Katy Burns MBE

Ymunodd Katy â’r Bwrdd yn 2017 fel aelod penodedig. Cafodd ei phenodi yn Gadeirydd y Bwrdd yn Awst 2021 ac mae hefyd yn Gadeirydd y Pwyllgor Ansawdd, Safonau a Rheoleiddio.

Cafodd Katy ei magu yn yr Alban, a bu hi’n byw am gyfnod ar Ynys Islay. Am lawer o flynyddoedd, teithiodd gyda’i gŵr a oedd yn yr Awyrlu, gan weithio fel dadansoddwr systemau ar brosiectau ac ar gyfer elusennau, cyn ymgartrefu yng Nghymru a dechrau ar ei gyrfa ym maes Addysg Bellach yng Ngholeg Gwent. Ar ôl gweithio mewn amrywiaeth o swyddi, o ddarlithydd i Gyfarwyddwr Campws, daeth yn Is-bennaeth gyda chyfrifoldeb ar draws campysau'r coleg dros gynllunio’r cwricwlwm, datblygu busnes a'r cwricwlwm, sicrhau ansawdd, masnachfraint y pum sir ar gyfer Dysgu Oedolion yn y Gymuned, a'r ganolfan ranbarthol ar gyfer Dysgu Cymraeg i Oedolion.

Ers iddi ymddeol o’r coleg yn 2007, mae Katy wedi ymgymryd ag amrywiaeth o brosiectau a swyddi fel ymgynghorydd yng Nghymru, yn Lloegr ac yn yr Alban. Mae llawer o’r rhain wedi cynnwys adolygu a datblygu prosesau sicrhau ansawdd ar gyfer sefydliadau, gan gynnwys NOCN a rhanbarthau OCN, partneriaethau Dysgu Oedolion yn y Gymuned, YMCA ac Addysg Bellach, ynghyd ag adolygu ansawdd Dysgu fel Teulu yng Nghymru.

 

Drwy ColegauCymru, mae Katy wedi hwyluso nifer o rwydweithiau rheolwyr Addysg Bellach, wedi arwain a gweithio ar ystod o brosiectau a ariannwyd gan y llywodraeth, ac wedi helpu i ddatblygu polisïau a strategaethau.  Roedd hi’n arwain y prosiect i gael cydnabyddiaeth i Agored Cymru fel Corff Dyfarnu CQFE / QCF. Mae hi hefyd wedi bod yn aelod o fyrddau a phwyllgorau OCN, Agored ac Addysg Bellach. Yn ddiweddar, mae Katy wedi gweithio gyda Prevent i hyfforddi staff i ddiogelu dysgwyr rhag bygythiadau o niwed, gan gynnwys niwed yn sgil radicaliaeth a therfysgaeth.