Dr Esther Barrett

Fel arbenigwr pwnc Jisc mewn ymarfer digidol, mae Esther wedi ymwneud yn agos â'r mudiad llythrennedd digidol a datblygu strategaeth ddigidol genedlaethol ar gyfer y sectorau ôl-16 yng Nghymru.

Mae Esther yn cynnig ymgynghoriaeth a hyfforddiant mewn meysydd fel cyflogadwyedd, cyflwyno digidol prentisiaeth, dysgu ac asesu cyfunol, a gallu digidol.

Mae Esther wedi bod yn gweithio yn y sector addysg ers 20 mlynedd. Dechreuodd ddysgu llythrennedd ac ESOL yn y gymuned, ac aeth ymlaen i ddylunio cyrsiau, hyfforddi athrawon ac ehangu cyfleoedd dysgu wrth weithio ar brosiect rhwydwaith dysgu rhanbarthol.

Ymunodd â Jisc yn 2006, fel cynghorydd e-ddysgu yn cefnogi'r sectorau dysgu cymunedol oedolion a gwirfoddol ledled y wlad. Dros wyth mlynedd gwelodd y sectorau hyn yn tyfu o fod yn anymwybodol o'r cyfleoedd a roddir gan dechnoleg i'w cefnogi nhw a'u dysgwyr, i gofleidio technoleg a llythrennedd digidol fel rhan o'u gweledigaeth a'u datblygiad strategol yn y dyfodol.

Mae gan Esther PhD mewn addysg ac iaith ar-lein o Brifysgol Abertawe. Cyfunodd ei diddordeb mewn dysgu gydol oes, technoleg, dwyieithrwydd a llythrennedd i ddatblygu traethawd ymchwil yn seiliedig ar agweddau dysgwyr sy'n oedolion sy'n siarad Cymraeg at dechnoleg ac iaith ar-lein.

Y tu allan i'r gwaith, mae hi'n hoffi teithio, cadw'n heini a mynd i sioeau.