Sgiliau Byw’n Annibynnol

Canllaw Cymhwyster

  • Agored Cymru Dyfarniad Lefel Mynediad mewn Sgiliau Byw'n Annibynnol (Mynediad 1) (C00/1252/2) L
  • Agored Cymru Tystysgrif Lefel Mynediad mewn Sgiliau Byw'n annibynnol (Mynediad 1) (C00/1252/3) L
  • Agored Cymru Diploma Lefel Mynediad mewn Sgiliau Byw'n Annibynnol (Mynediad 1) (C00/1252/4) L
  • Agored Cymru Dyfarniad Lefel Mynediad mewn Sgiliau Byw'n Annibynnol (Mynediad 2) (C00/1251/6) L
  • Agored Cymru Tystysgrif Lefel Mynediad mewn Sgiliau Byw'n annibynnol (Mynediad 2) (C00/1251/7) L
  • Agored Cymru Diploma Lefel Mynediad mewn Sgiliau Byw'n Annibynnol (Mynediad 2) (C00/1251/8) L
  • Agored Cymru Dyfarniad Lefel Mynediad mewn Sgiliau Byw'n Annibynnol (Mynediad 3) (C00/1251/9) L
  • Agored Cymru Tystysgrif Lefel Mynediad mewn Sgiliau Byw'n Annibynnol (Mynediad 3) (C00/1252/0) L
  • Agored Cymru Diploma Lefel Mynediad mewn Sgiliau Byw'n Annibynnol (Mynediad 3) (C00/1252/1) L

Agored Cymru

Agored Cymru yw corff dyfarnu cymwysterau yng Nghymru sy'n arbenigo mewn diwallu anghenion amrywiol dysgwyr, cyflogwyr a chymunedau.

Rydym yn bodoli er mwyn cynnig darpariaeth hyblyg ac ymatebol i helpu dysgwyr o bob oedran a lefel i gyflawni eu potensial.

Mae ein hunedau a’n cymwysterau i gyd yn seiliedig ar gredydau ac yn ddigon hyblyg i ddiwallu anghenion dysgwyr mewn unrhyw sefyllfa - o ysgolion i sefydliadau AB ac o ddysgu troseddwyr i hyfforddiant yn y gweithle.

Gyda dros 20 mlynedd o brofiad o gynllunio dysgu cynhwysol, mae ein tîm o arbenigwyr yn cynnig cymorth i ddatblygu cwricwlwm gyda sicrwydd ansawdd sydd ar gael i bawb.

Fel elusen a menter gymdeithasol rydym yn cydweithio â phartneriaid i sicrhau bod dysgu'n cael yr effaith orau bosib o ran diwallu anghenion amrywiol cymunedau a chyflogwyr yng Nghymru.

Gan ein bod yn gweithio yng Nghymru yn unig, rydym mewn sefyllfa ddelfrydol i ymateb i ofynion ein dysgwyr a’n canolfannau. Mae ein cymwysterau wedi’u cynllunio’n bwrpasol i fodloni anghenion a blaenoriaethau unigolion, cymunedau a chyflogwyr a nodau Cymru fodern.

Rydym yn gweithio er budd Cymru, mae ein tîm ymroddedig o arbenigwyr wedi ymrwymo i hybu’r iaith Gymraeg drwy annog asesu drwy gyfrwng y Gymraeg.

Rydym yn cynnig y cyfle i’n canolfannau cydnabyddedig ddarparu dysgu gydol oes effeithiol, ehangu cyfleoedd a hwyluso dilyniant a datblygiad o fewn y fframweithiau hyfforddi ac addysg presennol.

Bob amser, rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth ymatebol o safon uchel i’n canolfannau a’n dysgwyr i gyd.

Mae Cymwysterau Agored Cymru:

  • ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg, gan gynnwys yr ardystiad;
  • yn caniatáu achredu unedau sy’n rhan o’r cymhwyster fel cydnabyddiaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus (DPP) heb orfod ennill y cymhwyster llawn;
  • yn diwallu anghenion dysgwyr yng Nghymru drwy greu cymwysterau sy'n ymateb yn uniongyrchol i’r agenda Gymreig;
  • yn cynnig darpariaeth hyblyg ac ymatebol amrywiol er mwyn helpu dysgwyr i gyflawni eu potensial;
  • wedi’u cynllunio i fod yn addas i anghenion a blaenoriaethau unigolion, cymunedau, cyflogwyr a nodau cenedlaethol Cymru fodern;

Trosolwg o’r Cymhwyster

Cafodd y gyfres o gymwysterau Agored Cymru mewn Sgiliau Byw’n Annibynnol eu dylunio i roi’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen ar y dysgwr i weithio’n annibynnol, neu gyda chyn lleied o gefnogaeth â phosibl, gartref ac yn y gymuned. Mae’r cymhwyster yn ymdrin â diogelwch personol, rheoli tasgau’r cartref ac yn galluogi’r dysgwr i wneud dewisiadau gwybodus mewn sefyllfaoedd bob dydd.

Mae’r cymwysterau ar gael ar lefel mynediad 1, lefel mynediad 2 a lefel mynediad 3, ond mae cyfle i ddysgwr ddewis unedau ar wahanol lefelau mewn un cymhwyster, gan sicrhau ei fod yn cael ei herio’n briodol i gyflawni ei botensial llawn.

Nid oes unedau gorfodol yn y cymwysterau hyn felly mae gan ddysgwyr y rhyddid i ddewis yr unedau sydd fwyaf priodol ar gyfer eu hanghenion.

Agored Cymru Dyfarniad Lefel Mynediad mewn Sgiliau Byw’n Annibynnol (Mynediad 1)

Agored Cymru Dyfarniad Lefel Mynediad mewn Sgiliau Byw’n Annibynnol (Mynediad 2)

Agored Cymru Dyfarniad Lefel Mynediad mewn Sgiliau Byw’n Annibynnol (Mynediad 3)

TQT/GLH - 60

Agored Cymru Tystysgrif Lefel Mynediad mewn Sgiliau Byw’n Annibynnol (Mynediad 1)

Agored Cymru Tystysgrif Lefel Mynediad mewn Sgiliau Byw’n Annibynnol (Mynediad 2)

Agored Cymru Tystysgrif Lefel Mynediad mewn Sgiliau Byw’n Annibynnol (Mynediad 3)

TQT/GLH - 160

Agored Cymru Diploma Lefel Mynediad mewn Sgiliau Byw’n Annibynnol (Mynediad 1)

Agored Cymru Diploma Lefel Mynediad mewn Sgiliau Byw’n Annibynnol (Mynediad 2)

Agored Cymru Diploma Lefel Mynediad mewn Sgiliau Byw’n Annibynnol (Mynediad 3)

TQT/GLH – 370

Gofynion Mynediad

Nid oed gofynion mynediad penodol ar gyfer y cymwysterau hyn.

 

Iaith y Ddarpariaeth

Mae’r cymhwyster hwn ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg i ddechrau. Os oes angen y cymhwyster hwn arnoch mewn iaith arall, cysylltwch ag un o Reolwyr Canolfannau Agored Cymru.

Canolfannau Cydnabyddedig

Os ydych chi eisoes yn un o ganolfannau cydnabyddedig Agored Cymru ac yr hoffech gael rhagor o wybodaeth am gynnig y cymwysterau hyn, cysylltwch â’ch Rheolwr Canolfan.

Mae’n rhaid ichi ychwanegu unedau o'r cymhwyster at eich fframwaith - gallwch wneud hyn drwy fynd i wefan Agored Cymru.  I gael canllawiau ar sut i ychwanegu unedau / cymwysterau at eich fframwaith, cliciwch yma.

Canolfannau Newydd

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn cynnig y cymhwyster hwn, ond heb fod yn un o ganolfannau cydnabyddedig Agored Cymru ar hyn o bryd, cysylltwch ag un o’n Rheolwyr Canolfannau i gael arweiniad ar sut i ddod yn ganolfan gydnabyddedig Agored Cymru.

Cynnig y Cymhwyster

Mae’r cymhwyster hwn ar gael i ganolfannau cydnabyddedig Agored Cymru. Os hoffech ddysgu mwy naill ai am ddod yn ganolfan gydnabyddedig neu am weithio mewn partneriaeth â chanolfan gydnabyddedig, ewch i’r rhan 'Canolfan' ar y wefan neu cysylltwch â Rheolwr Canolfan i gael rhagor o wybodaeth.

Cyfrifoldeb y ganolfan yw rhoi systemau ar waith i sicrhau mai’r person sydd wedi cofrestru ar gymhwyster neu uned ac sy’n cwblhau asesiad yw’r person hwnnw mewn gwirionedd.  Mae’n ofynnol i bob canolfan felly sicrhau bod manylion adnabod pob dysgwr yn cael eu cadarnhau cyn iddynt gyflawni’r cymhwyster, uned ac asesiad.  Mae Agored Cymru yn argymell y canlynol i brofi manylion adnabod dysgwr:

  • pasbort dilys (unrhyw genedligrwydd)
  • trwydded yrru cerdyn-llun y DU wedi’i llofnodi
  • cerdyn gwarant dilys wedi’i gyhoeddi gan luoedd EM neu'r heddlu
  • cerdyn adnabod arall â llun arno e.e. cerdyn adnabod gweithiwr, cerdyn adnabod myfyriwr, cerdyn teithio ac ati

Os na all dysgwr ddangos unrhyw un o’r dulliau adnabod ffotograffig uchod, gall canolfan dderbyn math arall o ddull adnabod sy’n cynnwys llofnod, er enghraifft, cerdyn credyd. Gallai dderbyn cadarnhad gan gynrychiolydd trydydd parti, fel rheolwr llinell, rheolwr adnoddau dynol neu oruchwyliwr arholiadau hefyd.   

Cyfleoedd Datblygu

Cyfleoedd Datblygu ar gyfer Mynediad 1 Sgiliau Byw’n Annibynnol:

  • Mynediad 2 Sgiliau Byw’n Annibynnol
  • Mynediad 1 a Mynediad 2 Sgiliau Hanfodol ar Gyfer Bywyd a Gwaith
  • Mynediad 2 Cymwysterau Archwilio
  • Mynediad 2 Addysg Gysylltiedig â Gwaith
  • Mynediad 2 Addysg Bersonol a Chymdeithasol

Cyfleoedd Datblygu ar gyfer Mynediad 2 Sgiliau Byw’n Annibynnol:

  • Mynediad 3 Sgiliau Byw’n Annibynnol
  • Mynediad 2 a Mynediad 3 Sgiliau Hanfodol ar Gyfer Bywyd a Gwaith
  • Mynediad 2 Cymwysterau Archwilio
  • Mynediad 3 Addysg Gysylltiedig â Gwaith
  • Mynediad 3 Addysg Bersonol a Chymdeithasol

Cyfleoedd Datblygu ar gyfer Mynediad 3 Sgiliau Byw’n Annibynnol:

  • Mynediad 2 a Mynediad 3 Sgiliau Hanfodol ar Gyfer Bywyd a Gwaith
  • Mynediad 2 Cymwysterau Archwilio
  • Lefel 1 Addysg Gysylltiedig â Gwaith
  • Lefel 1 Addysg Bersonol a Chymdeithasol

Gwreiddio Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang (ADCDF)

Mae Agored Cymru wedi ymrwymo i wreiddio ADCDF mewn gweithgareddau dysgu yng Nghymru. Mae ADCDF yn arddel bod gweithgareddau pawb yn gysylltiedig â’i gilydd; bod penderfyniadau a ffordd o fyw dysgwyr yn effeithio ar fywydau pobl eraill ledled y byd.  

Mae integreiddio ADCDF yn y cwricwlwm yn cynnig cyfleoedd i ymarferwyr Dysgu a Datblygu gyflwyno barn ddiduedd ac ymarferol sy'n golygu bod modd i ddysgwyr wneud penderfyniadau gwybodus.   Nid ‘pwnc ychwanegol’ yw ADCDF; dylid ei integreiddio yn holl feysydd y cwricwlwm lle bynnag y bo modd. 

Mae ADCDF yn cynnwys saith thema allweddol sy’n gysylltiedig â’i gilydd:  mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru

Mae awgrym ynghylch y cyfle sydd ym mhob uned i wreiddio amrywiol themâu ADCDF wedi'i gynnwys yn yr uned. Cofiwch mai canllaw yn unig yw hwn – nid ei fwriad yw cyfyngu ar y ffyrdd y gellir ymgorffori ADCDF. 

Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol (SGC) a Safonau Eraill

Nid oed SGC ar gyfer y cymwysterau hyn.

Cyllid a Ffioedd

Mae gwybodaeth gyfredol am gyllid ar gael ar wefan Cymwysterau yng Nghymru (QiW)

I gael rhagor o wybodaeth am ffioedd gostyngol a chymelliadau, cysylltwch ag un o’n Rheolwyr Canolfan.

Cynnwys y Cymhwyster

Strwythur a Chynnwys

Mae’r cymwysterau Sgiliau Byw’n Annibynnol ar gael ar lefel dyfarniad (6 credyd), tystysgrif (16 credyd) a diploma (37 credyd) ar lefel mynediad 1, mynediad 2 a mynediad 3.

Mae dysgwyr yn gallu dewis unedau ar draws y tair lefel. Mae’r cyfuniadau a ganiateir yn cael eu crynhoi yn y tablau isod:

Mynediad 1 Sgiliau Byw’n Annibynnol

Maint Cymhwyster

Credydau Mynediad 1

Credydau Mynediad 2

Credydau Mynediad 3

Dyfarniad

O leiaf 6 credyd

0

0

Tystysgrif

O leiaf 12 credyd

Uchafswm o 6 credyd

0

Diploma

O leiaf 28 credyd

Uchafswm o 9 credyd

0

Mynediad 2 Sgiliau Byw’n Annibynnol

Maint Cymhwyster

Credydau Mynediad 1

Credydau Mynediad 2

Credydau Mynediad 3

Dyfarniad

0

O leiaf 6 credyd

0

Tystysgrif

Uchafswm o 4 credyd

O leiaf 12 credyd

Uchafswm o 4 credyd

Diploma

Uchafswm o 9 credyd

O leiaf 28 credyd

Uchafswm o 9 credyd

Mynediad 3 Sgiliau Byw’n Annibynnol

Maint Cymhwyster

Credydau Mynediad 1

Credydau Mynediad 2

Credydau Mynediad 3

Dyfarniad

0

0

O leiaf 6 credyd

Tystysgrif

0

Uchafswm o 4 credyd

O leiaf 12 credyd

Diploma

0

Uchafswm o 9 credyd

O leiaf 28 credyd

 


Maint
LefelDyfarniadDyfarniad EstynedigTystysgrifTystysgrif EstynedigDiploma
Mynediad Un 6 (6)16 (12)37 (28)
Mynediad Dau 6 (6)16 (12)37 (28)
Mynediad Tri 6 (6)16 (12)37 (28)

(Isafswm credydau ar y lefel honno neu uwch) [Isafswm credydau ar y lefel honno neu uwch]

Unedau

Agored Cymru Dyfarniad Lefel Mynediad mewn Sgiliau Byw'n Annibynnol (Mynediad 1)

Credydau ei hangen ar i gyd: 6
Credydau ei hangen ar Mynediad Un:6
Mwyaf o gredydau ar Mynediad Un:6

Agored Cymru Tystysgrif Lefel Mynediad mewn Sgiliau Byw'n annibynnol (Mynediad 1)

Credydau ei hangen ar i gyd: 16
Credydau ei hangen ar Mynediad Un:12

Agored Cymru Diploma Lefel Mynediad mewn Sgiliau Byw'n Annibynnol (Mynediad 1)

Credydau ei hangen ar i gyd: 37
Credydau ei hangen ar Mynediad Un:28

Agored Cymru Dyfarniad Lefel Mynediad mewn Sgiliau Byw'n Annibynnol (Mynediad 2)

Credydau ei hangen ar i gyd: 6
Credydau ei hangen ar Mynediad Dau:6
Mwyaf o gredydau ar Mynediad Dau:6

Agored Cymru Tystysgrif Lefel Mynediad mewn Sgiliau Byw'n annibynnol (Mynediad 2)

Credydau ei hangen ar i gyd: 16
Credydau ei hangen ar Mynediad Dau:12

Agored Cymru Diploma Lefel Mynediad mewn Sgiliau Byw'n Annibynnol (Mynediad 2)

Credydau ei hangen ar i gyd: 37
Credydau ei hangen ar Mynediad Dau:28

Agored Cymru Dyfarniad Lefel Mynediad mewn Sgiliau Byw'n Annibynnol (Mynediad 3)

Credydau ei hangen ar i gyd: 6
Credydau ei hangen ar Mynediad Tri: 6

Agored Cymru Tystysgrif Lefel Mynediad mewn Sgiliau Byw'n Annibynnol (Mynediad 3)

Credydau ei hangen ar i gyd: 16
Credydau ei hangen ar Mynediad Tri: 12

Agored Cymru Diploma Lefel Mynediad mewn Sgiliau Byw'n Annibynnol (Mynediad 3)

Credydau ei hangen ar i gyd: 37
Credydau ei hangen ar Mynediad Tri: 28

Cyfuniadau Gwahardd

Mae pob rhes yn gyfuniad o wahardd, gellir dim ond un uned cyfrif tuag at gymhwyster
Gofal Personol a Hylendid (Lefel:Mynediad Un)
HB6E1CY002
M/600/6289
Gofal Personol a Hylendid (Lefel:Mynediad Dau)
HB6E2CY003
H/600/6290
Gofal Personol a Hylendid (Lefel:Mynediad Dau)
HB6E2CY003
H/600/6290
Hylendid Personol (Lefel:Mynediad Tri)
HD6E3CY014
Gofal Personol a Hylendid (Lefel:Mynediad Un)
HB6E1CY002
M/600/6289
Hylendid Personol (Lefel:Mynediad Tri)
HD6E3CY014
Ymwybyddiaeth o Gymuned (Lefel:Mynediad Dau)
HD6E2CY014
Ymwybyddiaeth o Gymuned (Lefel:Mynediad Tri)
HD6E3CY007
K/505/4363
Sgiliau Byw'n Annibynnol (Lefel:Mynediad Un)
HD6E1CY010
Sgiliau Byw'n Annibynnol (Lefel:Mynediad Dau)
HD6E2CY013
Sgiliau Byw'n Annibynnol (Lefel:Mynediad Dau)
HD6E2CY013
Sgiliau Byw'n Annibynnol (Lefel:Mynediad Tri)
HD6E3CY006
Sgiliau Byw'n Annibynnol (Lefel:Mynediad Un)
HD6E1CY010
Sgiliau Byw'n Annibynnol (Lefel:Mynediad Tri)
HD6E3CY006
Datblygiad Personol (Lefel:Mynediad Un)
HB1E1CY024
L/505/6185
Datblygiad Personol (Lefel:Mynediad Dau)
HB1E2CY024
T/505/4236
Datblygiad Personol (Lefel:Mynediad Dau)
HB1E2CY024
T/505/4236
Datblygiad Personol (Lefel:Mynediad Tri)
HB1E3CY023
T/505/4365
Datblygiad Personol (Lefel:Mynediad Tri)
HB1E3CY023
T/505/4365
Datblygiad Personol (Lefel:Mynediad Un)
HB1E1CY024
L/505/6185
Defnyddio Arian (Lefel:Mynediad Un)
HD4E1CY046
A/504/3478
Defnyddio Arian (Lefel:Mynediad Dau)
HD4E2CY035
L/504/3453
Defnyddio Arian (Lefel:Mynediad Dau)
HD4E2CY035
L/504/3453
Defnyddio Arian (Lefel:Mynediad Tri)
HD4E3CY050
M/504/3512
Defnyddio Arian (Lefel:Mynediad Tri)
HD4E3CY050
M/504/3512
Defnyddio Arian (Lefel:Mynediad Un)
HD4E1CY046
A/504/3478
Edrychiad Personol (Lefel:Mynediad Un)
HB1E1CY026
Edrychiad Personol (Lefel:Mynediad Dau)
HB1E2CY026
Siopa am Ddillad ac Esgidiau (Lefel:Mynediad Un)
HB1E1CY027
Siopa am Ddillad ac Esgidiau (Lefel:Mynediad Dau)
HB1E2CY027
Siopa am Ddillad ac Esgidiau (Lefel:Mynediad Dau)
HB1E2CY027
Siopa am Ddillad ac Esgidiau (Lefel:Mynediad Tri)
HB1E3CY025
Siopa am Ddillad ac Esgidiau (Lefel:Mynediad Tri)
HB1E3CY025
Siopa am Ddillad ac Esgidiau (Lefel:Mynediad Un)
HB1E1CY027
Sgiliau Byw'n Annibynnol: Golchi Llestri, Glanhau, Ysgubo a Mopio (Lefel:Mynediad Un)
HD6E1CY017
Sgiliau Byw'n Annibynnol: Golchi Llestri, Glanhau, Ysgubo a Mopio (Lefel:Mynediad Dau)
HD6E2CY020
Sgiliau Byw'n Annibynnol: Golchi Llestri, Glanhau, Ysgubo a Mopio (Lefel:Mynediad Dau)
HD6E2CY020
Sgiliau Byw'n Annibynnol: Golchi Llestri, Glanhau, Ysgubo a Mopio (Lefel:Mynediad Tri)
HD6E3CY016
Sgiliau Byw'n Annibynnol: Golchi Llestri, Glanhau, Ysgubo a Mopio (Lefel:Mynediad Tri)
HD6E3CY016
Sgiliau Byw'n Annibynnol: Golchi Llestri, Glanhau, Ysgubo a Mopio (Lefel:Mynediad Un)
HD6E1CY017
Diogelwch a Storio Bwyd (Lefel:Mynediad Un)
HB1E1CY036
A/505/4237
Storio Bwyd: Cadw Bwyd yn Ddiogel (Lefel:Mynediad Dau)
NE1E2CY004
F/506/6793
Storio Bwyd: Cadw Bwyd yn Ddiogel (Lefel:Mynediad Dau)
NE1E2CY004
F/506/6793
Storio Bwyd: Cadw Bwyd yn Ddiogel (Lefel:Mynediad Tri)
NE1E3CY004
D/506/6803
Diogelwch a Storio Bwyd (Lefel:Mynediad Un)
HB1E1CY036
A/505/4237
Storio Bwyd: Cadw Bwyd yn Ddiogel (Lefel:Mynediad Tri)
NE1E3CY004
D/506/6803
Sgiliau Teithio: Trafnidiaeth Gyhoeddus (Lefel:Mynediad Un)
HD6E1CY019
L/506/6778
Sgiliau Teithio: Trafnidiaeth Gyhoeddus (Lefel:Mynediad Dau)
HD6E2CY022
L/506/6781
Sgiliau Teithio: Trafnidiaeth Gyhoeddus (Lefel:Mynediad Dau)
HD6E2CY022
L/506/6781
Casglu Gwybodaeth fel bod modd Defnyddio Trafnidiaeth Gyhoeddus (Lefel:Mynediad Tri)
HD6E3WE001
Sgiliau Teithio: Trafnidiaeth Gyhoeddus (Lefel:Mynediad Dau)
HD6E2CY022
L/506/6781
Sgiliau Teithio: Trafnidiaeth Gyhoeddus (Lefel:Mynediad Tri)
HD6E3CY017
J/506/6858
Sgiliau Teithio: Trafnidiaeth Gyhoeddus (Lefel:Mynediad Un)
HD6E1CY019
L/506/6778
Casglu Gwybodaeth fel bod modd Defnyddio Trafnidiaeth Gyhoeddus (Lefel:Mynediad Tri)
HD6E3WE001
Sgiliau Teithio: Trafnidiaeth Gyhoeddus (Lefel:Mynediad Un)
HD6E1CY019
L/506/6778
Sgiliau Teithio: Trafnidiaeth Gyhoeddus (Lefel:Mynediad Tri)
HD6E3CY017
J/506/6858
Siopa am Fwyd ar gyfer Pryd (Lefel:Mynediad Un)
HD6E1CY021
A/506/6792
Siopa am Fwyd ar gyfer Pryd (Lefel:Mynediad Dau)
HD6E2CY024
H/506/6799
Siopa am Fwyd ar gyfer Pryd (Lefel:Mynediad Dau)
HD6E2CY024
H/506/6799
Siopa am Fwyd ar gyfer Pryd (Lefel:Mynediad Tri)
HD6E3CY009
Siopa am Fwyd ar gyfer Pryd (Lefel:Mynediad Tri)
HD6E3CY009
Siopa am Fwyd ar gyfer Pryd (Lefel:Mynediad Un)
HD6E1CY021
A/506/6792
Diogelwch ar y Ffyrdd (Lefel:Mynediad Un)
HD6E1CY018
J/506/6777
Diogelwch ar y Ffyrdd (Lefel:Mynediad Dau)
HD6E2CY021
J/506/6780
Hyrwyddo Byw’n Iach (Lefel:Mynediad Un)
HJ1E1CY010
F/506/6776
Hyrwyddo Byw’n Iach (Lefel:Mynediad Dau)
HJ1E2CY005
Paratoi Diodydd a Byrbrydau Oer (Lefel:Mynediad Un)
HD6E1CY020
T/506/6791
Paratoi Diodydd a Byrbrydau (Lefel:Mynediad Dau)
HD6E2CY023
D/506/6798
Paratoi Diodydd a Byrbrydau (Lefel:Mynediad Dau)
HD6E2CY023
D/506/6798
Paratoi Diodydd a Byrbrydau (Lefel:Mynediad Tri)
HD6E3CY010
Paratoi Diodydd a Byrbrydau (Lefel:Mynediad Tri)
HD6E3CY010
Paratoi Diodydd a Byrbrydau Oer (Lefel:Mynediad Un)
HD6E1CY020
T/506/6791
Ailgylchu ac Ailddefnyddio Deunyddiau (Lefel:Mynediad Un)
QE4E1CY009
Y/505/3368
Ailgylchu ac Ailddefnyddio Deunyddiau (Lefel:Mynediad Dau)
QE4E2CY009
T/505/3698
Ailgylchu ac Ailddefnyddio Deunyddiau (Lefel:Mynediad Tri)
QE4E3CY013
F/505/7625
Ailgylchu ac Ailddefnyddio Deunyddiau (Lefel:Mynediad Dau)
QE4E2CY009
T/505/3698
Ailgylchu ac Ailddefnyddio Deunyddiau (Lefel:Mynediad Tri)
QE4E3CY013
F/505/7625
Ailgylchu ac Ailddefnyddio Deunyddiau (Lefel:Mynediad Un)
QE4E1CY009
Y/505/3368
Defnyddio Amser (Lefel:Mynediad Dau)
HD4E2CY036
J/504/3466
Defnyddio Amser (Lefel:Mynediad Tri)
HD4E3CY051
Y/504/3536
Diogelwch Personol (Lefel:Mynediad Un)
HB5E1CY001
Diogelwch Personol (Lefel:Mynediad Dau)
HB5E2CY002
Diogelwch Personol (Lefel:Mynediad Dau)
HB5E2CY002
Diogelwch Personol (Lefel:Mynediad Tri)
HB5E3CY001
Diogelwch Personol (Lefel:Mynediad Un)
HB5E1CY001
Diogelwch Personol (Lefel:Mynediad Tri)
HB5E3CY001
Defnyddio Ffôn Symudol (Lefel:Mynediad Un)
HD2E1CY054
Defnyddio Ffôn Symudol (Lefel:Mynediad Dau)
HD2E2CY043
Defnyddio Ffôn Symudol (Lefel:Mynediad Dau)
HD2E2CY043
Defnyddio Ffôn Symudol (Lefel:Mynediad Tri)
HD2E3CY058
Defnyddio Ffôn Symudol (Lefel:Mynediad Un)
HD2E1CY054
Defnyddio Ffôn Symudol (Lefel:Mynediad Tri)
HD2E3CY058
Mynd Allan am Bryd o Fwyd (Lefel:Mynediad Un)
HD6E1CY023
Mynd Allan am Bryd o Fwyd (Lefel:Mynediad Dau)
HD6E2CY026
Mynd Allan am Bryd o Fwyd (Lefel:Mynediad Dau)
HD6E2CY026
Mynd Allan am Bryd o Fwyd (Lefel:Mynediad Tri)
HD6E3CY022
Mynd Allan am Bryd o Fwyd (Lefel:Mynediad Un)
HD6E1CY023
Mynd Allan am Bryd o Fwyd (Lefel:Mynediad Tri)
HD6E3CY022
Hylendid yn y Gegin (Lefel:Mynediad Un)
HB1E1CY037
H/505/4247
Hylendid yn y Gegin (Lefel:Mynediad Dau)
HB1E2CY048
Hylendid yn y Gegin (Lefel:Mynediad Dau)
HB1E2CY048
Hylendid yn y Gegin (Lefel:Mynediad Tri)
NF4E3CY014
T/506/6807
Hylendid yn y Gegin (Lefel:Mynediad Un)
HB1E1CY037
H/505/4247
Hylendid yn y Gegin (Lefel:Mynediad Tri)
NF4E3CY014
T/506/6807
Defnyddio Offer Domestig (Lefel:Mynediad Un)
HD6E1CY024
Defnyddio Offer Domestig (Lefel:Mynediad Dau)
HD6E2CY027
Defnyddio Offer Domestig (Lefel:Mynediad Dau)
HD6E2CY027
Defnyddio Offer Domestig (Lefel:Mynediad Tri)
HD6E3CY023
Defnyddio Offer Domestig (Lefel:Mynediad Un)
HD6E1CY024
Defnyddio Offer Domestig (Lefel:Mynediad Tri)
HD6E3CY023
Coginio Pryd Syml (Lefel:Mynediad Un)
NF4E1CY012
Coginio Pryd Syml (Lefel:Mynediad Dau)
NF4E2CY016
Coginio Pryd Syml (Lefel:Mynediad Dau)
NF4E2CY016
Coginio Pryd Syml (Lefel:Mynediad Tri)
NF4E3CY015
Coginio Pryd Syml (Lefel:Mynediad Un)
NF4E1CY012
Coginio Pryd Syml (Lefel:Mynediad Tri)
NF4E3CY015
Peryglon yn y Cartref (Lefel:Mynediad Dau)
HD6E2CY028
Peryglon yn y Cartref (Lefel:Mynediad Tri)
HD6E3CY024
Diogelwch Personol (Lefel:Mynediad Dau)
HB5E2CY002
Deall Effeithiau Alcohol (Lefel:Mynediad Tri)
PA9E3CY010
R/505/6950
Deall Effeithiau Alcohol (Lefel:Mynediad Tri)
PA9E3CY010
R/505/6950
Diogelwch Personol (Lefel:Mynediad Un)
HB5E1CY001
Gweithgareddau Hamdden ar gyfer Byw yn Iach (Lefel:Mynediad Un)
HJ1E1CY007
R/505/3496
Gweithgareddau Hamdden ar gyfer Byw yn Iach (Lefel:Mynediad Dau)
HJ1E2CY007
J/505/4273
Gweithgareddau Hamdden ar gyfer Byw yn Iach (Lefel:Mynediad Dau)
HJ1E2CY007
J/505/4273
Gweithgareddau Hamdden ar gyfer Byw yn Iach (Lefel:Mynediad Tri)
HJ1E3CY008
J/505/4368
Gweithgareddau Hamdden ar gyfer Byw yn Iach (Lefel:Mynediad Un)
HJ1E1CY007
R/505/3496
Gweithgareddau Hamdden ar gyfer Byw yn Iach (Lefel:Mynediad Tri)
HJ1E3CY008
J/505/4368

Cydnabod Dysgu Blaenorol (RPL)

Dull asesu sy’n arwain at ddyfarnu credyd yw Cydnabod Dysgu Blaenorol. Mae’n rhaid i aseswyr ystyried a yw Cydnabod Dysgu Blaenorol yn berthnasol i unrhyw ddysgwyr.  Dull asesu yw hwn sy’n ystyried a all dysgwyr ddangos eu bod yn bodloni gofynion asesu uned / rhan o uned a / neu gymhwyster drwy wybodaeth, dealltwriaeth neu sgiliau sydd ganddynt eisoes ac felly nad oes angen iddynt eu datblygu drwy ddilyn cwrs dysgu.

Cliciwch yma i weld y polisi Cydnabod Dysgu Blaenorol am arweiniad pellach.

Prosesau Sicrhau Ansawdd

Cofrestru

Rhaid i ganolfannau gofrestru pob dysgwr yn brydlon, mewn ffordd amserol, sy’n briodol i hyd dyddiad dechrau’r cwrs. I gael arweiniad ar gofrestru dysgwyr, cliciwch yma.

Cyflwyno ac Asesu

Cyflwyno

Rhaid i ganolfannau sicrhau bod cymwysterau'n cael eu cyflwyno mewn modd effeithlon ac effeithiol. Nodwedd hanfodol o ran cyflwyno'n effeithiol yw cynllunio cyrsiau yn drylwyr ac yn fanwl. Mae'n rhaid i ganolfannau allu dangos bod ganddyn nhw broses fewnol gadarn ar gyfer dylunio, datblygu a chyflwyno cyrsiau cydlynol.

Un o nodweddion allweddol nifer o'n cymwysterau yw'r hyblygrwydd maen nhw'n ei gynnig i ganolfannau eu rhoi yn eu cyd-destun i fodloni anghenion penodol eu dysgwyr. Mae'r hyblygrwydd hwn yn hyrwyddo ymgysylltiad cadarn â dysgwyr, a phrofiadau dysgu ystyrlon.

Dylai canolfannau sicrhau bod cynlluniau gwaith a chynlluniau gwersi manwl ar waith sy'n ystyried pob agwedd ar fanyleb y cymhwyster. Dylai'r rhain gynnwys manylion y strategaethau a'r adnoddau sy'n angenrheidiol ar gyfer addysgu, ac asesiadau sy'n bodloni anghenion dysgwyr.

Mae'n rhaid i ddulliau addysgu a dysgu fod yn gyson â chyd-destun, lefel ac amodau'r cymhwyster, ac mae'n rhaid iddyn nhw gael eu dylunio i gynnwys, ysgogi a chymell dysgwyr.

Asesu

Mae'n rhaid i asesiadau sydd wedi cael eu creu gan ganolfannau fodloni manyleb y cymhwyster. Mae'n rhaid i asesiadau alluogi'r asesydd i wahaniaethu'n gywir ac yn gyson rhwng y lefelau cyrhaeddiad mae'r dysgwyr wedi'u dangos. Dim ond deunydd sydd wedi dod o'r wybodaeth, y sgiliau a'r ddealltwriaeth yn y fanyleb sydd i'w gynnwys yn yr asesiad, ac mae'n rhaid i lefel y galw fod yn gyson.

Mae'n rhaid i asesiad wneud y canlynol:

  • sicrhau ei fod yn bosib i ddysgwyr ddangos i ba raddau mae ganddyn nhw'r wybodaeth, y sgiliau a'r ddealltwriaeth sy'n angenrheidiol ar gyfer y cymhwyster
  • galluogi i ddysgwr sy'n meddu ar yr wybodaeth, y sgiliau a'r ddealltwriaeth angenrheidiol gyrraedd y lefel cyrhaeddiad sydd wedi'i nodi
  • bod yn addas i'r diben, yn ddilys ac yn briodol i'r wybodaeth, y sgiliau a'r ddealltwriaeth sy'n cael eu mesur
  • gwahaniaethu'n effeithiol rhwng dysgwyr (ar sail yr wybodaeth, y sgiliau a'r ddealltwriaeth sy'n cael eu hasesu)
  • mesur yr wybodaeth, y sgiliau a'r ddealltwriaeth y maent i fod i'w mesur yn gywir

Mae'n ofynnol i ganolfannau sicrhau bod yr asesiadau sydd wedi cael eu creu gan ganolfannau yn cael eu hadolygu, a'u diwygio os oes angen, i sicrhau eu bod yn parhau i fod yn addas i'r diben, er enghraifft, drwy adlewyrchu gofynion, arfer da neu ddeddfwriaeth newydd.

Bydd rhai cymwysterau a'u hunedau yn rhagnodi'r dulliau asesu sydd i'w defnyddio. Bydd y dulliau hyn wedi'u nodi mewn unedau unigol

Lle nad yw'r dulliau wedi cael eu rhagnodi, dylai canolfannau ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau asesu i asesu dysgwyr gan y bydd hyn yn galluogi dysgwyr i ddangos eu gwybodaeth a/neu eu cymhwysedd. Y peth pwysicaf yw bod y dulliau asesu yn briodol ar gyfer y canlyniad a fwriedir.

Mae'n rhaid i ganolfannau gadw at ofynion asesu Agored Cymru wrth ddarparu cymwysterau, uned neu unedau.

I gael arweiniad ar asesu, cyfeiriwch at Canllawiau ar Asesu Agored Cymru.

Mae’n rhaid i aseswyr:

  • fod â phrofiad cyfredol a/neu berthnasol ym maes asesu;
  • fod wedi ymgymryd â hyfforddiant perthnasol os yn newydd i asesu (gweler y wefan ar gyfer cyrsiau Cyflwyniad i Asesu Agored Cymru);
  • fod â gwybodaeth dda am ofynion asesu Agored Cymru a dealltwriaeth dda ohonynt;
  • fod yn gyfarwydd â lefel y cymhwyster a'i uned(au);
  • fod â gwybodaeth dda am y pwnc a dealltwriaeth a/neu brofiad o'r uned(au)/cymhwyster neu gymwysterau sy'n cael eu hasesu.

Oni nodir hynny yng nghanllawiau’r cymhwyster neu ym manyleb yr uned, ar hyn o bryd nid oes yn rhaid i aseswyr gael cymhwyster asesu ffurfiol* i asesu unedau a / neu gymwysterau Agored Cymru. Er hynny, mae Agored Cymru yn argymell yn gryf bod aseswyr yn gweithio tuag at ennill achrediad ffurfiol (e.e. Tystysgrif Lefel 3 mewn Asesu Cyrhaeddiad Galwedigaethol).  Hefyd, mae Agored Cymru yn argymell yn gryf bod aseswyr yn mynychu hyfforddiant Cyflwyniad i Asesu Agored Cymru.

Gofynion Penodol o ran Aseswyr

Nid oes gofynion o ran aseswyr ychwanegol.

Sicrhau Ansawdd Mewnol

Mae’n rhaid i ganolfannau weithredu a chynnal system sicrhau ansawdd mewnol effeithiol. Mae dilysu mewnol yn rhan hanfodol o system sicrhau ansawdd, yn arbennig os nad oes asesiad cyfunol (diwedd cwrs) allanol fel arholiad neu brawf ar-lein ar gael.

Nid yw Agored Cymru yn gorfodi proses ddilysu mewnol benodol ar ganolfannau, ond disgwylir i ganolfannau roi gwiriadau dilysu mewnol effeithiol ar waith i gadarnhau bod y broses asesu (h.y. o’r gwaith cynllunio cyn y cwrs i ddyfarnu credyd) yn addas ar gyfer y diben ac yn cael ei gweithredu’n gywir, yn deg ac yn gyson ac i'r safon a fynnir. 

Mae’n rhaid i ganolfannau gadw at ofynion sicrhau ansawdd Agored Cymru wrth ddilysu unrhyw uned(au) o gymwysterau yn fewnol.

Mae'n rhaid i swyddogion sicrhau ansawdd mewnol:

  • fod â phrofiad cyfredol a/neu berthnasol ym maes asesu a dilysu mewnol;
  • fod wedi ymgymryd â hyfforddiant perthnasol os yn newydd i sicrhau ansawdd mewnol (gweler y wefan ar gyfer cyrsiau Cyflwyniad i Ddilysu Mewnol Agored Cymru);
  • fod â gwybodaeth dda am ofynion dilysu mewnol Agored Cymru a dealltwriaeth dda ohonynt.
  • fod â gwybodaeth a dealltwriaeth dda o unedau a chymwysterau Agored Cymru yn y sector maent wedi’i ddewis. 
  • fod yn gyfarwydd â lefel yr uned(au) / y cymhwyster neu'r cymwysterau sy’n cael eu darparu;

Oni nodir hynny yng nghanllawiau’r cymhwyster neu ym meini prawf yr uned*, ar hyn o bryd nid oes yn rhaid i ddilyswyr mewnol gael cymhwyster dilysu mewnol ffurfiol i ddilysu unedau a / neu gymwysterau Agored Cymru yn fewnol.  Ond, mae Agored Cymru yn argymell yn gryf bod dilyswyr mewnol yn gweithio tuag at achrediad ffurfiol (e.e Agored Cymru - Tystysgrif Lefel 4 mewn Arwain y gwaith o Sicrhau Ansawdd Mewnol Arferion a Phrosesau Asesu). Hefyd, mae Agored Cymru yn argymell yn gryf bod aseswyr yn mynychu hyfforddiant Cyflwyniad i Asesu Agored Cymru. Mae'r dyddiadau y cynhelir digwyddiadau hyfforddi wedi'u nodi yma.

Ni chaiff dilyswyr mewnol ddilysu eu deunyddiau asesu eu hunain yn fewnol, eu tasgau na’u penderfyniadau asesu.   Felly, mae Agored Cymru yn argymell bod sgiliau dilysu mewnol y tîm cyfan yn cael eu datblygu.  Mae hyn yn rhoi mwy o hyblygrwydd i'r ganolfan ac yn osgoi dibynnu gormod ar unrhyw berson unigol.

* Mae rhai gofynion penodol yn berthnasol i rai cymwysterau ac y mae’n rhaid eu bodloni er mwyn i diwtoriaid / aseswyr allu darparu ac asesu'r cymhwyster.Edrychwch ar y canllawiau sy’n berthnasol i'r cymhwyster i gadarnhau bod eich tiwtoriaid / aseswyr yn gallu bodloni'r gofynion hyn.Mewn rhai achosion, rhaid rhoi tystiolaeth o brofiad / cymhwyster y tiwtor / aseswr i Agored Cymru cyn darparu'r cymhwyster.

Mae’n rhaid i ganolfannau gadw at ofynion asesu Agored Cymru wrth ddarparu cymwysterau, neu unrhyw uned/unedau sy’n rhan o gymwysterau.

I gael canllawiau ar ddilysu mewnol edrychwch ar Canllawiau ar Ddilysu Mewnol  Agored Cymru.

Craffu ar Safonau Asesu Canolfannau (CASS)

Mae’r dull hwn yn rhan o strategaeth CASS Agored Cymru sy’n sicrhau bod digon o reolaethau ar waith pan fydd asesiad yn cael ei farcio gan ganolfan (Amod H2).

Mae Agored Cymru yn gosod ei holl gymwysterau mewn ‘bandiau risg’. Mae bandiau risg cymwysterau yn bwydo i mewn i’r system rheoli risg, sy’n cael ei ‘bwysoli’ yn unol â hynny.

Wrth bennu band risg ar gyfer cymhwyster, mae Agored Cymru yn ystyried y canlynol:

  • lluniad pob cymhwyster
  • unrhyw safonau proffesiynol sy’n berthnasol i’r cymhwyster
  • unrhyw dystiolaeth sy’n gysylltiedig â’r sector a/neu’r cymhwyster sy’n awgrymu y gallai fod angen dull gweithredu CASS penodol.

Agored Cymru sy’n penderfynu ar y dull mwyaf priodol o weithredu CASS ar gyfer pob un o’i gymwysterau er mwyn sicrhau bod y gofynion sylfaenol rheoleiddiol yn cael eu bodloni’n llawn. Bydd pob canolfan sy’n cynnig ac yn asesu cymwysterau Agored Cymru yn cael Adolygiad Blynyddol o Ganolfannau.

Agored Cymru is confident that this will give additional assurance to sector specific bodies and protect the integrity of the qualification(s), creating better outcomes for learners.

Addasiadau Rhesymol i’r Broses Asesu ac Ystyriaethau Arbennig ar Gyfer Asesiad

Efallai y bydd angen newid asesiad er mwyn addasu ar gyfer anghenion dysgwr unigol neu grŵp bach o ddysgwyr. Gall hyn fod er mwyn ymateb i anabledd neu anhawster sydd gan y dysgwr sy'n golygu bod y dysgwr dan anfantais sylweddol yn y broses asesu.   Ni ddylai addasiadau rhesymol i’r broses asesu effeithio ar natur ddarllenadwy na dilysrwydd canlyniadau'r asesiad a rhaid iddynt fod mor drylwyr â'r dulliau asesu a ddefnyddir ar gyfer dysgwyr eraill.   Rhaid cofnodi pob asesiad rhesymol a chael sêl bendith y dilysydd mewnol cyn ei ddefnyddio. 

Mewn rhai achosion efallai y bydd angen ystyried defnyddio ystyriaethau arbennig wrth wneud addasiadau ar gyfer dysgwr neu grŵp o ddysgwyr fel rhan o'r broses asesu.  Gellir gwneud hyn os bydd amgylchiadau sydd y tu hwnt i reolaeth y dysgwr yn effeithio ar ei berfformiad mewn asesiad e.e. salwch personol diweddar, damwain, profedigaeth, tarfu difrifol yn ystod yr asesiad neu os bydd y dysgwr wedi methu cyflawni rhan o'r asesiad oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i'w reolaeth.  Rhaid cofnodi unrhyw ystyriaethau arbennig a rhaid i'r dilysydd mewnol eu cymeradwyo cyn eu defnyddio.

Mae’n rhaid i aseswyr gofio na ddylai addasiadau rhesymol a / neu ystyriaethau arbennig roi mantais annheg i'r dysgwr. Mae’n rhaid i ganlyniad y dysgwr adlewyrchu ei gyrhaeddiad yn yr asesiad ac nid, o reidrwydd, ei gyrhaeddiad posib.

I gael arweiniad pellach ar y mathau o addasiadau rhesymol a / neu ystyriaethau arbennig y gellir eu defnyddio a'r broses sydd i'w dilyn, edrychwch ar Bolisi Addasiadau Rhesymol i Broses Asesu Agored Cymru a Pholisi Ystyriaethau Arbennig ar gyfer Asesu Agored Cymru. 

Cadw Deunyddiau Asesu

Mae’n rhaid i ganolfannau gadw'r holl dystiolaeth sy’n berthnasol i ddysgwyr a’u cofnodion asesu yn ddiogel er mwyn sicrhau eu bod ar gael ar gyfer digwyddiadau sicrhau ansawdd allanol a digwyddiadau safoni rhanbarthol.  Mae cofnodion asesu diweddar sy’n cael eu cadw'n ddiogel hefyd yn helpu i leddfu ar y risg o gamymarfer wrth asesu, neu broblemau a allai godi os bydd yr aseswr yn gadael yn ystod y cwrs.  

Mae’n rhaid i ganolfannau wneud y canlynol:

a) cadw cofnodion asesu yn ddiogel;

b) cadw cofnodion am gyrhaeddiad dysgwr sy’n gyfoes, sy'n cael eu hadolygu yn rheolaidd ac sydd wedi’u tracio’n gywir;

c) sicrhau bod yr holl dystiolaeth ddiweddaraf am ddysgwyr ar gael ar gyfer sicrhau ansawdd allanol;

Yn ogystal, yn unol â gofynion Agored Cymru a gofynion rheoleiddio, mae’n rhaid i Ganolfannau gadw digon o dystiolaeth am waith dysgwyr, penderfyniadau asesu a chofnodion dilysu mewnol i alluogi monitro safonau dros gyfnod o amser. I gael arweiniad pellach, edrychwch ar Polisi Cadw Deunyddiau AsesuAgored Cymru.

Safoni

Fel canolfan gydnabyddedig Agored Cymru, disgwylir i chi fynychu gweithdai Safoni. Mae'r gweithdai yn cynnig cyfle i chi gwrdd â chydweithwyr proffesiynol ym maes asesu a sicrhau ansawdd gyda'r nod o ddatblygu dealltwriaeth ar y cyd o safonau Agored Cymru ac i rannu arbenigedd ac ymarfer blaenllaw.

Mae’r gweithdai safoni yn sesiynau rhyngweithiol a chefnogol lle byddwch yn edrych ar enghreifftiau o ddefnyddiau asesu a thystiolaeth dysgwyr ac yn gwneud penderfyniadau ynglŷn â’r canlynol:

  • a yw'r deunyddiau asesu'n ddilys ac yn addas ar gyfer y diben;
  • a yw tystiolaeth y dysgwr yn ddilys, yn ddibynadwy ac yn ddigonol;
  • a yw'r arferion asesu a’r broses sicrwydd ansawdd mewnol yn effeithiol ac yn deg;
  • a yw safonau yn gyson ar draws canolfannau;
  • a oes modd cymharu safonau dros gyfnod o amser;
  • a yw'r sampl yn cynnwys unrhyw arferion blaenllaw.

I gael y wybodaeth ddiweddaraf am weithdai safoni Agored Cymru, edrychwch ar ein gwefan, sef http://www.agored.cymru/Digwyddiadau/Safoni

Ardystio

Bydd Tystysgrifau ar gael o fewn Safonau Gwasanaeth.

Diwygiadau