Peter Johnson

Mae Peter yn Pennaeth Datblygu Busnes a Chefnogi Cwsmeriaid.

Ymunodd Peter â’r sefydliad yn 2003 fel Gweinyddwr TG.  Ers hynny, mae wedi dal nifer o swyddi yn y sefydliad.

Mae Peter yn gyfrifol am dwf masnachol Agored Cymru, ac yn arwain y Tîm Rheoli Datblygu Busnes a’r Tîm Rheoli Cefnogi Cwsmeriaid.

Mewn swyddi blaenorol gydag Agored Cymru, mae Peter wedi rheoli prosesau datblygu ac adolygu cymwysterau ac unedau Agored Cymru ar gyfer fframweithiau rheoleiddio penodol. Roedd hyn yn cynnwys gweithio’n agos gyda chydweithwyr a chysylltu â rheoleiddwyr cymwysterau i sicrhau cydymffurfiaeth cyflwyniadau ac adolygiadau.

Mae Peter yn bwynt cyswllt penodol ar gyfer ein canolfannau. Mae hefyd yn gyswllt ar gyfer swyddogion sy’n gyfrifol am lunio polisïau, rheoleiddio a sicrhau ansawdd.

Mae gan Peter radd Baglor yn y Gwyddorau (Anrhydedd) ym maes Systemau Gwybodaeth o Brifysgol Morgannwg.

Cysylltwch â Peter Johnson.