Dr Hywel Davies

Ymunodd Dr Hywel Davies â’r Bwrdd yn 2012 fel aelod penodedig. Ef yw Cadeirydd y Pwyllgor Ansawdd, Safonau a Rheoleiddio.

Mae gan Hywel dros 30 mlynedd o brofiad o dderbyniadau yn y sector Addysg Uwch ac ef oedd cyd-gadeirydd Grwp Sefydlog UCAS Cymru am nifer o flynyddoedd.

Fel cyn Gyfarwyddwr Uned Mynediad Cymru, mae Hywel wedi cynnal ei ymrwymiad i ehangu mynediad ac addysg ac i hyrwyddo manteision cymdeithasol amrywiaeth. Mae’n canolbwyntio’n arbennig ar ddefnyddio 'data cyd-destunol' mewn 'prosesau derbyniadau teg' a'r cyd-destun deddfwriaethol ar gyfer derbyniadau i Addysg Uwch.

Yn y 1980au, roedd Hywel yn rhan o’r mudiad mynediad a’r uniad llwyddiannus o Rwydweithiau’r Coleg Agored ac Asiantaethau Dilysu Awdurdodedig.

Wedi ymddeol o AU ym mis Mehefin 2014, mae bellach yn ymwneud ag ymchwil ac ysgrifennu academaidd, ymgynghori ynghyd â bod yn un o Gyfarwyddwyr Agored Cymru.