth a dealltwriaeth dda o unedau a chymwysterau Agored Cymru yn y sector maent wedi’i ddewis. 
  • fod yn gyfarwydd â lefel yr uned(au) / y cymhwyster neu'r cymwysterau sy’n cael eu darparu;

Oni nodir hynny yng nghanllawiau’r cymhwyster neu ym meini prawf yr uned*, ar hyn o bryd nid oes yn rhaid i ddilyswyr mewnol gael cymhwyster dilysu mewnol ffurfiol i ddilysu unedau a / neu gymwysterau Agored Cymru yn fewnol.  Ond, mae Agored Cymru yn argymell yn gryf bod dilyswyr mewnol yn gweithio tuag at achrediad ffurfiol (e.e Agored Cymru - Tystysgrif Lefel 4 mewn Arwain y gwaith o Sicrhau Ansawdd Mewnol Arferion a Phrosesau Asesu). Hefyd, mae Agored Cymru yn argymell yn gryf bod aseswyr yn mynychu hyfforddiant Cyflwyniad i Asesu Agored Cymru. Mae'r dyddiadau y cynhelir digwyddiadau hyfforddi wedi'u nodi yma.

Ni chaiff dilyswyr mewnol ddilysu eu deunyddiau asesu eu hunain yn fewnol, eu tasgau na’u penderfyniadau asesu.   Felly, mae Agored Cymru yn argymell bod sgiliau dilysu mewnol y tîm cyfan yn cael eu datblygu.  Mae hyn yn rhoi mwy o hyblygrwydd i'r ganolfan ac yn osgoi dibynnu gormod ar unrhyw berson unigol.

* Mae rhai gofynion penodol yn berthnasol i rai cymwysterau ac y mae’n rhaid eu bodloni er mwyn i diwtoriaid / aseswyr allu darparu ac asesu'r cymhwyster.Edrychwch ar y canllawiau sy’n berthnasol i'r cymhwyster i gadarnhau bod eich tiwtoriaid / aseswyr yn gallu bodloni'r gofynion hyn.Mewn rhai achosion, rhaid rhoi tystiolaeth o brofiad / cymhwyster y tiwtor / aseswr i Agored Cymru cyn darparu'r cymhwyster.

Mae’n rhaid i ganolfannau gadw at ofynion asesu Agored Cymru wrth ddarparu cymwysterau, neu unrhyw uned/unedau sy’n rhan o gymwysterau.

I gael canllawiau ar ddilysu mewnol edrychwch ar Canllawiau ar Ddilysu Mewnol  Agored Cymru.

Craffu ar Safonau Asesu Canolfannau (CASS)

Mae’r dull hwn yn rhan o strategaeth CASS Agored Cymru sy’n sicrhau bod digon o reolaethau ar waith pan fydd asesiad yn cael ei farcio gan ganolfan (Amod H2).

Mae Agored Cymru yn gosod ei holl gymwysterau mewn ‘bandiau risg’. Mae bandiau risg cymwysterau yn bwydo i mewn i’r system rheoli risg, sy’n cael ei ‘bwysoli’ yn unol â hynny.

Wrth bennu band risg ar gyfer cymhwyster, mae Agored Cymru yn ystyried y canlynol:

  • lluniad pob cymhwyster
  • unrhyw safonau proffesiynol sy’n berthnasol i’r cymhwyster
  • unrhyw dystiolaeth sy’n gysylltiedig â’r sector a/neu’r cymhwyster sy’n awgrymu y gallai fod angen dull gweithredu CASS penodol.

Agored Cymru sy’n penderfynu ar y dull mwyaf priodol o weithredu CASS ar gyfer pob un o’i gymwysterau er mwyn sicrhau bod y gofynion sylfaenol rheoleiddiol yn cael eu bodloni’n llawn. Bydd pob canolfan sy’n cynnig ac yn asesu cymwysterau Agored Cymru yn cael Adolygiad Blynyddol o Ganolfannau.

Agored Cymru is confident that this will give additional assurance to sector specific bodies and protect the integrity of the qualification(s), creating better outcomes for learners.

Addasiadau Rhesymol i’r Broses Asesu ac Ystyriaethau Arbennig ar Gyfer Asesiad

Efallai y bydd angen newid asesiad er mwyn addasu ar gyfer anghenion dysgwr unigol neu grŵp bach o ddysgwyr. Gall hyn fod er mwyn ymateb i anabledd neu anhawster sydd gan y dysgwr sy'n golygu bod y dysgwr dan anfantais sylweddol yn y broses asesu.   Ni ddylai addasiadau rhesymol i’r broses asesu effeithio ar natur ddarllenadwy na dilysrwydd canlyniadau'r asesiad a rhaid iddynt fod mor drylwyr â'r dulliau asesu a ddefnyddir ar gyfer dysgwyr eraill.   Rhaid cofnodi pob asesiad rhesymol a chael sêl bendith y dilysydd mewnol cyn ei ddefnyddio. 

Mewn rhai achosion efallai y bydd angen ystyried defnyddio ystyriaethau arbennig wrth wneud addasiadau ar gyfer dysgwr neu grŵp o ddysgwyr fel rhan o'r broses asesu.  Gellir gwneud hyn os bydd amgylchiadau sydd y tu hwnt i reolaeth y dysgwr yn effeithio ar ei berfformiad mewn asesiad e.e. salwch personol diweddar, damwain, profedigaeth, tarfu difrifol yn ystod yr asesiad neu os bydd y dysgwr wedi methu cyflawni rhan o'r asesiad oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i'w reolaeth.  Rhaid cofnodi unrhyw ystyriaethau arbennig a rhaid i'r dilysydd mewnol eu cymeradwyo cyn eu defnyddio.

Mae’n rhaid i aseswyr gofio na ddylai addasiadau rhesymol a / neu ystyriaethau arbennig roi mantais annheg i'r dysgwr. Mae’n rhaid i ganlyniad y dysgwr adlewyrchu ei gyrhaeddiad yn yr asesiad ac nid, o reidrwydd, ei gyrhaeddiad posib.

I gael arweiniad pellach ar y mathau o addasiadau rhesymol a / neu ystyriaethau arbennig y gellir eu defnyddio a'r broses sydd i'w dilyn, edrychwch ar Bolisi Addasiadau Rhesymol i Broses Asesu Agored Cymru a Pholisi Ystyriaethau Arbennig ar gyfer Asesu Agored Cymru. 

Cadw Deunyddiau Asesu

Mae’n rhaid i ganolfannau gadw'r holl dystiolaeth sy’n berthnasol i ddysgwyr a’u cofnodion asesu yn ddiogel er mwyn sicrhau eu bod ar gael ar gyfer digwyddiadau sicrhau ansawdd allanol a digwyddiadau safoni rhanbarthol.  Mae cofnodion asesu diweddar sy’n cael eu cadw'n ddiogel hefyd yn helpu i leddfu ar y risg o gamymarfer wrth asesu, neu broblemau a allai godi os bydd yr aseswr yn gadael yn ystod y cwrs.  

Mae’n rhaid i ganolfannau wneud y canlynol:

a) cadw cofnodion asesu yn ddiogel;

b) cadw cofnodion am gyrhaeddiad dysgwr sy’n gyfoes, sy'n cael eu hadolygu yn rheolaidd ac sydd wedi’u tracio’n gywir;

c) sicrhau bod yr holl dystiolaeth ddiweddaraf am ddysgwyr ar gael ar gyfer sicrhau ansawdd allanol;

Yn ogystal, yn unol â gofynion Agored Cymru a gofynion rheoleiddio, mae’n rhaid i Ganolfannau gadw digon o dystiolaeth am waith dysgwyr, penderfyniadau asesu a chofnodion dilysu mewnol i alluogi monitro safonau dros gyfnod o amser. I gael arweiniad pellach, edrychwch ar Polisi Cadw Deunyddiau AsesuAgored Cymru.

Safoni

Fel canolfan gydnabyddedig Agored Cymru, disgwylir i chi fynychu gweithdai Safoni. Mae'r gweithdai yn cynnig cyfle i chi gwrdd â chydweithwyr proffesiynol ym maes asesu a sicrhau ansawdd gyda'r nod o ddatblygu dealltwriaeth ar y cyd o safonau Agored Cymru ac i rannu arbenigedd ac ymarfer blaenllaw.

Mae’r gweithdai safoni yn sesiynau rhyngweithiol a chefnogol lle byddwch yn edrych ar enghreifftiau o ddefnyddiau asesu a thystiolaeth dysgwyr ac yn gwneud penderfyniadau ynglŷn â’r canlynol:

  • a yw'r deunyddiau asesu'n ddilys ac yn addas ar gyfer y diben;
  • a yw tystiolaeth y dysgwr yn ddilys, yn ddibynadwy ac yn ddigonol;
  • a yw'r arferion asesu a’r broses sicrwydd ansawdd mewnol yn effeithiol ac yn deg;
  • a yw safonau yn gyson ar draws canolfannau;
  • a oes modd cymharu safonau dros gyfnod o amser;
  • a yw'r sampl yn cynnwys unrhyw arferion blaenllaw.

I gael y wybodaeth ddiweddaraf am weithdai safoni Agored Cymru, edrychwch ar ein gwefan, sef http://www.agored.cymru/Digwyddiadau/Safoni

Ardystio

Bydd Tystysgrifau ar gael o fewn Safonau Gwasanaeth.

Diwygiadau